Rhaglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru: pwysau ariannu a pherfformiad hyd yma.

Cyhoeddwyd 28/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 5 Mawrth bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn gyda'r teitl: Prentisiaethau: Buddsoddi mewn Sgiliau ar gyfer y Dyfodol.

Ymddengys bod Llywodraeth Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd ei tharged i greu 100,000 o brentisiaethau, heu hyd yn oed ragori ar y targed hwn.

Fodd bynnag, mae niferoedd uchel yn golygu bod y rhaglen yn wynebu 'gwasgbwyntiau' ariannu gyda Llywodraeth Cymru yn rheoli'r galw drwy gyfyngiadau a chyfres o flaenoriaethau prentisiaeth.

Mae wedi egluro y gallai fod angen gwneud 'penderfyniadau anodd' yn y dyfodol ar y cymorth a gynigir i rai sectorau a galwedigaethau.

Yn y cyfamser, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau yn cyflawni cyfraddau llwyddiant ar y meincnodau cenedlaethol neu'n uwch, er bod Estyn wedi nodi bod 'rhai' darparwyr Prentisiaethau Uwch wedi bod yn rheoli'r rhaglenni yn dda.

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i greu 100,000 o brentisiaethau erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn ac i fwy ohonynt fod ar lefel uwch

Yn ei faniffesto ar gyfer etholiad 2016, cynigiodd Llafur Cymru greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau sydd ar agor i bob oedran erbyn canol 2021. Byddai'r rhaglen brentisiaeth yn alinio'r sgiliau y mae pobl yn eu meithrin a'r sgiliau sydd eu hangen ar yr economi.

Cyhoeddwyd y strategaeth fanwl ar gyfer cyflawni ymrwymiad y maniffesto yn 2017. Ymhlith pethau eraill, nododd y strategaeth fwriad i symud ymdrech tuag at gynyddu'r niferoedd sy'n ymgymryd â'r prentisiaethau lefel uwch, mwy heriol, gan gynnwys cyflwyno Prentisiaethau Gradd.

Mae polisi prentisiaeth Cymru yn torri'r cysylltiad rhwng yr hyn y mae cyflogwyr yn ei dalu yn yr Ardoll Prentisiaethau a'r hyn y gallant ei gael yn ôl

Yng Nghymru, rhaid i sefydliadau sy'n bodloni'r meini prawf a osodir gan Lywodraeth y DU dalu'r Ardoll Prentisiaethau. Yn Lloegr gall cyflogwyr o'r fath wedyn gael arian yr Ardoll yn ôl drwy ei wario ar brentisiaethau ar gyfer eu cyflogeion.

Yng Nghymru, mae'r cysylltiad uniongyrchol rhwng yr hyn y mae cyflogwyr o'r fath yn ei dalu mewn Ardoll, a'r hyn y gallant ei gael yn ôl wedi'i dorri.

Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid prentisiaeth ac yn ei ddosbarthu drwy gontractau i 19 o ddarparwyr dysgu yn y gwaith sy'n gymysgedd o golegau addysg bellach a chwmnïau preifat. Ar gyfer prentisiaethau gradd, darperir arian i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy'n ei drosglwyddo i brifysgolion.

Mae pedwar math gwahanol o brentisiaeth yng Nghymru, i gyd ar lefelau gwahanol o her

Mae'r pedwar math fel a ganlyn:

Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd cywir i gyrraedd ei tharged 100,000 ac os bydd y galw presennol yn parhau, efallai y gall fynd ymhellach

Ar adeg ysgrifennu'r blog hwn, mae'r data yn dangos y dechreuodd 24,115 o raglenni prentisiaeth yn y flwyddyn academaidd 2016/17, ynghyd â 31,360 arall yn 2017/18 (trafodir y cyfraddau llwyddiant isod).

Mae hyn yn golygu ar ddechrau haf 2018 fod Llywodraeth Cymru eisoes ychydig dros hanner ffordd i gyrraedd ei tharged 100,000.

Mae'r siart isod at ddibenion enghreifftiol yn unig ac nid yw'n cynrychioli unrhyw dargedau chwarterol gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n cymharu perfformiad gwirioneddol o'i gymharu â tharged chwarterol tybiannol o 5,263 o brentisiaethau newydd (mae'r targed 100,000 wedi'i rannu'n gyfartal gan y 19 chwarter sydd gan Lywodraeth Cymru i gyrraedd y targed).

Rhaglenni Dysgu Newydd - Ffynhonnell: Stats Cymru

Mae nifer y Prentisiaethau Uwch Newydd yn gyffredinol sefydlog er gwaethaf nod Llywodraeth Cymru o gynyddu'r niferoedd

Un agwedd allweddol ar strategaeth brentisiaeth Llywodraeth Cymru yw darparu llai o Brentisiaethau Sylfaen, a chynyddu nifer y Prentisiaethau a Phrentisiaeth Uwch newydd.

Nid yw'r siart isod yn dangos llawer o newid sylfaenol o blaid Prentisiaethau Uwch.

Mae hefyd yn dangos bod yr ymchwydd yn nifer y prentisiaethau newydd yn chwarter cyntaf 2017 a gafwyd yn y siart uchod wedi'i yrru bron yn gyfan gwbl gan y Prentisiaethau Sylfaen a'r Prentisiaethau.

Rhaglenni Dysgu Newydd - Ffynhonnell: Stats Cymru

Gallai faint o arian sydd ar gael effeithio ar y galw mawr - dywedodd Llywodraeth Cymru y gall fod angen gwneud penderfyniadau anodd.

Daw arian ar gyfer y rhaglen brentisiaeth o gyllideb Llywodraeth Cymru ac o gyllid Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl y bydd ei holl gyllideb 2018-19 ar gyfer prentisiaethau yn cael ei wario a'i fod yn rhagweld defnyddio symiau mwy o arian Ewropeaidd i ateb galw mawr (neu gyllid dim cytundeb amgen gan Drysorlys EM).

Dywedodd Llywodraeth Cymru:

Disgwyliwn y bydd y galw am brentisiaethau’n cynyddu dros y blynyddoedd nesaf a gallai hyn arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd mewn perthynas â’r cymorth a gynigir o fewn rhai sectorau/lefelau galwedigaethol penodol.

Ar gyfer cyllideb 2019-20 y flwyddyn nesaf, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £82 miliwn i'r rhaglen brentisiaeth ac mae'n disgwyl buddsoddi cyfanswm o £115 miliwn, gan gynnwys arian Ewropeaidd (neu dim cytundeb Trysorlys EM).

Nid yw cyllid ar gyfer Prentisiaethau Gradd yn arian ychwanegol ac yn lle hynny hyd yma mae wedi'i gael drwy drosglwyddo cyllid o'r rhaglen brentisiaeth ehangach. Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad o £20 miliwn i Brentisiaethau Gradd, bydd angen dod o hyd i £12 miliwn arall y flwyddyn nesaf, naill ai'n cael ei drosglwyddo o'r rhaglen brentisiaeth ehangach neu o rywle arall.

Er mwyn rheoli cyllid, mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu prentisiaethau newydd yn ôl y math o brentisiaeth, oedran y prentisiaid a blaenoriaeth sector y diwydiant

Mae Llywodraeth Cymru yn rheoli cyllid y rhaglen brentisiaeth drwy:

  • y cysyniad o sectorau â blaenoriaeth a sectorau heb flaenoriaeth;
  • drwy reolaethau cytundebol sy'n gosod targedau a chyfyngiadau ar gyfer y darparwyr dysgu yn y gwaith gan ddefnyddio blaenoriaethau'r sector, y mathau o brentisiaethau ac oedran y prentisiaid; a
  • defnyddio eu contractau gyda darparwyr dysgu yn y gwaith i osod trefn flaenoriaeth gyffredinol iddynt ar gyfer cyflwyno prentisiaethau, yn seiliedig unwaith eto ar y categorïau uchod.

Eglurodd Llywodraeth Cymru y cawsant eu gosod yn y drefn a ganlyn ar gyfer 2017/18:

Mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr prentisiaethau yn cyflawni cyfraddau llwyddiant derbyniol ond mynegwyd pryderon ynghylch y rhan fwyaf o ddarparwyr Prentisiaethau Uwch

Mewn adroddiad 2018 a gomisiynwyd gan y Gweinidog Addysg, dywedodd Estyn:

Dim ond ychydig ddarparwyr dysgu yn y gwaith sy’n rheoli’r rhaglenni prentisiaeth uwch yn dda ac sydd wedi sicrhau deilliannau cryf yn gyson.

Mae Llywodraeth Cymru yn monitro cyfraddau llwyddiant pob un o'r darparwyr ac yn eu cymharu gan ddefnyddio system goleuadau traffig yn erbyn meincnod cenedlaethol.

Mae'r tabl isod yn crynhoi faint o ddarparwyr ym mis Rhagfyr 2018 oedd ar raddfa golau traffig coch, oren neu wyrdd ar gyfer pob math o brentisiaeth. Mae coch yn golygu bod y darparwr yn cyflawni cyfradd lwyddiant islaw 75 y cant o'r meincnod cenedlaethol.

Gellir gweld bod mwy o ddarparwyr Prentisiaethau Uwch ar hyn o bryd yn derbyn golau traffig coch neu oren sy'n golygu bod cyfraddau llwyddiant yn is na'r meincnod cenedlaethol.


Erthygl gan Phil Boshier, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru