Gwyliwch y bwlch datganoli - darparu gorsafoedd rheilffordd newydd yng Nghymru

Cyhoeddwyd 26/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yng nghyd-destun datganoli, mae gweithredu a chyllido'r rheilffyrdd yn fater cymhleth. Mae'r blog hwn yn esbonio sut y gellid darparu gorsafoedd rheilffordd newydd yng Nghymru.

I weld y cefndir cyffredinol, darllenwch ein blog ar ddyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru.

Ugain mlynedd ar ôl datganoli, mae'r cyfrifoldeb dros gaffael a rheoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru wedi cael ei ddatganoli ac mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i fuddsoddi yn y rheilffyrdd, gan gynnwys seilwaith a gorsafoedd. Fodd bynnag, yn wahanol i'r Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd a chyllido Network Rail.

Sut mae gorsafoedd newydd yn cael eu cyllido yng Nghymru?

Yng Nghymru a Lloegr, Network Rail yw perchennog yr asedau a gweithredydd y rhwydwaith rheilffyrdd ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd, a'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gyfrifol am nodi gwelliannau i'w gwneud a phennu'r arian sydd ar gael.

Mae'r rheilffyrdd yn cael eu cynllunio dros gyfnodau rheoli o bum mlynedd - mae'r cyfnod rheoli nesaf (CP6) yn rhedeg rhwng mis Ebrill 2019 a mis Mawrth 2024. Cyn pob cyfnod rheoli, mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn llunio manyleb allbwn lefel uchel (HLOS) a datganiad o'r cyllid sydd ar gael (SoFA), sy'n pennu'r hyn y dylai Network Rail ei gyflawni. Ar gyfer CP6, mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflwyno 'piblinell' newydd ar gyfer cynigion i wella'r rheilffyrdd – seilwaith rheilffyrdd newydd yn y bôn. Nod hyn yw creu rhaglen dreigl o fuddsoddiad yn y rheilffyrdd.

Y ffynhonnell ariannu debygol ar gyfer y rhan fwyaf o orsafoedd rheilffordd newydd a gynigir gan Lywodraeth Cymru yw Cronfa Gorsafoedd Newydd Llywodraeth y DU. Darparodd Network Rail wybodaeth am y meini prawf a'r canllawiau i ymgeiswyr am y rownd ddiwethaf. Fodd bynnag, nid yw'r Gronfa Gorsafoedd Newydd ar agor ar hyn o bryd, felly nid yw'r meini prawf ar gyfer y dyfodol wedi'u cyhoeddi. Mae Network Rail hefyd yn darparu gwybodaeth am arian i wella gorsafoedd cyfredol.

Gellir datblygu cynigion am orsafoedd drwy ddulliau eraill. Er enghraifft, bydd cynllun gorsaf Parcffordd Caerdydd yn cael ei ariannu'n breifat yn bennaf, gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Hefyd, yn ddiweddar comisiynodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru astudiaeth gwmpasu ar gyfer gorsaf bosibl Parcffordd Gorllewin Cymru, ond er bod adroddiadau yn y cyfryngau yn awgrymu ei fod wedi ymrwymo mewn egwyddor i'w darparu, mae'r mecanwaith cyllido yn aneglur.

Ym mis Mai 2018, comisiynodd Llywodraeth Cymru yr Athro Mark Barry ym Mhrifysgol Caerdydd i wneud achos dros fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd. Mae’r adroddiad hwn, Y Rhwydwaith Rheilffyrdd yng Nghymru – yr achos dros fuddsoddi, yn amlinellu gweledigaeth ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru a’r ymyriadau mwyaf tebygol y mae eu hangen i gyflawni’r weledigaeth hon.

Mae’r Athro Barry yn nodi nifer o orsafoedd newydd posibl ledled Cymru, gan gynnwys: Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar linell y Gororau rhwng Wrecsam a Bidston; ‘gorsafoedd newydd dethol’ ar hyd prif linell y Gogledd, gan gynnwys Gaerwen, Cyffordd Treffynnon a Pharcffordd De Swydd Gaer; a Magwyr, Llanwern, Llaneirwg (Parcffordd Caerdydd), Rover Way, Meisgyn-Cyffordd 34, Bracla, y Cocyd a San Clêr ar hyd prif linell y De.

Er bod yr adroddiad yn gwneud achos dros ddatblygu’r gorsafoedd newydd hyn, a bod nifer ohonynt eisoes wedi’u cynnwys ym mhroses asesu tri cham gyfredol Llywodraeth Cymru (isod), mae angen sicrhau cyllid o hyd er mwyn eu darparu.

Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r broses o ddarparu gorsafoedd newydd?

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu proses asesu tri cham (PDF, 448KB) i flaenoriaethu cynigion ar gyfer gorsafoedd newydd. Mae hyn wedi'i gynllunio er mwyn datblygu achosion busnes ar gyfer cynigion sydd wedi'u blaenoriaethu, a hynny i roi'r cyfle gorau iddynt sicrhau cyllid pan fydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae hefyd yn ceisio cyfyngu gwaith costus (amcangyfrifon cost a modelu amserlenni) i'r prosiectau â'r flaenoriaeth uchaf. Mae Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r canlynol.

Datblygu meini prawf asesu a chan ddefnyddio’r meini prawf hynny, rhestr wedi’i blaenoriaethu o orsafoedd newydd i’w hystyried ymhellach (mewn perthynas â sicrhau cyllid gan y diwydiant rheilffyrdd).

Ysgrifennodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi ac Isadeiledd ar y pryd, at holl Aelodau'r Cynulliad ym mis Mehefin 2017 (PDF, 444KB), gan ddweud:

...trwy wneud y gwaith hwn, [mae Llywodraeth Cymru] yn cryfhau gallu cynigion ar gyfer gorsafoedd i elwa ar alwad am geisiadau am gyllid [yn y dyfodol] [a wneir gan Lywodraeth y DU].

Roedd yr un llythyr (PDF, 448KB) yn rhoi manylion am y dull gweithredu mewn perthynas â dethol ac asesu - mae'r meini prawf i'w gweld yn Atodiad 1. Yn gryno, y camau yw:

  • Cam 1: Cynigion am orsafoedd newydd yn cael eu cyflwyno o sawl ffynhonnell. Maent yn cael eu dethol i'w datblygu ar sail ranbarthol gan ddefnyddio meini prawf Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), ystyriaeth o nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a mecanweithiau eraill. Mae cynigion sydd wedi'u blaenoriaethu yn mynd i gam 2 ar gyfer astudiaeth bellach.
  • Cam 2: Gan ddefnyddio adnoddau mewnol a chyngor technegol, mae hyn yn cynnwys: asesu achosion ariannol ac economaidd, asesiad safonol o'r galw a ragwelir, asesiad hygyrchedd gan Trafnidiaeth Cymru a chyngor gan Network Rail am yr hyn y gellir ei gyflawni. Disgwylir i'r broses gyfan gymryd tua 6 mis, ac wedi iddi gael ei chwblhau, gellir ystyried y grŵp nesaf o orsafoedd rhanbarthol, os yw'n briodol.
  • Cam 3: Caiff y blaenoriaethau uchaf eu datblygu a'u hasesu ymhellach i baratoi ar gyfer galwad gyllido. Mae hyn yn cynnwys adroddiad cam un WelTAG, achos busnes a phroses Llywodraethu ar gyfer Prosiectau Buddsoddi Rheilffyrdd (GRIP) Network Rail.

Pa gynigion am orsafoedd newydd sy'n cael eu hasesu?

Roedd Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015 Llywodraeth Cymru yn rhestru gorsafoedd arfaethedig i'w hasesu. Ar 26 Ebrill 2017, ysgrifennodd Ysgrifennydd y Cabinet (ar y pryd) at Aelodau'r Cynulliad (PDF, 228KB) yn cyhoeddi'r gorsafoedd newydd a oedd yn mynd i gam 2, ar ôl asesu 46 o gynigion yng ngham 1.

Ar ôl y cyhoeddiad hwn, ychwanegwyd Gorsaf Carno at restr asesu cam 2 yn dilyn ymgyrch gyhoeddus. Cafodd Gorsaf Bow St gyllid o Gronfa Gorsafoedd Newydd Llywodraeth y DU, felly roedd wedi'i hymrwymo i'w darparu ac wedi'i thynnu o'r rhestr.

Roedd y diweddariad dilynol i'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2017 (Rhagfyr 2017) yn ymrwymo i ddatblygu'r gorsafoedd canlynol ar gyfer asesiad pellach cam 2 erbyn diwedd 2018:

  • De-ddwyrain Cymru: Melin Elái/Parc Victoria, Llanwern, Newport Road/Rover Way a Llaneirwg;
  • De-orllewin Cymru: Y Cocyd, Glandŵr, Sanclêr;
  • Gogledd Cymru: Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy/Porth y Gogledd, Gogledd Wrecsam, De Wrecsam, Llangefni;
  • Canolbarth Cymru: Carno.

Roedd y diweddariad i'r Cynllun Cyllid Trafnidiaeth Cenedlaethol 2017 hefyd yn ymrwymo i gyflwyno cynigion pellach i asesiad Cyfnod 2 yn 2018.

Beth am orsafoedd newydd ym Metro De Cymru?

Mae gorsafoedd ar linellau craidd y Cymoedd yn eithriad i'r prosesau a ddisgrifir uchod. Mae gwaith yn mynd rhagddo i drosglwyddo'r llinellau hyn i berchnogaeth Llywodraeth Cymru, er mwyn gallu cyflwyno cam 2 Metro De Cymru. Mae rhwymedigaethau hefyd ar y gweithredwr a'r partner datblygu (ODP) ar gyfer Masnachfraint Cymru a Gororau, sef Keolis Amey sy'n gweithredu fel TrC Trenau, i ddarparu gorsafoedd newydd ar y rhwydwaith Metro fel rhan o'r Cytundeb Grant ODP Trafnidiaeth Cymru (PDF, 7.8MB).

Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (ar y pryd), y dyfarniad o ran y Cytundeb Masnachfraint Reilffordd Cymru a’r Gororau newydd, gan ddweud:

"caiff gorsafoedd newydd eu hadeiladu yn Nghaerdydd yn Sgwâr Loudon, Heol y Crwys, Gabalfa a'r Flourish [ym Mae Caerdydd]".

Mae Cytundeb Grant ODP Trafnidiaeth Cymru yn amlinellu rhwymedigaethau'r gweithredwr a'r partner datblygu i ddarparu gorsafoedd newydd Ystâd Trefforest a Gabalfa erbyn 31 Hydref 2025 a 31 Mawrth 2027 yn y drefn honno, gan ddefnyddio cyllid a ddarperir drwy'r cytundeb. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymrwymiadau i wario isafswm ar asedau eraill os na roddir caniatâd cynllunio. Nid yw'r cytundeb yn crybwyll dyddiadau darparu ar gyfer gorsafoedd Heol y Crwys, Sgwâr Loudon a'r Flourish, ond mae'n pennu'r dyddiad targed 31 Mawrth 2024 i bob gorsaf gael achrediad gorsaf ddiogel, sy'n awgrymu y bydd y tair wedi'u hadeiladu erbyn hynny.

Sut y mae Llywodraeth Cymru'n ariannu seilwaith y rheilffyrdd?

Gan mai mater nas datganolwyd yw ariannu seilwaith y rheilffyrdd, nid yw grant bloc Cymru yn cynnwys cyllid i'w fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd (PDF,1.33MB). Fodd bynnag, gall Llywodraeth Cymru ddewis gwario arian o'r grant bloc ar seilwaith, neu geisio ffynonellau eraill o gyllid, fel cronfeydd strwythurol Ewropeaidd.

Yn ystod sesiwn dystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar 5 Rhagfyr 2018, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet (ar y pryd) a Chyfarwyddwr Seilwaith Economaidd Llywodraeth Cymru sut y gall Llywodraeth Cymru geisio ffynonellau cyllid o'r sector preifat a ffynonellau cyllid mwy arloesol (cipio gwerth tir) ar gyfer gwella gorsafoedd a datblygu gorsafoedd newydd. Dywedont:

… the contract that we signed with KeolisAmey does include for investment of nearly £200 million in station improvements across Wales. That's over and above what the UK Government should be spending on its own assets … we're also, elsewhere in Wales, where there's a commercial case … looking to work with commercial partners to develop stations ….

Mae Llywodraeth Cymru wedi galw am ddatganoli cyllid ar gyfer seilwaith y rheilffyrdd. Yn ystod a dadl yn y Cyfarfod Llawn ar ddyfodol rheilffyrdd Cymru ar 5 Chwefror, dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

... gyda'r pwerau cywir a'r cyllid angenrheidiol... gallem ni fod yn gwneud llawer mwy—mwy o wasanaethau i wella mynediad at swyddi a gweithgareddau hamdden; amseroedd teithio mwy deniadol i annog pobl i gefnu ar eu cerbydau preifat eu hunain; a mwy o orsafoedd i gysylltu ein cymunedau.

Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fuddsoddiad o £5 biliwn yn seilwaith y rheilffyrdd dros 15 mlynedd. Gyda rhestr hir o gynigion am orsafoedd yn cael ei datblygu, bydd llawer o gymunedau yng Nghymru yn aros i weld a allant fanteisio ar y gwelliannau sy'n cael eu haddo drwy'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd.

Erthygl gan Robert Byrne, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Byrne gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i'r Briff Ymchwil hwn gael ei gwblhau.