Gwahardd gwerthiant trydydd parti cŵn a chathod bach

Cyhoeddwyd 07/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos o hyd ar wahardd gwerthiant trydydd parti cŵn a chathod bach, gyda’r nod o ddiogelu lles anifeiliaid.

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, yn tynnu sylw at y posibilrwydd y gall gwerthu cŵn a chathod bach drwy drydydd parti gyfrannu at fwy o berygl o glefydau a diffyg cymdeithasoli a chynefino i gŵn a chathod bach o’i gymharu â phan fydd pobl yn eu prynu’n uniongyrchol gan y bridiwr.

Mae’r ymgynghoriad yn ystyried a oes angen newid polisi a/neu’r ddeddfwriaeth yng Nghymru er mwyn diogelu lles cŵn a chathod bach yn well pan maent yn yn cael eu gwerthu.

Gwahardd gwerthiant trydydd parti

Ar hyn o bryd, gellir prynu cŵn a chathod bach naill ai’n uniongyrchol gan fridiwr, drwy werthwr trydydd parti, neu eu prynu o ganolfan achub neu ganolfan ail-gartrefu. Gwerthwyr trydydd parti masnachol yw pobl sy’n werthwyr anifeiliaid anwes trwyddedig; yng Nghymru mae’n rhaid iddynt ddal trwydded o dan y Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951.

Byddai gwahardd gwerthiant trydydd parti yn golygu na fyddai siopau anifeiliaid anwes, delwyr anifeiliaid anwes a mannau eraill, na gwerthwyr trwyddedig cŵn a chathod bach yn gallu gwerthu’r anifeiliaid anwes hyn oni bai eu bod wedi eu bridio nhw eu hunain. Y rhesymeg yw, y byddai hyn yn atal tynnu cŵn a chathod bach, a gweddill y torllwyth oddi ar eu mam yn ifanc i’w gwerthu.

Mae’r ymgyrch proffil uchel ‘Cyfraith Lucy’ yn galw am wahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a gwerthwyr masnachol trydydd parti eraill. Yn ogystal â phryderon ynghylch lles anifeiliaid yn hyn o beth, mae’r ymgyrch hefyd yn dadlau bod gwerthiant trydydd parti yn creu risgiau ychwanegol i ddefnyddwyr ac o ran iechyd a diogelwch y cyhoedd.

Graddfa’r broblem yng Nghymru

Nid oes dim cofnodion cenedlaethol o nifer y cŵn a’r cathod bach sy’n cael eu gwerthu drwy drydydd partïon. Fodd bynnag, dywed y wybodaeth gefndir i’r ymgynghoriad bod llai nag 20 o siopau anifeiliaid anwes trwyddedig sy’n gwerthu cŵn a chathod bach yng Nghymru.

Ar 12 Rhagfyr 2018 roedd dadl fer yn y Cyfarfod Llawn ar fridio cŵn, pan dynnodd Andrew RT Davies AC sylw at raddfa anghymesur arfer gwael yng Nghymru:

Yn anffodus, mae Cymru bellach wedi cael enw fel man lle ceir llawer o’r arferion ffiaidd hyn, gyda nifer sylweddol o ffermydd cŵn bach wedi’u lleoli yn siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Mewn gwirionedd, yn ardal wledig de-orllewin Cymru y ceir y crynodiad mwyaf yn y Deyrnas Unedig o fridwyr cŵn masnachol, ac mae’n ffaith adnabyddus anffodus fod yr ardal honno wedi bod yn cynhyrchu llif o gŵn bach mewn amodau ofnadwy.

Rheoleiddio cyfredol yng Nghymru

Mae lles anifeiliaid yn fater sydd wedi’i ddatganoli. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 gyda’r nod o wella safonau bridio cŵn yng Nghymru. Cyflwynodd y Rheoliadau feini prawf lles llymach ar gyfer bridio cŵn, ac yn benodol mae’n:

  • Gofyn am drwyddedu bridwyr sy’n cadw tair gast fridio neu ragor ac sydd naill ai’n bridio, yn gwerthu, yn cyflenwi neu’n hysbysebu’r bridio neu’n hysbysebu cŵn bach ar werth o’u heiddo;
  • Cyflwyno safonau lles llymach ar gyfer sefydliadau bridio;
  • Ei gwneud yn ofynnol i fridwyr fabwysiadu rhaglenni cymdeithasoli, rhaglenni gwella a rhaglenni cyfoethogi ar gyfer eu hanifeiliaid; a
  • Creu cymhareb lleiafswm oedolion ar gyfer pob ci llawn dwf.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio adolygu’r Rheoliadau hyn.

Nid oes dim gofyniad ar hyn o bryd i bobl sy’n bridio cathod gael eu trwyddedu.

Mae’r elusen Cats Protection wedi galw am reoleiddio bridio cathod yn ogystal â gwaharddiad ar werthu cathod bach drwy drydydd partïon:

We would like to see regulations brought in for cat breeding as, unlike dog breeding, this remains unregulated in the UK. Potential buyers are currently unable to go to a licensed cat breeder. Regulation of commercial cat breeding would provide safeguards for cat welfare.

Pryderon parhaus

Mae nifer o elusennau lles anifeiliaid yn pryderu nad yw’r rheoliadau presennol yn gwneud digon i ddiogelu iechyd a lles yr anifeiliaid, ac maent yn dadlau dros wahardd gwerthiant trydydd parti.

Yn ddiweddar, ystyriodd Pwyllgor Deisebau’r Cynulliad ddeiseb ar gyfraith Lucy oddi wrth CARIAD, sy’n pwysleisio:

... mae rhai pobl sy’n ffermio cŵn bach heb drwydded, a smyglwyr cŵn bach, yn defnyddio trydydd partïon trwyddedig i werthu eu cŵn bach, ac mae hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt weithredu heb gael eu dal, a heb i awdurdodau lleol fonitro iechyd a lles cŵn bridio a chŵn bach. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd parti yn aneffeithiol wrth atal ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon a smyglwyr cŵn bach, ac felly mae angen gwaharddiad ar drydydd partion o ran gwerthu cŵn, i ddiogelu cŵn, cŵn bach a’r cyhoedd, yn ogystal ag i atal gweithgarwch troseddol..

Mae’r Gymdeithas Frenhinol dros Atal Creulondeb i Anifeiliaid (RSPCA), y Kennel Club, yr Ymddiriedolaeth Cŵn, Cartref Cŵn a Chathod Battersea, a Chanolfan ail-gartrefu Mayhew hefyd wedi nodi eu dadleuon dros y gwaharddiad.

Cymhlethdod y mater

Dadleuwyd y gallai gwaharddiad arwain at ganlyniadau anfwriadol. Yn flaenorol, gwrthododd Llywodraeth y DU argymhelliad Pwyllgor Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y DU i wahardd gwerthiannau trydydd parti, gan ddweud y gallai gwaharddiad gynyddu bridio heb drwydded o bosibl, a gallai arwain at gynnydd o ran gwerthu a dosbarthu cŵn bach yn anghyfrifol. Dywedodd:

Given the demand for dogs there is a risk that a ban on third party sales would drive some sales underground, and welfare charities are already concerned about the number of good breeders. We note that a number of established welfare charities with experience and knowledge of the sector have advised against a ban on third party sales. We consider that such a ban has the potential to increase unlicensed breeding in addition to a rise in the sale and irresponsible distribution of puppies, and may be detrimental to our welfare objectives.

Mewn ymateb i ymgynghoriad diweddar Llywodraeth y DU ar wahardd gwerthiant trydydd parti, awgrymodd llawer o sefydliadau y gallai gwerthwyr trydydd parti geisio cyflwyno eu hunain fel elusennau sy’n ailgartrefu anifeiliaid i osgoi cael eu cynnwys yn y gwaharddiad. Rhoddwyd tystiolaeth am yr effaith y byddai gwaharddiad yn ei chael ar y diwydiant anifeiliaid anwes, a ph’un a fyddai gwaharddiad o’r fath yn gwella lles anifeiliaid.

Mae’r Ymddiriedolaeth Cŵn yn dadlau, o ganlyniad i gymhlethdod y mater, mai’r ffordd orau i roi terfyn ar werthiant trydydd parti yw drwy gyflwyno gwaharddiad fel rhan o becyn cynhwysfawr o fesurau cydlynol. Mae’n galw ar Lywodraeth Cymru i gau bylchau ac am:

  • Reoleiddio pob canolfan ailgartrefu a llochesi, gan honni y gallai bridwyr cyfrwys sefydlu’u hunain fel canolfan o’r fath yn hawdd;
  • Bod unrhyw un sy’n bridio neu’n gwerthu cŵn bach i fod ar radar eu hawdurdod lleol i atal arfer gwael ymhlith bridwyr; a
  • Rheolaethau mwy llym o ran anifeiliaid anwes yn teithio, i atal smyglo cŵn bach o leoedd eraill.

Y sefyllfa ledled y DU

Lloegr

Ym mis Chwefror 2018, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar wahardd gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti. Yr oedd yr ymgynghoriad yn Lloegr yn unig ac roedd tua 70% o’r ymatebion yn darparu dadleuon o blaid gwaharddiad ac roedd llai na 10% yn darparu dadleuon yn erbyn gwaharddiad. Ar 23 Rhagfyr 2018 Cadarnhaodd Defra y byddai’n gwahardd gwerthu cŵn a chathod bach drwy drydydd partïon yn Lloegr.

Yr Alban

Ym mis Medi 2018, lansiodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad i ofyn am farn ar gynigion i gyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer trwyddedu gweithgareddau bridio cŵn, cathod a chwningod yn yr Alban.

Gogledd Iwerddon

Yn ystod 2018, cynhaliodd yr Adran Amaethyddiaeth, Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) adolygiad o sefydliadau anifeiliaid yng Ngogledd Iwerddon, gan gynnwys y rhai sy’n gwerthu anifeiliaid anwes. Yn 2019, mae DAERA yn bwriadu cael barn rhanddeiliaid ar y system drwyddedu yng Ngogledd Iwerddon yn y dyfodol.


Erthygl gan Katy Orford, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru