Trafnidiaeth

Bargen deg? – Cynigion Papur Gwyn ar gyfer Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth, tacsis a cherbydau hurio preifat.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynigion deddfwriaethol yn ymwneud â gwasanaethau bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat yn ei Phapur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion yn ymwneud â thocynnau rhatach a Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth (JTAs), a daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 27 Mawrth 2019. Dyma’r ail o ddau flog ar gynnwys y Papur Gwyn. Mae’r blog hwn yn ystyried y cynigion sy’n ymwneud â Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth a thacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd ein blog blaenorol yn edrych yn fanwl ar gynigion ar gyfer bysiau a thocynnau teithio rhatach ac yn esbonio rhywfaint o’r cefndir i ddatblygu’r Papur Gwyn.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

25 Mawrth 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi nifer o gynigion deddfwriaethol yn ymwneud â gwasanaethau bysiau a thacsis a cherbydau hurio preifat yn ei Phapur Gwyn ar wella trafnidiaeth gyhoeddus, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2018. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn gwneud cynigion yn ymwneud â thocynnau rhatach a Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth (JTAs), a daw’r ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 27 Mawrth 2019.

Dyma’r ail o ddau flog ar gynnwys y Papur Gwyn. Mae’r blog hwn yn ystyried y cynigion sy’n ymwneud â Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth a thacsis a cherbydau hurio preifat. Roedd ein blog blaenorol yn edrych yn fanwl ar gynigion ar gyfer bysiau a thocynnau teithio rhatach ac yn esbonio rhywfaint o’r cefndir i ddatblygu’r Papur Gwyn.

Yn ei ddatganiad am lansio’r Papur Gwyn, dywedodd Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

Nod y cynigion yw sicrhau gwell cynllunio a gwell atebion, gan roi teithwyr, cymunedau lleol a phobl nad ydynt yn ystyried bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn i’w hanghenion trafnidiaeth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.

Teithio’n ôl i’r dyfodol?

Mae’r Papur Gwyn yn nodi cynlluniau i sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth drwy Orchymyn, gan ddefnyddio pwerau o dan adran 5 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006. Er nad yw’n glir eto pa swyddogaethau yn union y byddai’r cyrff newydd yn ymgymryd â hwy, mae’r dull cynllunio trafnidiaeth rhanbarthol yn gyfarwydd yng Nghymru. Fel yr ystyriwyd yn fanwl mewn blog cynharach, roedd Llywodraeth Cymru arfer ag ariannu awdurdodau lleol i weithio ar y cyd mewn pedwar Consortiwm Trafnidiaeth Rhanbarthol i ddatblygu a gweithredu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. 

Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2014, gwnaeth Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ar y pryd, ddatganiad yn amlinellu newidiadau i gynllunio a chyllid trafnidiaeth a arweiniodd at dynnu cyllid ar gyfer Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ôl.

Cymharwyd cynigion o ran y Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth â’r dull rhanbarthol blaenorol. Clywodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth fod yr awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol wedi bod yn effeithiol yn y gorffennol ac felly y gallent fod yn ateb effeithiol yn y dyfodol. Y gwahaniaeth allweddol yw, lle’r oedd consortia yn gydbwyllgorau awdurdodau lleol, byddai Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn gyrff statudol gyda’u pwerau eu hunain.

Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth

Diben Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yw cyfuno swyddogaethau a phwerau trafnidiaeth dau neu ragor o awdurdodau lleol. Byddai’r Gorchymyn/ Gorchmynion sy’n sefydlu’r Cyd-awdurdodau yn nodi pa swyddogaethau awdurdod lleol y byddent yn ymgymryd â hwy.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu dau ddewis gwahanol ar gyfer sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth sef, naill ai un Cyd-awdurdod Trafnidiaeth cenedlaethol gyda thri bwrdd rhanbarthol (pwyllgorau), neu un Cyd-awdurdod Trafnidiaeth cenedlaethol a thri Chyd-awdurdod Trafnidiaeth rhanbarthol. Mae’r Papur Gwyn yn tynnu sylw at y ffaith y bydd y cynigion i sefydlu Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn destun rhagor o ymgynghori:

Byddai Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn cael eu sefydlu gan is-ddeddfwriaeth a bydd ymgynghoriad ffurfiol yn rhan o hynny. Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, bwriadwn ei chyflwyno yn hydref 2019.

Mae bwriadau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn glir o ran rhai agweddau. Mae’n cynnig y byddai’n “ailgyfeirio’r holl swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat i ffwrdd o’r awdurdodau lleol ac i mewn i awdurdod trwyddedu cenedlaethol, sef Cyd-awdurdod Trafnidiaeth”. Mae’r Papur Gwyn hefyd yn cynnig y bydd y pwerau o ran bysiau, a nodir yn y Papur Gwyn, “yn arferadwy gan y Cyd-awdurdodau hynny”. Mae’r papur yn nodi swyddogaethau cenedlaethol / strategol a swyddogaethau rhanbarthol / gweithredu mewn perthynas â bysiau a allai gyd-fodoli ar y cyd â Chyd-awdurdodau Trafnidiaeth rhanbarthol a chenedlaethol.

Yn ystod sesiwn dystiolaeth ar 13 Mawrth ar ymchwiliad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau awgrymodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y gallai’r strwythurau rhanbarthol presennol, fel Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ddatblygu i fod yn Gyd-awdurdodau Trafnidiaeth. Mewn sesiynau blaenorol, fodd bynnag, holodd tystion pam y byddai angen Cyd-awdurdod Trafnidiaeth cenedlaethol ochr yn ochr â Thrafnidiaeth Cymru.

Lôn gyflym ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat?

Mae Rhan 2 o ddogfen ymgynghori’r Papur Gwyn yn gwneud nifer o gynigion mewn perthynas â thacsis a cherbydau hurio preifat:

  • Dull cenedlaethol newydd o ran safonau ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat;
  • Caniatáu i awdurdod trwyddedu gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gerbyd sy’n gweithredu yn ei ardal; ac
  • Ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sefydlu trefniadau rhannu gwybodaeth at ddibenion diogelu. 

Trwyddedu

Cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat ar hyn o bryd. Mae’r trwyddedu yn gweithredu ar system ddwy haen sy’n gwahaniaethu rhwng:

  • Tacsis – y gellir eu galw neu sy’n gallu defnyddio safleoedd tacsis yn ogystal â chynnal teithiau a archebwyd ymlaen llaw; a
  • Cerbydau hurio preifat – y mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw dros y ffôn, yn bersonol, neu’n gynyddol drwy dechnoleg fel apiau ffonau symudol.

Ni all tacsi weithredu oni bai bod y cerbyd a’i yrrwr wedi’u trwyddedu gan awdurdod lleol o dan Ddeddf Cymalau Heddlu Tref 1847, ac ar yr un pryd ni alll cerbydau hurio preifat, gyrwyr na gweithredwyr weithredu heb drwyddedau a roddir o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (y ‘gofyniad trwyddedu triphlyg’).

Gyda deddfu’r darnau perthnasol o ddeddfwriaeth ym 1847 a 1976, mae’r Papur Gwyn yn amlygu, o ran y fframwaith deddfwriaethol:

nid yw hyn yn gydnaws â thechnoleg fodern ac arferion gweithio tacsis/cerbydau hurio preifat. Pan gafodd y ddeddfwriaeth ei deddfu … cerbydau a oedd yn cael eu tynnu gan geffylau oedd tacsis ac nid oedd signalau radio cerbydau hurio preifat yn debygol o gyrraedd y tu hwnt i ffiniau’r awdurdod sy’n trwyddedu.

Mae Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod angen diwygio, ac mae’n nodi cynigion i “ddatblygu fframwaith trwyddedu sy’n adlewyrchu’r arferion gweithio presennol”.

Mae hyn yn cynnwys cynnig i ailgyfeirio’r holl swyddogaethau trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat presennol i ffwrdd o’r awdurdodau lleol ac i mewn i awdurdod trwyddedu cenedlaethol, sef Cyd-awdurdod Trafnidiaeth.  Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu sut y byddai hyn yn cynnwys swyddogaethau fel trwyddedu, gosod prisiau, a ffioedd a gorfodi.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu bod Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried gweithredu’r newidiadau hyn “heb ddefnyddio cyd-awdurdod trafnidiaeth fel y cyfrwng cyflawni”, pe na bai’r cynigion o ran Cyd-awdurdodau Trafnidiaeth yn cael eu datblygu.

Safonau cenedlaethol

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gosod safonau cenedlaethol ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat y byddai’n rhaid i bob tacsis a cherbyd hurio preifat yng Nghymru eu bodloni i gael trwydded. Mae’r Papur Gwyn yn amlygu’r ffaith bod safonau trwyddedu anghyson ledled Cymru yn arwain at “wahanol gostau i weithredwyr a safonau diogelwch ac ansawdd sy’n amrywio i deithwyr”.

Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn cyhoeddi data ar bolisïau trwyddedu (MS Excel, 190KB) sy’n dangos sut mae polisïau’n amrywio ar draws ardaloedd trwyddedu. Er enghraifft, ar 31 Mawrth 2018, roedd 9 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru â gofyniad bod pob cwmni â cherbydau sy’n addas i gadeiriau olwyn o fewn ei fflyd ac roedd gan 16 o’r 22 awdurdod gyfyngiad oedran ar dacsis.

Cyn datganoli pwerau rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat o dan Ddeddf Deddf Cymru 2017, cynhaliodd Comisiwn y Gyfraith adolygiad o wasanaethau tacsi a hurio preifat rhwng 2012 a 2014. Yn ei adroddiad terfynol (PDF 2MB) (Saesneg yn unig), a gyhoeddwyd ym mis Mai 2014, argymhellodd y dylid cyflwyno “safonau cenedlaethol ar gyfer yr holl dacsis a cherbydau hurio preifat, a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol”. Argymhellodd yr adroddiad hefyd y dylai awdurdodau lleol barhau i fod yn gyfrifol am drwyddedu, yn hytrach na darparu’r rhain yn genedlaethol fel y cynigiwyd gan Lywodraeth Cymru.

Byddai’r safonau arfaethedig yng Nghymru yn cael eu gosod gan reoliadau, a goblygiadau hynny yw y byddai rhagor o ymgynghori ar y safonau penodol a gâi eu cyflwyno.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnig cyflwyno safonau trwyddedu cenedlaethol yn Lloegr.

Camau gorfodi

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnig caniatáu i awdurdod trwyddedu gymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw gerbyd sy’n gweithredu yn ei ardal. Ar hyn o bryd, nid oes mecanwaith statudol ar gyfer gorfodi yn erbyn cerbydau sydd wedi’u trwyddedu mewn awdurdod lleol gwahanol, ac mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ymgymryd â gwaith a archebir ymlaen llaw y tu allan i’w hardal drwyddedu.

Edrychwyd yn fanwl ar y problemau y mae hyn yn eu hachosi i awdurdodau trwyddedu yn ystod ymchwiliad blaenorol Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau sef, Pwerau Newydd: Posibiliadau Newydd. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gyngor Caerdydd a oedd yn tynnu sylw bod awdurdodau:

… can undertake prosecution against people illegally applying for hire in Cardiff, but if we saw something like a dangerous Newport taxi, we’ve got no powers to deal with that, no resource. We don’t get any income to deal with driver enforcement either. We’d have to get hold of the operator and then refer that to a colleague in that local authority area. So, it can be quite confusing and quite a slow process for us to deal with.

Fodd bynnag, nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw newidiadau i’r sefyllfa bresennol o ran gwaith hurio preifat y tu allan i’r ardal, sef mater sydd wedi codi pryder yn y diwydiant fel yr adroddwyd yn y cyfryngau yn ddiweddar. Er y bydd cynigion y Papur Gwyn yn mynd i’r afael â rhai pryderon cyffredin ynghylch gweithio “trawsffiniol” yn sgîl safonau a dulliau gorfodi, ni fyddant yn mynd i’r afael ag awgrymiadau bod gor-gyflenwi ar hyn o bryd, y mae rhai pobl yn y sector yn dadlau sy’n effeithio ar incwm a lles gyrwyr o ganlyniad i oriau hir .

Mae hwn yn fater dadleuol, ac mae deisebau o blaid, gweithredu trawsffiniol a deisebau sy’n gwrthwynebu gweithredu trawsffiniol yn cael eu hystyried gan y Cynulliad.

Y cam nesaf

Daw Ymgynghoriad y Papur Gwyn i ben ar 27 Mawrth ac mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi dweud y caiff Bil ei gyflwyno ym mis Chwefror 2020 (PDF, 840KB).

Cyn hynny, bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad i’r cynigion.

Yn y cyfamser, darllenwch ein blog blaenorol sy’n edrych yn fanwl ar gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer bysiau a thocynnau teithio rhatach.


Erthygl gan Francesca Howorth, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru