Y Cynulliad i drafod Cyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19

Cyhoeddwyd 28/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn destun dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 5 Mawrth 2019.

Crynhoir y newidiadau yn y gyllideb atodol hon yn y ffeithlun isod. Gwneir cymariaethau gyda'r Gyllideb Atodol Gyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin.

Ar 14 Chwefror 2019, cynhaliodd Pwyllgor Cyllid y Cynulliad sesiwn graffu ar y Gyllideb gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor (PDF, 799KB) ar 26 Chwefror, ac mae'r adroddiad hwnnw'n cynnwys wyth argymhelliad.

Maint y dyraniad yn y gyllideb o ran cyfanswm y gwariant a reolir oedd £809.1 miliwn. Roedd y cynnydd hwn yn cynnwys cyllid ychwanegol o ganlyniad i symiau canlyniadol a gafwyd gan Lywodraeth y DU, gwerth £155.3 miliwn (£98.1 miliwn mewn refeniw a £57.2 miliwn mewn cyfalaf).

Roedd rhai o'r dyraniadau adnoddau sylweddol a ddaeth o'r cronfeydd wrth gefn yn cynnwys:

  • £47.3 miliwn mewn perthynas â setliad cyflog y GIG, yn ogystal â £24 miliwn mewn perthynas ag argymhellion y Corff Adolygu Tâl Meddygon a Deintyddion (DDRB).
  • £24 miliwn mewn perthynas â chymorth mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
  • £30 miliwn mewn perthynas â'r cynnydd i atebolrwydd hawliadau anaf personol o ganlyniad i newidiadau i'r cyfraddau disgownt.
  • £53.3 miliwn ar gyfer y Fasnachfraint Rheilffyrdd a Gwella Gwasanaethau (£28.5 miliwn ar gyfer cymorth i'r fasnachfraint rheilffyrdd yn y blynyddoedd cynnar a £24.8 miliwn o ganlyniad i'r newid cyfalaf i adnodd mewn perthynas â'r addasiad ar gyfer y tâl defnyddio’r cledrau o dan y fasnachfraint rheilffyrdd newydd).
  • £15.6 miliwn ar gyfer Datblygu a Chymorth Athrawon, gan gynnwys £8.1 miliwn i ariannu costau ychwanegol dyfarniad cyflog yr athrawon rhwng meithrin a blwyddyn 11, a £7.5 miliwn i helpu awdurdodau lleol dalu costau addysg (gan gynnwys dyfarniad cyflog yr athrawon).

Yn ogystal, mae dyraniad adnoddau anghyllidol o £240 miliwn, sydd wedi'i gefnogi gan Drysorlys EM ac sy'n ymwneud ag effaith codi’r trothwy ar gyfer ad-dalu benthyciadau i fyfyrwyr.

Mae'r dyraniadau cyfalaf sylweddol yn cynnwys:

  • £70 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys £50 miliwn ar gyfer y taliad cyntaf o becyn cyfalaf o £100 miliwn dros dair blynedd, a £20 miliwn ar gyfer taliad cyntaf dyraniad o £60 miliwn dros dair blynedd i'r grant atgyweirio priffyrdd cyhoeddus.
  • £27.8m ar gyfer cwblhau'r broses statudol a gweithgareddau hanfodol mewn perthynas â'r M4 (fel arolygon amgylcheddol).
  • £26m ar gyfer y Gronfa Trafnidiaeth Leol

Mae dau ddyraniad sylweddol hefyd mewn perthynas â thrafodiadau ariannol, sef £30 miliwn ar gyfer Cronfa Hunanadeiladu Cymru a £92 miliwn ar gyfer Cronfeydd Cyllid Busnes.

Mae'r rhestr lawn o ddyraniadau, gan gynnwys symudiadau o fewn a rhwng y prif grwpiau gwariant, ar gael yn nogfennaeth Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'r gyllideb.


Erthygl gan Owen Holzinger ac Joe Wilkes, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru