Brexit yw Brexit... ond dim eto

Cyhoeddwyd 29/03/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Heddiw yw 29 Mawrth 2019. Tan ddau ddiwrnod yn ôl, heddiw oedd y diwrnod pan oedd y DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae pethau wedi newid. Mae'r blog hwn yn esbonio pam, ac yn edrych ar ddigwyddiadau Brexit yr wythnos yma yn San Steffan a Chymru.

Wythnos gythryblus yn San Steffan

I gychwyn yr wythnos seneddol, ddydd Llun gwnaeth Prif Weinidog y DU ddatganiad i Dŷ'r Cyffredin ar benderfyniad y Cyngor Ewropeaidd i gymeradwyo'n ffurfiol gytundeb Strasbwrg, yn ogystal â chaniatáu estyniad byr i'r broses Erthygl 50. Wrth wneud hynny, pwysleisiodd y Prif Weinidog safbwynt y Cyngor ar y Cytundeb Ymadael, gan ddweud y dylai pawb fod yn gwbl glir nad yw newid y Cytundeb Ymadael yn opsiwn.

Dywedodd y Prif Weinidog ei bod yn parhau i gredu mai'r llwybr cywir ymlaen yw i'r DU adael gyda chytundeb cyn gynted â phosibl—y dyddiad hwnnw bellach yw 22 Mai. Dywedodd hefyd nad oedd digon o gefnogaeth yn y Tŷ ar y pryd i ddod â'r cytundeb yn ôl ar gyfer trydydd pleidlais ystyrlon, gan ychwanegu y byddai'n parhau i gael trafodaethau gydag Aelodau ar draws y pleidiau gwleidyddol i adeiladu cefnogaeth. Os na fydd hyn yn digwydd, dywedodd y byddai'n rhaid iddi geisio estyniad hirach, a fyddai'n golygu bod y DU yn gorfod cynnal etholiadau Ewropeaidd.

Yn dilyn datganiad y Prif Weinidog, cafwyd pleidlais ar y cynnig yr oedd angen i’r Llywodraeth ei wneud o dan Ddeddf Ymadael yr UE ar ôl i'r Senedd wrthod ei chytundeb am yr ail dro ar 12 Mawrth. Mae'r cynnig hwn yn 'nodi' y datganiad sy'n gosod allan cynllun y Llywodraeth i ofyn i'r UE am estyniad i Erthygl 50. Yn dilyn y ddadl, pleidleisiodd ASau o blaid gwelliant i'r cynnig gan Oliver Letwin (329 pleidlais i 302). Mae'r gwelliant yn ychwanegu cymal i ddiwedd y cynnig i nodi ffordd i'r Tŷ bleidleisio ar ffyrdd amgen ymlaen—y gwelliant i baratoi'r ffordd ar gyfer y ‘pleidleisiau dangosol’. Cyn y bleidlais, dywedodd y Prif Weinidog:

I must confess that I am sceptical about such a process of indicative votes. When we have tried this kind of thing in the past, it has produced contradictory outcomes or no outcome at all. There is a further risk when it comes to Brexit, as the UK is only one half of the equation and the votes could lead to an outcome that is unnegotiable with the EU.

Cynhaliwyd y pleidleisiau dangosol hynny ddydd Mercher. Cyflwynwyd wyth opsiwn, ond gwrthodwyd pob un gan yr Aelodau fel a ganlyn:

Tra bod hyn i gyd yn digwydd, adroddwyd hefyd ddydd Mercher fod y Prif Weinidog wedi cynnig sefyll i lawr os derbynnir y Cytundeb Ymadael, a wrthodwyd ddwywaith yn flaenorol. Wrth siarad ym Mhwyllgor 1922 y meinciau cefn, cydnabu'r Prif Weinidog ei bod yn barod i adael ei rôl yn gynharach na'r bwriad er mwyn peidio â mynd yn groes i ail gam Brexit.

Yn dilyn canlyniad y pleidleisiau dangosol, cadarnhaodd y Llefarydd John Bercow y cynhelir dadl bellach ddydd Llun 1 Ebrill er mwyn llunio rhestr fer o'r opsiynau sydd ar gael ac ystyried y mwyaf poblogaidd.

Newid diwrnod Brexit

Hefyd ddydd Mercher, ystyriodd dau dŷ'r Senedd Reoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Diwrnod Ymadael) (Diwygio) 2019. Mae'r offeryn statudol hwn yn diwygio'r diffiniad o 'diwrnod ymadael' yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, sef 29 Mawrth 2019 yn flaenorol. Yn dilyn cais gan Lywodraeth y DU, cytunwyd ar estyniad gan y Cyngor Ewropeaidd ar 22 Mawrth. Nawr, y ‘diwrnod ymadael’ fydd naill ai 11pm ar 22 Mai 2019 (os caiff cytundeb ymadael y Prif Weinidog ei gymeradwyo gan Dŷ'r Cyffredin erbyn diwedd y dydd heddiw) neu 11pm ar 12 Ebrill 2019 (os nad yw hynny’n digwydd). Cymeradwywyd y rheoliadau gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.

Digwyddiadau Brexit yng Nghymru

Yn y Pwyllgor Materion Allanol ar 25 Mawrth, atebodd y Prif Weinidog gwestiynau ar bynciau fel y trafodaethau Brexit diweddaraf, sut mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit, deddfwriaeth a materion rhynglywodraethol. Dyma'r prif feysydd a drafodwyd gyda’r Prif Weinidog:

  • O ran y camau nesaf, ailadroddodd y Prif Weinidog ei farn y dylai Tŷ'r Cyffredin benderfynu a ddylid ailnegodi’r Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol neu gynnal refferendwm arall. Dywedodd mai aros yn yr UE yw'r opsiwn gorau i Gymru o hyd, ond cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru yn parchu canlyniad refferendwm 2016.
  • Mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol ar ôl Brexit, cyfeiriodd y Prif Weinidog at yr adolygiad parhaus, ond dywedodd nad oedd y gwaith hwn wedi cael blaenoriaeth ers mis Medi, gan fod y DU a Llywodraeth Cymru wedi bod yn paratoi ar gyfer Brexit 'dim cytundeb’.
  • Pan ofynnwyd iddo am ddeddfwriaeth Brexit, dywedodd y Prif Weinidog fod y Llywodraeth yn dadansoddi o ddydd i ddydd sut y byddai canlyniadau gwahanol yn arwain at wahanol fathau o anghenion deddfwriaethol.
  • Pan ofynnwyd iddo a fyddai'n ailymgynnull y Cynulliad i sicrhau bod cyfle i graffu ar Fil Cytundeb Ymadael—y ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu'r Cytundeb Ymadael yng nghyfraith y DU—dywedodd y byddai'n cael sgyrsiau gyda'r Llywydd mewn perthynas â'r dyddiad 12 Ebrill.
  • Gofynnodd yr Aelodau hefyd am y Gronfa Ffyniant Cyffredin a'r llythyr yr oedd y Pwyllgor wedi'i dderbyn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weinidog fod ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol ‘heb fod o gymorth’ gan y byddai ei awgrym ynglŷn â chaniatáu i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau gwario mewn perthynas â'r gronfa yn golygu y byddai'r Cynulliad yn cael ei osgoi.

Y tu allan i'r ystafell bwyllgor, yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Mawrth, gofynnodd David Rees gwestiwn brys am sefyllfa'r Llywodraeth yn dilyn penderfyniad y Cyngor Ewropeaidd ar 21 Mawrth.

Mewn ymateb, dywedodd y Gweinidog Brexit Jeremy Miles ei fod yn ‘rhyw gysur’ bod yr UE 27 wedi rhoi ffenestr gul i osgoi Brexit ’dim cytundeb’. Croesawodd y broses o bleidleisiau dangosol yn y Senedd, gan ychwanegu bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ‘roi'r gorau i'w llinellau coch trychinebus a gwrando.’

Pan ofynnwyd iddynt am y posibilrwydd o ail refferendwm, dywedodd Jeremy Miles fod refferendwm yn un o ddwy ffordd o ymateb i'r sefyllfa bresennol:

We have been clear that if a deal is available that reflects the principles in 'Securing Wales' Future'—one of close partnership and alignment in the future—that is the way forward that we advocate, and in the absence of that, then another referendum will be required in order to take us forward.

Beth sy’n digwydd heddiw?

Bydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio ar gynnig Brexit arall y prynhawn yma. Nid dyma'r drydedd ‘bleidlais ystyrlon’, gan fod y cynnig hwn yn gofyn i ASau gytuno ar y Cytundeb Ymadael yn unig, ac nid y Datganiad Gwleidyddol sy'n nodi'r berthynas yn y dyfodol. Os bydd ASau yn cytuno â'r cynnig, mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd y DU yn gallu cael oedi Brexit a gadael yr UE ar 22 Mai. Os na, diwrnod Brexit fydd 12 Ebrill, gyda set arall o bleidleisiau dangosol ar y ffordd ymlaen ar gyfer Brexit yn digwydd ddydd Llun.


Erthygl gan Peter Hill, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru