Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Drafft

Cyhoeddwyd 27/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Daeth ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft i ben yr wythnos diwethaf (dydd Gwener 22 Mawrth 2019). Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad wedi cyhoeddi ei ymateb i'r ymgynghoriad, sy'n cynnwys llythyr at y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ac atodiad sy'n cynnwys dadansoddiad y Pwyllgor a’i farn am y Cod drafft.

Mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Cod ADY o dan adran 4 o'r Ddeddf Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Ionawr 2018, yn dilyn gwaith craffu a hynt y Bil drwy’r Cynulliad yn 2017. Mae Adran 5 o’r Ddeddf yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei dilyn wrth wneud y Cod, gan gynnwys proses ymgynghori sy'n cynnwys y Pwyllgor perthnasol yn y Cynulliad.

Pwrpas y Cod ADY

Nod y Cod yw rhoi manylion ynglŷn â’r modd y penderfynir ar rai darpariaethau penodol yn y Ddeddf a’u rhoi ar waith. Felly, mae'n rhoi canllawiau i ‘bersonau perthnasol’ (sefydliadau sydd â swyddogaethau o dan y Ddeddf) ar sut i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau statudol. Mae'n nodi'r camau y ‘dylai’r’ sefydliadau hyn, er enghraifft cyrff llywodraethu ysgolion neu sefydliadau addysg bellach, awdurdodau lleol a byrddau iechyd, eu cymryd, y camau y ‘gallant’ a’r camau y mae’n ‘rhaid’ iddynt eu cymryd mewn perthynas ag ADY.

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Bydd Deddf 2018 yn disodli'r fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) presennol â system ddiwygiedig yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno'r system ADY newydd yn raddol dros gyfnod o dair blynedd gan ddechrau fis Medi 2020.

Mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Unigol statudol a chyffredinol i’r holl blant a’r bobl ifanc sydd ag ADY. Byddai hyn yn rhoi terfyn ar y gwahaniaeth presennol rhwng ymyriadau dan arweiniad yr ysgol a datganiadau a gyhoeddir gan awdurdodau lleol a bydd yn integreiddio'r trefniadau deddfwriaethol presennol ar gyfer disgyblion ysgol a myfyrwyr ôl-16 mewn colegau. Mae'r Ddeddf hefyd yn ceisio sicrhau bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn cydweithredu mwy, a hefyd yn creu system decach a mwy tryloyw a fydd â mwy o bwyslais ar osgoi anghytundeb a datrys anghydfod. Mae Crynodeb o'r Ddeddf yn rhoi esboniad llawnach o'r ddeddfwriaeth a'r system newydd y mae'n ei chreu.

Dyma lun o athrawes gyda phlant ysgol

Gwaith craffu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Mae llythyr esboniadol y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn dangos sut yr aeth y Pwyllgor at, fel ymgynghorai statudol, i graffu ar y Cod drafft a pharatoi ei ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru. Paratôdd y Pwyllgor ddadansoddiad o'r Cod drafft yn ôl yr ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt y Ddeddf (ar ffurf Bil) drwy broses ddeddfwriaethol y Cynulliad. Er enghraifft, cafwyd nifer o addewidion gan Weinidogion bryd hynny pan dderbyniwyd neu gwrthodwyd argymhellion Pwyllgorau yn ystod y broses o graffu ar y Bil ac wrth wrthwynebu gwelliannau a gyflwynwyd.

Sefydlodd y Pwyllgor weithgor o randdeiliaid gan geisio’u barn am y modd roedd y Cod drafft yn ymdrin ag ymrwymiadau Llywodraeth Cymru mewn 16 o feysydd (gan gynnwys cyfanswm o 31 o is-feysydd at ei gilydd) yn ymwneud â'r Ddeddf. Cafodd y gweithgor drafodaeth fwy cyffredinol hefyd i dynnu sylw at unrhyw feysydd a oedd yn peri pryder, neu feysydd lle roeddent yn credu y byddai'r cod drafft yn gweithio'n dda. Arweiniodd hyn at drafodaeth ynghylch saith maes arall.

Wedi hynny, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi cyflwyno sylwadau ar bob un o'r 38 maes hyn ac wedi galw ar Lywodraeth Cymru i wneud newidiadau cyfatebol yn y fersiwn derfynol o’r Cod.

Mae’r Pwyllgor wedi pwysleisio nad oedd, wrth sefydlu’r gweithgor, yn dyblygu proses ymgynghori Llywodraeth Cymru gan nad oedd aelodaeth y gweithgor yn gwbl gynhwysfawr ac y byddai sefydliadau unigol yn ymateb i'r ymgynghoriad eu hunain.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ynghyd â'r Cod ADY drafft, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymgynghori ynghylch dwy set o reoliadau o dan y Ddeddf - Rheoliadau drafft Tribiwnlys Addysg Cymru a'r Rheoliadau drafft ar gyfer Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol - a diwygiadau i'r Cod Ymarfer sy'n ymwneud â Phlant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n cael eu Lletya o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried pa ddiwygiadau y byddant yn eu cyflwyno i'r Cod drafft yn dilyn yr ymgynghoriad ac mae’n bwriadu gosod y fersiynau terfynol o’r Cod a'r rheoliadau gerbron y Cynulliad erbyn diwedd 2019. Y bwriad yw i’r Ddeddf, y Cod a'r rheoliadau ddod i rym ym mis Medi 2020, a’u rhoi ar waith yn llawn dros gynod o dair blynedd. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru (a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018) yn nodi'r broses a ganlyn:

  • Tan fis Medi 2020, mae’r fframwaith AAA presennol yn dal yn weithredol ac yn aros yn ei le, ar gyfer dysgwyr sydd ar hyn o bryd yn cael eu cefnogi yn ogystal ag unrhyw ddysgwyr a gaiff eu hadnabod o’r newydd fel dysgwyr ag AAA yn y cyfamser.
  • O fis Medi 2020, bydd unrhyw ddysgwyr a gaiff eu hadnabod o’r newydd fel dysgwyr ag ADY yn cael eu cefnogi o dan y system newydd ac yn cael CDU.
  • Bydd unrhyw ddysgwyr sydd eisoes yn y system AAA sydd â datganiadau, neu ddysgwyr mewn lleoliad Blynyddoedd Cynnar nas cynhelir, yn cael eu trosglwyddo i CDUiau dros gyfnod o ddwy flynedd, rhwng mis Medi 2020 a mis Awst 2022:
    • Bydd dysgwyr dan 2 oed, ym Mlwyddyn Feithrin 1 neu Flwyddyn Feithrin 2, ym Mlwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10 yn trosglwyddo i CDU yn 2020/21. Bydd hyn yn cynnwys 6,200 o ddysgwyr.
    • Bydd carfanau Derbyn, Blwyddyn 2, Blwyddyn 4, Blwyddyn 6 a Blwyddyn 8 2020/21 yn trosglwyddo yn 2021/22 pan fyddant ym Mlwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 9 yn y drefn honno. Bydd hyn yn cwmpasu 4,100 o ddysgwyr.
  • Bydd unrhyw ddysgwyr sydd eisoes yn y system AAA ac nad oes ganddynt ddatganiad (a gefnogir trwy Weithredu gan yr Ysgol / Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar neu Weithredu gan yr Ysgol a Mwy / Gweithredu yn y Blynyddoedd Cynnar a Mwy) yn trosglwyddo yn ystod cyfnod o dair blynedd, rhwng mis Medi 2020 a mis Awst 2023:
    • Bydd dysgwyr sydd ym Mlwyddyn Feithrin 1, Blwyddyn Feithrin 2, Blwyddyn 1, Blwyddyn 3, Blwyddyn 5, Blwyddyn 7 a Blwyddyn 10 yn trosglwyddo i CDU yn 2020/21. Bydd hyn yn cwmpasu 40,700 o ddysgwyr.
    • Bydd carfanau Derbyn, Blwyddyn 4, Blwyddyn 8 a Blwyddyn 9 2020/21 yn trosglwyddo yn 2021/22 pan fyddant ym Mlwyddyn 1, Blwyddyn 5, Blwyddyn 9 a Blwyddyn 10 yn y drefn honno. Bydd hyn yn cwmpasu 28,600 o ddysgwyr.
    • Bydd carfanau Blwyddyn 2 a Blwyddyn 6 2020/21 yn trosglwyddo yn 2022/23 pan fyddant ym Mlwyddyn 4 a Blwyddyn 8 yn y drefn honno. Bydd hyn yn cwmpasu 15,900 o ddysgwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi diwygiadau ADY ar waith drwy ei Rhaglen ehangach i drawsnewid ADY ac mae wedi'i dyrannu £20 miliwn dros gyfnod o bedair blynedd (PDF 477KB) i’r rhaglen hon.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru