Cyllid Cymunedau

Cyfrifiad 2021 – beth y mae angen i chi ei wybod!

Bwriedir cynnal yr ail Gyfrifiad cenedlaethol ar hugain yng ngwanwyn 2021. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn cynnwys cynlluniau manwl yn ymwneud â chyfrifiad 2021, fel: cwestiynau a awgrymir; dyddiad a gynigir (21 Mawrth 2021); data personol / diogelwch digidol; a chynlluniau ar gyfer cyhoeddi data.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

27 Chwefror 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bwriedir cynnal yr ail Gyfrifiad cenedlaethol ar hugain yng ngwanwyn 2021.

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU Bapur Gwyn ym mis Rhagfyr 2018, a oedd yn cynnwys cynlluniau manwl yn ymwneud â chyfrifiad 2021, fel: cwestiynau a awgrymir; dyddiad a gynigir (21 Mawrth 2021); data personol / diogelwch digidol; a chynlluniau ar gyfer cyhoeddi data.

Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) sy’n gyfrifol am y Cyfrifiad yng Nghymru a Lloegr. Yn hanesyddol, mae’r Alban a Gogledd Iwerddon bob amser wedi bod yn gyfrifol am eu cyfrifiadau eu hunain.  Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mae yna Bwyllgor Cyfrifiad y DU sy’n cynnwys y pedair gwlad er mwyn cydlynu’r gwaith o wneud y Cyfrifiad.

Camau deddfwriaethol sy’n parhau

Disgwylir i Orchymyn Cyfrifiad gael ei drafod gan Senedd y DU yn hydref 2019. Caiff ei ddefnyddio i nodi bod cyfrifiad yn cael ei gynnal ac mae’n rhoi cyfle i Senedd y DU drafod a chytuno ar gynigion ar gyfer y cyfrifiad.

Yna bydd angen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio Rheoliadau Cyfrifiad, sy’n nodi’r dulliau cyflwyno a chasglu manwl, a dylid eu gosod ar ddechrau 2020.  Caiff y rhain eu pasio drwy’r penderfyniad negyddol.

Tablwr cyfrifiad Hollerith

Y camau hyd yma

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi treulio blynyddoedd yn ymchwilio, ymgynghori a phrofi cwestiynau ar gyfer Cyfrifiad 2021.  Yng Nghymru, mae grŵp cynghori Cymru yn bwydo i mewn i’r gwaith o ddatblygu holiadur y Cyfrifiad. Hefyd, cynhaliodd Pwyllgor Diwylliant a’r Gymraeg y Cynulliad sesiwn graffu gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar 18 Ebrill 2018, yn canolbwyntio ar gwestiynau arfaethedig yn y Cyfrifiad ac yn benodol materion yn ymwneud â chwestiynau posibl ar y Gymraeg, hunaniaeth rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.

Pa ystyriaeth sydd wedi’i rhoi i’r Gymraeg?

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y Gymraeg ac wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch dewis yr ardaloedd i brofi’r prif gwestiwn ar yr iaith. Ceir rhagor o fanylion here.

Sut mae’r cwestiynau’n wahanol i’r Cyfrifiad diwethaf?

Bydd Cyfrifiad 2021, am y tro cyntaf, yn casglu gwybodaeth am gyn-filwyr Lluoedd Arfog y DU. Cynigir hefyd y bydd cwestiwn gwirfoddol newydd ar gyfeiriadedd rhywiol i’r rhai 16 oed a throsodd. Yn ychwanegol at y cwestiwn arferol ynghylch bod yn wryw neu’n fenyw, bydd cwestiwn gwirfoddol hefyd ynghylch hunaniaeth rywedd i’r rhai 16 oed a throsodd.  Gwnaed gwaith pellach i ehangu a diweddaru opsiynau gan gynnwys o dan ethnigrwydd.

A fydd y Cyfrifiad yn cael ei weinyddu’n wahanol?

Bydd Cyfrifiad 2021 yn bennaf ar-lein am y tro cyntaf.  Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi gwneud gwaith ymchwil ac asesu i sicrhau nad yw hyn yn effeithio’n andwyol a’i fod yn sicrhau mwy o ymatebion gan grwpiau anodd eu cyrraedd.

Rhestr lawn o gwestiynau yn y Cyfrifiad arfaethedig

Mae’r rhestr derfynol o bynciau a argymhellir i’w casglu yng Nghyfrifiad 2021 wedi’i nodi yn y Papur Gwyn:

I aelwydydd

Perthnasoedd o fewn yr aelwydydd; Math o lety; Hunangynhwysol mewn llety; Nifer yr ystafelloedd gwely; Math o wres canolog; Deiliadaeth a math o landlord (os yn rhentu); Nifer y ceir neu faniau;

I sefydliadau cymunol

Math o sefydliad (gan gynnwys ar gyfer pwy y mae’n darparu a phwy sy’n gyfrifol am ei reoli); I drigolion mewn sefydliadau cymunol; Safle o fewn y sefydliad;

I ymwelwyr mewn aelwydydd

Enw; Rhyw; Dyddiad Geni; Lleoliad y breswylfa arferol

I drigolion mewn aelwydydd a sefydliadau cymunol

Enw; Dyddiad Geni; Rhyw; Statws priodasol/partneriaeth sifil cyfreithiol; Grŵp ethnig; Hunaniaeth genedlaethol; Swm o ofal di-dâl a ddarperir; Iechyd cyffredinol; Problem iechyd hirdymor neu anabledd; Cymwysterau; Mudo rhyngwladol hirdymor; Mudo rhyngwladol byrdymor; Cyfeiriad un flwyddyn yn ôl; Dinasyddiaeth (drwy’r pasbort a ddelir); Crefydd; Sgiliau Cymraeg (yng Nghymru yn unig); Y brif iaith a ddefnyddir; Hyfedredd Saesneg; Gweithgaredd economaidd; Galwedigaeth; Diwydiant; Dull o deithio i’r gwaith; Statws goruchwylio; Cyfeiriad lle gwaith; Cyfeiriad a math o ail gartref; Ail gartref; Cyfeiriad tymor-llawn myfyrwyr; Lluoedd arfog; Hunaniaeth rhyw; Cyfeiriadedd rhywiol.

Bydd y gwaith yn parhau tan ddechrau 2019 er mwyn cwblhau geiriad y cwestiynau.

A oes modd bwydo i mewn i’r broses o hyd? (Sut y gallwch gael rhagor o wybodaeth?)

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cynnal sioeau teithiol ym mis Mawrth 2019, gan gynnwys eu cynlluniau diweddaraf ar gyfer Cyfrifiad 2021.

Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith ymchwil ac ymgynghori sydd wedi llywio’r argymhellion ar gynnwys a’r ffordd y cynhelir Cyfrifiad 2021 i’w gweld ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Dewiswyd Ceredigion i helpu i sicrhau llwyddiant cyffredinol Cyfrifiad 2021 gydag ymarfer yn cael ei gynnal ar draws y sir ar 13 Hydref 2019. Bydd yr ymarfer yn galluogi’r SYG i brofi rhai o’r systemau a phrosesau y mae wedi’u rhoi ar waith cyn Cyfrfiad 2021 a fydd yn ddigidol am y tro cyntaf. Dewiswyd y sir arfordirol oherwydd bod ganddi gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac am ei bod yn cynnwys ardal wledig fawr â chwmpas rhyngrwyd amrywiol.

A fydd Cyfrifiad 2031?

Mae’n bosibl mai dyma fydd y Cyfrifiad olaf o’i fath.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn ymchwilio i’r defnydd o ddata gweinyddol i wella’r ffordd y gellir cynhyrchu ystadegau sy’n debyg i’r Cyfrifiad yn y dyfodol. Nid oes penderfyniad wedi cael ei wneud eto ar ddyfodol y Cyfrifiad. Nod y gwaith hwn fyddai dyblygu’r math o wybodaeth a gesglir drwy gyfrifiad, drwy ddefnyddio’r data gweinyddol sydd eisoes gan y llywodraeth, a fydd yn cael eu hategu gan arolygon.

Bydd data Cyfrifiad 2021 yn cael ei gymharu ag allbynnau ystadegol yn seiliedig ar y data gweinyddol. Manteision posibl y dull hwn fyddai lleihau costau a chael allbynnau mwy aml.

Caiff argymhellion eu gwneud i Lywodraeth y DU yn 2023.


Erthygl gan Martin Jennings, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: