Y Cynulliad i drafod adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ddatganoli cyllidol

Cyhoeddwyd 02/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 3 Ebrill 2019, bydd y Cynulliad yn cynnal dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, sef Rhoi datganoli cyllidol ar waith yng Nghymru (335KB).

Mae'r adroddiad yn nodi ‘mae’r dystiolaeth a roddwyd i’r Pwyllgor yn awgrymu y bu’r broses o weithredu datganoli cyllidol yng Nghymru, hyd yma, yn llwyddiannus i raddau helaeth’. Nododd y Pwyllgor hefyd y bu’r dystiolaeth mewn perthynas â sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru, ac wedyn â gweithredu’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, yn gadarnhaol.

Fel rhan o ddatganoli cyllidol yng Nghymru, bydd Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) yn cael eu cyflwyno yng Nghymru ar 6 Ebrill 2019. Mae'r adroddiad hefyd yn pwysleisio, er bod y Pwyllgor wedi nodi'r 'gwaith sy'n cael ei wneud i gyfleu'r newid i dreth incwm yng Nghymru, ond mae’n [y Pwyllgor] dal yn bryderus nad yw'r neges hon yn cael ei chlywed gan rai trethdalwyr yng Nghymru'.

Mae Ymchwil y Senedd wedi cyhoeddi blog ar gyflwyno Cyfraddau Treth Incwm Cymru, sy'n egluro beth fydd goblygiadau hyn i drethdalwyr Cymru.


Erthygl gan Christian Tipples, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru