Pa gamau sy'n cael eu cymryd yng Nghymru i gefnogi pobl sydd ag Epilepsi?

Cyhoeddwyd 26/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd digwyddiadau Diwrnod Porffor yn digwydd ar draws y byd heddiw i godi ymwybyddiaeth o Epilepsi.

Dechreuodd y Diwrnod Porffor yng Nghanada yn 2008, ac mae digwyddiadau bellach yn cael eu cynnal gan elusennau a sefydliadau Epilepsi ar draws y byd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Mae Partneriaid y Diwrnod Porffor yn cynnwys Epilepsy Society, Epilepsy Action a Epilepsy Research UK.

Dewiswyd porffor gan mai lafant yw'r blodyn Epilepsi rhyngwladol.

Mae dros 50 miliwn o bobl ledled y byd ag Epilepsi, gan ei wneud yn un o'r clefydau niwrolegol mwyaf cyffredin ar draws y byd - Sefydliad Iechyd y Byd.

Dywed Epilepsi Cymru y gall anwybodaeth a chamddealltwriaeth ymhlith y cyhoedd Epilepsi arwain at ofn a rhagfarn. Nododd Sefydliad Iechyd y Byd mai dim ond yn 1971 y cafodd cyfraith y DU ei newid i olygu na cheir caniatáu dirymu priodas ar sail Epilepsi.

Mae’r Epilepsy Society yn disgrifio Epilepsi fel 'nid un cyflwr yn unig, ond yn hytrach grŵp o nifer o wahanol fathau o epilepsi sydd oll ag un peth yn gyffredin: tuedd i gael trawiadau sy'n dechrau yn yr ymennydd'.

Mae trawiad epileptig yn digwydd o ganlyniad i lif trydanol sydyn yn yr ymennydd sy'n achosi newidiadau mewn teimlad, ymddygiad neu ymwybyddiaeth. Mae yna sawl math o drawiad gan ddibynnu ar ba rannau o'r ymennydd yr effeithir arnynt.

Mae Epilepsy Action yn darparu gwybodaeth ynghylch beth i'w wneud os yw rhywun yn cael trawiad.

Epilepsi yng Nghymru

Yn 2017-18, roedd 24,629 o bobl dros 18 oed yng Nghymru ag Epilepsi.

Mae hyn yn cyfateb i 1 o bob 100 oedolyn sydd wedi'u cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru i fod ag Epilepsi.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r mwyafrif helaeth o anableddau plentyndod yn tarddu o achos niwrolegol, ac epilepsi pediatrig yw'r anhwylder niwrolegol mwyaf cyffredin, sy'n effeithio ar 0.7% o blant.

Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol

Mae Cynllun Cyflawni Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru yn 2017 yn nodi mai Epilepsi yw un o'r cyflyrau niwrolegol mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae'r adroddiad yn sôn am y lefel wael o ddealltwriaeth ynghylch Epilepsi sydd i’w chael ymhlith y cyhoedd.

Mae’r adran o’r Cynllun Cyflawni sy;n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn nodi nad yw anghenion seicolegol plant a phobl ifanc sydd ag Epilepsi yn cael sylw priodol; a dywedir nad oes cefnogaeth benodol ar gyfer iechyd meddwl mewn sawl rhan o'r DU. Mae hefyd yn tynnu sylw at rôl sylweddol nyrsys arbenigol yng ngofal plant sydd ag Epilepsi.

Mae’r prif gamau gweithredu yn adran y Cynllun sy’n trafod plant yn cynnwys:

  • Bydd Byrddau Iechyd, ar y cyd ag Awdurdodau Lleol, yn sicrhau bod cleifion sydd ag anghenion cymhleth yn cael asesiad priodol, prydlon o'u hanghenion gofal parhaus.
  • Bydd Byrddau Iechyd yn datblygu ac yn gweithredu cynlluniau integredig a chydgysylltiedig ar gyfer trosglwyddo gofal o wasanaethau pediatrig i wasanaethau oedolion.
  • Dylai Byrddau Iechyd ar y cyd â rhwydweithiau gofal sylfaenol ddatblygu gweithwyr proffesiynol gofal iechyd allweddol, i sicrhau parhad gofal i blant a phobl ifanc sydd â chyflwr niwrolegol.

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddwyd y datganiad cynnydd blynyddol ar gyfer yr adroddiad. Dyma rai o'r prif welliannau:

  • cynyddu gwariant ar gyflyrau niwrolegol,
  • lleihau’r amser cyfartalog a dreulir yn yr ysbyty,
  • ffocws cynyddol ar fesur y canlyniadau a’r profiadau y mae cleifion yn eu hadrodd,
  • lleihau nifer y derbyniadau brys a chyfanswm y diwrnodau gwely brys.

Mae'r datganiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd ffocws yn y dyfodol, gan gynnwys:

  • Mynediad cyflym a hawdd i apwyntiad cyntaf i gleifion allanol, pan fo'n briodol.
    • Yn ystod 2016-17, bu’n rhaid i 6,000 o gleifion aros am dros 26 wythnos am apwyntiad cyntaf fel claf allanol am eu cyflwr niwrolegol.
  • Sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld a'u trin o fewn 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio.
    • Yn ystod 2016-17, bob mis roedd cyfartaledd o 86% o gleifion yn aros am lai na 26 wythnos o'r dyddiad y derbyniodd yr ysbyty eu hatgyfeiriad, hyd at ddechrau'r driniaeth (y targed yw o leiaf 95%).

Cynghrair Niwrolegol Cymru a'r Grŵp Trawsbleidiol

Mae Cynghrair Niwrolegol Cymru yn fforwm o sefydliadau a grwpiau sy'n cynrychioli pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol (gan gynnwys Epilepsi) yng Nghymru. Mae Epilepsy Action ac Epilepsi Cymru ill dau yn aelodau o'r gynghrair.

Gwnaeth Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gyflyrau Niwrolegol, ofyn i Gynghrair Niwrolegol Cymru gasglu gwybodaeth am sut y mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014) yn effeithio ar bobl sydd â chyflwr niwrolegol. Dangosodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru fod pobl sydd â chyflwr niwrolegol yn methu manteisio ar wasanaethau hanfodol:

  • Nid yw 73% wedi cael cynnig na gofyn am asesiad ffurfiol;
  • Ni dderbyniodd 80% unrhyw wasanaethau gan gyngor lleol o ganlyniad i gynllun gofal;
  • Ni welodd 64% unrhyw wybodaeth a fyddai'n eu helpu â’u hangen am ofal neu gymorth cymdeithasol; a dim ond 37% a gafodd gyngor gan weithiwr proffesiynol a fyddai'n helpu gydag angen am ofal cymdeithasol;
  • Nid yw 79% wedi cael eu hatgyfeirio at sefydliadau eraill am gymorth;
  • Mae 46% wedi talu gan ddefnyddio eu harian eu hunain am gymorth ychwanegol.

O ganlyniad,. daeth y Grŵp Trawsbleidiol i'r casgliad bod y Ddeddf yn methu cyflawni ar gyfer pobl sydd â chyflyrau niwrolegol. Dywedodd Mark Isherwood AC, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gyflyrau Niwrolegol:

Rydym yn bryderus iawn bod nifer sylweddol o bobl sydd â chyflwr niwrolegol yn methu manteisio ar gefnogaeth a gwasanaethau hanfodol.

Cyhoeddodd y Grŵp Trawsbleidiol ei adroddiad ar yr ymchwiliad hwn yn 2018.

Mae'r adroddiad yn cynnig 3 argymhelliad:

  • Rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiad cadarn o anghenion y boblogaeth ar unwaith i weld faint o bobl sydd â chyflwr niwrolegol a faint o ofalwyr sydd i’w cael, er mwyn deall yn well sawl person yn eu hardal a allai fod angen gwasanaethau.
  • Rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol adolygu eu gwybodaeth, eu cyngor a'u cymorth i sicrhau bod pobl sydd â chyflwr niwrolegol a'u gofalwyr sydd angen cymorth yn cael eu hatgyfeirio at asiantaethau perthnasol.
  • Rhaid i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru gydnabod canfyddiadau arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru, a monitro gweithrediad y Ddeddf yn ofalus ar gyfer pobl sydd â chyflwr niwrolegol.

Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ei adroddiad Epilepsy12 National Organisational Audit Report 2018, gan ddefnyddio data o ysbytai ledled Cymru a Lloegr. Mae'r adroddiad yn cefnogi gwaith Organisation of Paediatric Epilepsy Networks in the UK (OPEN UK), wrth ffurfio rhwydweithiau pediatrig Epilepsi rhanbarthol, gan gynnwys Fforwm Epilepsi De Cymru a rhwydwaith grŵp 'Epilepsy in Childhood' Glannau Mersi a Gogledd Cymru.

Gwnaeth yr adroddiad archwilio ganfod gwelliannau o ran:

  • Nifer yr nyrsys Epilepsi arbenigol;
  • Nifer y paediatregwyr sydd ag arbenigedd Epilepsi; a
  • Nifer y clinigau penodol ar gyfer epilepsi pediatrig.

Fodd bynnag, canfu’r adroddiad hefyd fod cryn angen am welliant mewn sawl maes o hyd. Mae angen gwaith pellach i sicrhau:

  • bod digon o baediatregwyr ym mhob bwrdd iechyd ag arbenigedd mewn Epilepsi i wneud diagnosis a rhoi cefnogaeth briodol i blant ag Epilepsi.
  • bod digon o nyrsys Epilepsi arbenigol.
  • bod hyfforddiant a chynlluniau gofal unigol priodol yn cael eu rhoi i deuluoedd y rhagnodir 'meddyginiaeth achub' iddynt.
  • bod gan glinigau epilepsi y capasiti sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau dilynol, fel nad oes angen i blant fynychu clinigau pediatrig cyffredinol.
  • bod llwybrau atgyfeirio clir i wasanaethau Epilepsi mwy arbenigol.
  • bod yr achos dros ddod â thriniaethau newydd (megis ysgogi nerfau fagws) i glinigau lleol yn cael ei hadolygu.
  • bod gofal epilepsi parhaus yn cynnwys asesiad, diagnosis a thriniaeth iechyd meddwl, ochr yn ochr â rheoli trawiadau.
  • bod teuluoedd yn gallu cysylltu’n hawdd â gwasanaethau o fewn eu bwrdd iechyd.

Gellir lawrlwytho data ar fyrddau iechyd unigol ledled Cymru oddi ar wefan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.


Erthygl gan Holly Kings, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Kings gan Gyngor Ymchwil Biowyddorau Prydain, gan arwain at allu cwblhau’r papur hwn.