Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

A yw Cymru ar y trywydd iawn i fod yn genedl ddi-fwg?

Mae'n Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Smygu ar 13 Mawrth. Felly pa help sydd ar gael i roi'r gorau iddi yng Nghymru, a beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i geisio creu dyfodol di-fwg i Gymru? Ar Ddiwrnod Dim Smygu, rydym yn annog pawb i 'ddod at ei gilydd i ysbrydoli, ysgogi a helpu eraill i gymryd y cam cyntaf tuag at roi'r gorau i ysmygu'. O’r holl achosion marwolaethau cynamserol y gellid eu hosgoi, ysmygu yw’r achos mwyaf cyffredin, a chaiff ei gysylltu ag amrywiaeth o gyflyrau difrifol sydd, yn aml, yn angheuol. (Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

13 Mawrth 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Dim Smygu ar 13 Mawrth. Felly pa help sydd ar gael i roi’r gorau iddi yng Nghymru, a beth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud i geisio creu dyfodol di-fwg i Gymru?

Ar Ddiwrnod Dim Smygu, rydym yn annog pawb i ‘ddod at ei gilydd i ysbrydoli, ysgogi a helpu eraill i gymryd y cam cyntaf tuag at roi’r gorau i ysmygu’.

O’r holl achosion marwolaethau cynamserol y gellid eu hosgoi, ysmygu yw’r achos mwyaf cyffredin, a chaiff ei gysylltu ag amrywiaeth o gyflyrau difrifol sydd, yn aml, yn angheuol. (Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru).

Pwy sy’n ysmygu yng Nghymru?

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18  fod 19% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu.

Yn yr arolwg, nodir nifer yr ysmygwyr ym mhob Bwrdd Iechyd Lleol; yng Nghaerdydd a’r Fro mae’r cyfraddau isaf o oedolion sy’n ysmygu, sef 16%, tra bo’r cyfraddau uchaf yn Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf, sef 21%.

‘Yn natganiad ansawdd blynyddol 2017/18 Iechyd Cyhoeddus Cymru nodir bod:

  • dros 5,000 o bobl yn marw yng Nghymru oherwydd eu bod yn ysmygu;
  • 1 o bob 6 o bobl dros 35 oed yn marw oherwydd eu bod yn ysmygu;
  • dros 26,000, yn ôl yr amcangyfrifon, yn cael eu hanfon i’r ysbyty bob blwyddyn oherwydd eu bod yn ysmygu

Yn ôl Bwletin ystadegol Iechyd Cyhoeddus Cymru (2017/18) mewn perthynas â Mamolaeth, roedd 21.1% o ferched ledled Cymru yn ysmygwyr pan gawsant eu hasesiad beichiogrwydd cyntaf. Dangosodd  Arolwg Bwydo Babanod 2010 fod cyfran y mamau  (PDF 328KB) sy’n ysmygu drwy gydol eu beichiogrwydd yn uwch yng Nghymru nag mewn unrhyw genedl arall yn y DU.

Mewn ymateb i’r canfyddiad hwn, sefydlodd Iechyd Cyhoeddus Cymru y Modelau Mynediad ar gyfer Rhoi’r Gorau i Smygu ymysg Mamau (MAMSS), a threialodd raglen ymyrraeth yn rhai o’r Byrddau Iechyd. 

Amlygwyd pa mor bwysig oedd targedu merched beichiog yn y clinig cynenedigol. Gwelwyd bod y model gwasanaeth a ddatblygwyd ar gyfer MAMSS, a oedd yn cynnwys recriwtio ymarferwyr atal ysmygu arbenigol yn y clinig cynenedigol, yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol o ran cyfeirio merched at wasanaethau ac ymgysylltu â nhw.

Yn adroddiad terfynol y prosiect, gwnaed nifer o argymhellion ar gyfer gwella gwasanaethau, gan gynnwys rhoi teclyn monitro carbon monocsid (CO) i bob bydwraig yng Nghymru, sicrhau bod merched yn cael cymorth arbenigol i roi’r gorau i ysmygu fel rhan annatod o wasanaethau gofal cynenedigol, a gwella dulliau o  gasglu data. Nodwyd yn yr adroddiad y dylai’r camau nesaf gynnwys archwilio’r modd roedd canllawiau NICE yn cael eu rhoi ar waith yn yr holl wasanaethau mamolaeth a’r gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru, a sicrhau cyllid ar gyfer cymorth arbenigol.

Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud?

Cynllun Cyflawni

Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun cyflawni Cymru ar reoli tybaco 2017-2020 ac, yn y rhagair, nodir y canlynol:

Bydd deddfwriaeth newydd yng Nghymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddadnormaleiddio smygu a diogelu pobl nad ydynt yn smygu rhag dod i gysylltiad â mwg ail-law.  Bydd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ymdrin â nifer o bryderon iechyd y cyhoedd penodol sy’n gysylltiedig â’r niwed a gysylltir â smygu; bydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yn sicrhau bod gwaith cynllunio llesiant mewn cymunedau yn cyfyngu ar effaith tybaco ar unigolion, nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r cynllun yn amlinellu’r canlyniadau i’w cyflawni erbyn 2020, gan gynnwys;

  • Gostwng cyfradd yr oedolion yng Nghymru sy’n ysmygu i 16% (o 19%).
  • Gostwng cyfradd y bobl ifanc 15-16 oed sy’n ysmygu’n rheolaidd i 5% (o 9%).
  • Canolbwyntio ar ysmygwyr o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig.
  • Gostwng nifer y merched beichiog sy’n dal i ysmygu 36 wythnos ar ôl beichiogi, ar ôl pennu’r ffigyrau sylfaenol, gan sicrhau gostyngiad o’r naill flwyddyn i’r llall ym mhob Bwrdd Iechyd.

Dywed ASH Cymru fod yr amcanestyniadau presennol yn dangos na fydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o ostwng cyfran yr oedolion sy’n ysmygu yng Nghymru i 16% tan 2025.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ailddatgan ei ymrwymiad i gyrraedd y targed o 16% erbyn 2020 er nad yw’r gyfradd bresennol, sef 19%, wedi gostwng ers 2017.

Yn 2018 comisiynodd Llywodraeth Cymru adolygiad annibynnol o’r ddarpariaeth o wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu yng Nghymru., ‘i nodi safbwyntiau cyffredin y rhanddeiliaid strategol ynghylch y dull gorau o ddarparu yn y dyfodol, yn lleol ac yn genedlaethol’.

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017

Mae Rhan 3 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn canolbwyntio ar gynhyrchion Tybaco a Nicotin. Mae crynodeb o’r Ddeddf yn erthygl y Gwasanaeth Ymchwil (PDF 934KB).

Mae’r Ddeddf yn ailddatgan cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus a mannau gwaith sy’n gaeedig ac yn sylweddol gaeedig. Yn ogystal, mae’n gosod cyfyngiadau ar ysmygu mewn lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant, tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Dywed y Memorandwm Esboniadol (PDF 2MB), mai’r diben yw dadnormaleiddio ysmygu gan y byddai llai o gyfleoedd i weld pobl yn ysmygu.

Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i ymestyn y cyfyngiadau ar ysmygu i adeiladau neu gerbydau ychwanegol, pan ystyrir bod hyn yn ‘debygol o gyfrannu at hybu iechyd pobl Cymru’.

Mae’r Ddeddf yn mynd rhagddi i sefydlu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr tybaco a chynhyrchion nicotin – bydd yn drosedd i werthu tybaco/cynhyrchion nicotin os nad ydynt ar y gofrestr genedlaethol. Mae hefyd yn amlinellu troseddau sy’n ymwneud â gwerthu tybaco neu gynhyrchion sy’n cynnwys nicotin i unrhyw un o dan 18 oed.

Disgwylir i safleoedd di-fwg gael eu sefydlu erbyn haf 2019.

I gael rhagor o wybodaeth am Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a’i hynt, ewch i dudalennau gwe’r Cynulliad.

Arddangos cynhyrchion tybaco mewn siopau

Newidiodd Llywodraeth Cymru y gyfraith i atal siopau rhag arddangos tybaco’n barhaol, gan atal siopau mawr rhag gwneud hynny o fis Rhagfyr 2012 ymlaen, ac  atal siopau eraill rhag gwneud hynny hefyd o fis Ebrill 2015 ymlaen. Mae’r canllawiau ar y gwaharddiad i arddangos tybaco yn ei gwneud hi’n glir ei bod yn anghyfreithlon gwerthu cynhyrchion tybaco i bobl ifanc o dan 18 oed, ac mae’n gosod cyfyngiadau ar arddangos prisiau a storio cynnyrch tybaco (rhaid iddynt fod o’r golwg).

Darllenwch ein herthygl am gadw cynhyrchion tybaco o’r golwg.

Gwahardd ysmygu mewn ceir

Ers 2015 mae’n anghyfreithlon ysmygu mewn car yng Nghymru os yw plentyn o dan 18 oed yn y car hefyd. Dywedodd Mark Drakeford AC,  Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

Bwriad y newid hwn i’r gyfraith yw amddiffyn plant a phobl ifanc sydd heb ddewis ond anadlu mwg ail-law pobl eraill. Pan fo pobl yn penderfynu cynnau sigarét er bod plant yn y car, maen nhw’n peryglu bywydau’r bobl ifanc hynny.

Mae ASH Cymru wedi cyhoeddi cyfarwyddyd ar y gyfraith, y rhesymau y tu ôl iddi a’r modd y caiff ei gorfodi.

Pa gymorth a chyngor sydd ar gael i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru?

Helpa fi i stopio

Ar wefan Helpa fi i stopio mae gwybodaeth am yr holl wasanaethau y mae GIG Cymru yn eu darparu i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu, ac mae’n galluogi pobl i gysylltu â’r gwasanaethau hynny i ofyn am gymorth. Mae’r tudalennau gwe yn dangos y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael, ac mae modd chwilio am wasanaethau yn ôl ardal leol. Mae GIG Cymru yn rhoi gwybodaeth am y modd y gallwch chi gael eich cyfeirio at Helpa fi i stopio naill ai gan eich Meddyg Teulu neu drwy’ch cyfeirio’ch huno.

Gallwch ffonio Helpa fi i stopio ar 0800 085 22 19 i ofyn am help i roi’r gorau i ysmygu.

ASH Cymru

Sefydlwyd ASH Cymru fel elusen gofrestredig ym 1976, a’i nod yw creu Cymru ddi-fwg (sef gostwng y gyfradd sy’n ysmygu i 5%). 

Yn ôl Cynllun Cyflanwi Cymru ar reoli tybaco 2017-2020 a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ASH Cymru sy’n arwain y trydydd sector yn y maes hwn. Rhoddodd gyllid i’r elusen am dair blynedd arall er mwyn ei galluogi i hybu’r cynllun tybaco.

Mae ASH Cymru hefyd yn cynnal ymgyrch, sef Babi a fi di-fwg,er mwyn helpu merched beichiog i roi’r gorau i ysmygu.

Byw Bywyd Di-fwg

Datblygodd Iechyd Cyhoeddus Cymru raglen Byw Bywyd Di-fwg ar gyfer ysgolion i atal plant rhag dechrau ysmygu. Caiff disgyblion Blwyddyn 8 eu hannog i drafod peryglon ysmygu a’r manteision o beidio â gwneud hynny.

Dewiswyd 65 o ysgolion ledled Cymru, mewn ardaloedd lle mae pobl ifanc yn fwyaf tebygol o ysmygu, i gymryd rhan yn y rhaglen.

Dyma dair elfen graidd y rhaglen:

  1. Ymdrin â thybaco fel ysgol gyfan gan greu cysylltiadau â Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru
  2. Model dylanwad cymheiriaid
  3. Codi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r tactegau y mae’r diwydiant tybaco’n eu defnyddio i recriwtio ysmygwyr a chynnwys elfennau o’r ymgyrch llwyddiannus ‘Truth’ yn America

Beth am e-sigaréts?

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddeddfwriaeth yng Nghymru (nac yn rhannau eraill o’r DU) sy’n atal neb rhag defnyddio sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus, ond gall sefydliadau roi eu polisïau eu hunain ar waith ynghylch defnyddio sigaréts electronig ar eu safleoedd.

Yn y 4ydd  Cynulliad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Fil Iechyd y Cyhoedd a oedd yn cynnwys cynigion i gyfyngu ar ddefnyddio sigaréts electronig mewn mannau cyhoeddus a gweithleoedd sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig, yn unol â’r cyfyngiadau ar ysmygu tybaco. Ni chafodd y Bil  hwnnw ei basio, ac nid oedd y ddeddfwriaeth iechyd y cyhoedd a gyflwynwyd yn y Cynulliad hwn (Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017) yn cynnwys y cynigion i gyfyngu ar ddefnyddio sigaréts electronig. Mae’r Ddeddf yn cynnwys rhai darpariaethau sy’n ymwneud â sigaréts electronig – mae’n gwahardd trosglwyddo tybaco a chynhyrchion nicotin i bobl o dan 18 oed, ac mae’n sefydlu cofrestr o fanwerthwyr cynhyrchion tybaco a nicotin.  Cewch ragor o wybodaeth yn ein herthygl.

Yn 2017, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddatganiad sefyllfa diweddaraf ar e-sigaréts.

Dywedodd Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd, Iechyd y Cyhoedd Cymru

Yn syml, os nad ydych yn smygu, peidiwch â fepio. Ond os ydych yn smygwr trwm sy’n amharod i roi’r gorau iddi neu’n methu gwneud hynny, bydd newid yn llwyr i e-sigaréts yn fuddiol i’ch iechyd.


Erthygl gan Holly Kings, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly King gan Gyngor Ymchwil y Biowyddorau Prydain, a’i galluogodd i gwblhau’r papur hwn

%d bloggers like this: