Brexit – estyniad hyblyg? Craffu ar waith y Prif Weinidog o ran y datblygiadau diweddaraf yn sgil Brexit

Cyhoeddwyd 10/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 5 Ebrill, cyfarfu'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog i drafod blaenoriaethau Prif Weinidog Cymru ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn, gan gynnwys materion yn ymwneud â Brexit. Mae'r cofnod blog hwn yn rhoi cipolwg cyffredinol ar ddatganiadau a wnaed yn ddiweddar gan Brif Weinidog Cymru ynghylch Brexit cyn y cyfarfod, yn ogystal â chrynodeb o'r prif faterion a godwyd.

Ymateb i'r “diwrnod ymadael”

Roedd y DU i fod i adael yr Undeb Ewropeaidd yn wreiddiol ar 29 Mawrth 2019. Yn lle hynny, nodwyd y dyddiad gan gwrthodiad Cytundeb Ymadael Prif Weinidog y DU yn Nhŷ'r Cyffredin am y trydydd tro. Mewn ymateb, trydarodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru:

Prif Weinidog y DU sy’n gyfrifol am y ffars yma, sydd mewn perygl o droi’n drasiedi genedlaethol.

Rhaid i ASau roi’r wlad yn gyntaf a dod o hyd i gyfaddawd a all sicrhau mwyafrif yn Nhŷ’r Cyffredin. Os bydd hyn yn methu, yr unig ffordd ymlaen yw rhoi’r penderfyniad yn ôl yn nwylo’r bobl drwy bleidlais gyhoeddus.

Dim Cytundeb neu ddirymu Erthygl 50?

Dri diwrnod yn ddiweddarach ar 1 Ebrill, yn yr ail rownd o bleidleisiau dangosol yn Nhŷ'r Cyffredin, nid oedd mwyafrif ar gyfer yr un ffordd ymlaen. Trydarodd y Prif Weinidog “rydym yn symud yn beryglus o agos at #NoDeal trychinebus”, gan ychwanegu:

Mae ein hopsiynau yn parhau i gulhau. Os nad oes modd datrys yr anghytundeb llwyr hwn ac mae'r Tŷ Cyffredin yn methu cytuno ar ffordd ymlaen, yna dylid mynd â'r penderfyniad yn ôl at y bobl drwy bleidlais gyhoeddus.

Y diwrnod wedyn yn ystod Cwestiynau'r Prif Weinidog, gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, am farn y Prif Weinidog ar ganlyniadau'r pleidleisiau dangosol a gynhaliwyd ar 1 Ebrill. Ymatebodd y Prif Weinidog taw “rydym ni'n wynebu'r adeg fwyaf difrifol yn y daith Brexit gyfan hon”. Wrth ateb cwestiynau pellach ynghylch y dewis a ddisgrifiwyd gan y Prif Weinidog o wynebu naill ai senario heb gytundeb neu ddirymu Erthygl 50, dywedodd:

Oherwydd yr effaith ddifrifol y byddai Brexit disgyn allan yn ei chael ar bobl yma yng Nghymru, ar yr adeg honno, pe byddwn i'n bwrw pleidlais, byddwn yn ei bwrw dros ddirymu, gan fod y canlyniadau mor drychinebus i deuluoedd yng Nghymru. Ond i mi, byddai'n rhaid iddi fod yn sicr ein bod ni'n gwybod ein bod ni yn y funud olaf honno, gan fod canlyniadau cyfansoddiadol a gwleidyddol defnyddio'r cam gweithredu hwnnw yn hynod, hynod ddifrifol.

Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Ar 5 Ebrill, ymddangosodd y Prif Weinidog gerbron Pwyllgor y Cynulliad sy'n Craffu ar Waith y Prif Weinidog, gan roi tystiolaeth ar nifer o feysydd gan gynnwys ymestyn Erthygl 50, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, ymhlygiadau’r gweithlu gofal iechyd, a llais Cymru yn y trafodaethau.

Ymestyn Erthygl 50

Ar fore cyfarfod y Pwyllgor, ysgrifennodd Prif Weinidog y DU at Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Donald Tusk yn gofyn am estyniad pellach i Erthygl 50 am gyfnod y trafodaethau hyd at 30Mehefin 2019. Gan gadarnhau ei fod wedi darllen y llythyr, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai estyniad byr a chynnal etholiadau Senedd Ewrop yn ddewis gwael iawn. Dywedodd o leiaf na fyddai'r estyniad hyblyg, a awgrymwyd gan Donald Tusk, yn creu sefyllfa arall lle câi'r DU ei gwthio at ymyl y dibyn. Byddai'n golygu y gallai'r DU adael unwaith y byddai'n barod yn ystod estyniad hirach.

Cyllid i Gymru ar ôl Brexit

Bwriedir i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gymryd lle Cronfeydd Strwythurol yr UE yng Nghymru ar ôl Brexit. Cadarnhaodd y Prif Weinidog nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweld unrhyw fanylion o gynigion Llywodraeth y DU eto, er gwaethaf addewidion Llywodraeth y DU i ymgynghori ar y rhain erbyn diwedd 2018. Er mwyn cadw lefel cyllid Cymru yr un fath ag y mae ar hyn o bryd, esboniodd fod yn rhaid seilio'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cyllid ar angen yn hytrach nag ar fformiwla Barnett, sy'n seiliedig ar boblogaeth. Un o bryderon mwyaf y Prif Weinidog yw'r posibilrwydd y gallai Cymru golli cyllid i ardaloedd eraill o'r DU. Nid yw'n glir eto i ba raddau y caiff y gronfa ei datganoli i Lywodraeth Cymru, ac yn ei lythyr at y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn ddiweddar, methodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru â chadarnhau a ddaw cyllid yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru.

Gweithlu gofal iechyd a Brexit

O ran ymhlygiadau ar y gweithlu gofal iechyd yng Nghymru, cydnabu'r Prif Weinidog yr her sy'n wynebu'r gweithlu o ran recriwtio a chadw staff y GIG a staff gofal cymdeithasol sy'n ddinasyddion yr UE. Mae gan yr UE system gydnabyddiaeth gilyddol ar gyfer cymwysterau proffesiynol, ond bydd y DU y tu allan i'r system hon ar ôl Brexit. Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cyflwyno categorïau ar gyfer swyddi sgiliau uchel/isel gyda throthwy cyflog o £30,000, ac esboniodd y Prif Weinidog na fyddai hynny'n gweithio i Gymru nac i'r iechyd gwasanaeth. Dywedodd:

The UK’s proposals on migration simply compounds the difficulties that Brexit creates rather than helping to solve them.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog y bydd Cymru yn gallu recriwtio o rannau eraill o'r byd ac mai'r bwriad yw ehangu ei chynlluniau recriwtio. Cadarnhaodd fod Llywodraeth Cymru wedi defnyddio Cronfa Bontio'r UE i geisio cyrraedd dinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru sy'n llai tebygol o ddilyn y ddadl ynghylch Brexit i gynnig cymorth ychwanegol gyda'r rheolau mewnfudo newydd.

Cynrychioli Cymru yn ystod y trafodaethau

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi gwneud ei orau i gyfleu'n ffyddlon barn y Cynulliad mewn trafodaethau â Phrif Weinidog y DU a bydd yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol. Cadarnhaodd y gallai'r sefyllfa nawr yn olygu bod y Cynulliad yn cael ei alw'n ôl dros doriad y Pasg; naill ai pe bai'r posibilrwydd o ddim cytundeb ar 12 Ebrill yn troi'n realiti, neu phe bai'r Cytundeb Ymadael yn cael ei gytuno a hefyd Bil Cytundeb Ymadael yn cael ei gyflwyno sydd yn cyfreithio’r cytundeb i’r gyfraith ddomestig. Yn ôl y Prif Weinidog, mae gan y deddfwrfeydd datganoledig rôl i'w chwarae ym mhroses ddeddfwriaethol y Bil, a rhaid i amseriad y Bil barchu hynny.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru