Cyhoeddiad Newydd: Effaith gollyngiadau olew

Cyhoeddwyd 03/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae economïau modern yn dibynnu ar olew am fod modd ei ddefnyddio ar gyfer sawl diben, fel ynni, trafnidiaeth a gweithgynhyrchu. Oherwydd bod olew'n cael ei ddefnyddio cymaint ac yn cael ei gludo'n fyd-eang yn ddi-stop, mae gollyngiadau yn digwydd bob dydd. Mae'r gollyngiadau hyn yn amrywio o ran maint ac effaith, ac yn denu lefel amrywiol o sylw cyhoeddus.

Mae ein papur briffio ymchwil newydd yn esbonio beth all ddigwydd pan gaiff olew ei ollwng i amgylchedd morol. Mae'n nodi'r effeithiau economaidd ac amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig â gollyngiadau olew, yn ogystal ag amlinellu dulliau glanhau a pholisïau cysylltiedig y DU. Mae hefyd yn rhoi trosolwg byr o'r diwydiant olew yn fyd-eang ac yn y DU.

Cyhoeddiadau Newydd: Effaith gollyngiadau olew (PDF, 584KB)


Erthygl gan Robert Byrne, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Byrne gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Briff Ymchwil hwn gael ei gwblhau.