Cyhoeddiadau Newydd: Y Gyfres Gynllunio: Yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a Chytundebau Adran 106

Cyhoeddwyd 09/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Rydym wedi diweddaru ein hysbysiadau hwylus i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol (CIL) a chytundebau Adran 106 (A106).

Mae ein briff Ardoll Seilwaith Cymunedol yn egluro diben yr Ardoll ac yn nodi sut y gellir ei weithredu a'i orfodi. Mae'n rhoi cefndir i restrau codi tâl yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, yn amlygu'r gwahaniaethau allweddol rhwng yr Ardoll Seilwaith Cymunedol a chytundebau A106 ac yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â pha awdurdodau cynllunio lleol sydd wedi cyflwyno'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 12 - Ardoll Seilwaith Cymunedol (PDF, 1315KB)

Mae ein briff ar y cytundebau A106 yn egluro diben cytundebau A106 ac yn nodi sut y gellir eu cytuno, eu defnyddio a'u gorfodi. Mae hefyd yn tynnu sylw at y gwahaniaethau allweddol rhwng cytundebau A106 a'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Cyhoeddiad Newydd: Y Gyfres Gynllunio: 13 - Cytundebau Adran 106 (PDF, 3174KB)


Erthygl gan Robert Byrne ac Elfyn Henderson, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Gwasanaeth Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Byrne gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r Briff Ymchwil hwn gael ei gwblhau.