Cymru Cymunedau Datganoli20 Delweddau Data Diwylliant Y Gymraeg Ystadegau

Datganoli 20 – Sut y mae maint Cymru wedi newid?

Much has changed in Wales in the twenty years since the first National Assembly for Wales was elected in May 1999. This is the first in a series of articles that attempts to describe some of that change. It has been prepared by Senedd Research as part of the Assembly’s activity to mark twenty years of devolution.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

29 Ebrill 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r cyntaf mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.

  • Yn 2017, amcangyfrifir bod 3.125 miliwn o bobl yn byw yng Nghymru, sef cynnydd o 225,000 o bobl (neu 7.7%)  ers 1999.
  • Y prif ffactor a gyfrannodd at y twf mewn poblogaeth yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf oedd pobl yn symud o fewn y DU, yn bennaf o Loegr i Gymru.
  • Rhwng 2001 a 2011, gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy’n dweud mai eu grŵp ethnig yw Gwyn Prydeinig o 96.0% i 93.2%, a chynyddodd y ganran a ddywed eu bod yn dod o grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn (gan gynnwys grwpiau cymysg) o 2.1% i 4.0%.
  • Disgwylir i oedran cyfartalog y boblogaeth gynyddu 2.5 blwyddyn yn yr 20 mlynedd nesaf, a disgwylir i nifer y bobl 65 oed a hŷn dyfu 30%.
  • Mae nifer y bobl sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru yn cynyddu ac roedd tua un o bob pump yn rhugl ar adeg y cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Poblogaeth

Tyfodd poblogaeth Cymru 225,000 (neu 7.7%) rhwng 1999 a 2017, yn ôl yr amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn diweddaraf a luniwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dim ond rhwng 2001 a 2017 y mae’r data ar lifoedd ymfudo ar gael, felly mae’r dadansoddiad a ganlyn yn canolbwyntio ar y cyfnod hwn.

Sut y mae’r boblogaeth yn newid yn eich ardal chi? Mae’r siart isod yn dangos y newid canrannol i boblogaethau pob awdurdod lleol o 2001 i 2017.

Yr awdurdod lleol â’r cynnydd mwyaf yn y boblogaeth oedd Caerdydd (17.0%) lle’r oedd twf yn uwch na chyfartaledd Cymru (7.4%) a chyfartaledd y DU (11.7%). Cafwyd gostyngiad yn y boblogaeth ym Mlaenau Gwent a Cheredigion.

Y ffactorau a oedd yn sbarduno twf ym mhoblogaeth Cymru oedd:

  • Ymfudo mewnol rhwng gwledydd y DU: 85,000 (41%). 
  • Ymfudo rhyngwladol rhwng Cymru a gwledydd y tu allan i’r DU:  66,000 (32%).
  • Newid naturiol (genedigaethau a marwolaethau): 24,000 (12%).
  • Newidiadau eraill fel y lluoedd arfog, pobl yn y carchar, a gwallau yn yr amcangyfrif: 32,000 (15%).

Y ffactor a gyfranodd fwyaf at ymfudo mewnol oedd pobl yn symud o Loegr i Gymru. Mae ystadegau ymfudo mewnol y Swyddfa Ystadegau Gwladolyn amcangyfrif y symudodd 59,000 o bobl, ar gyfartaledd, o Loegr bob blwyddyn ers 1999. Mewn cyferbyniad, symudodd 53,000 o bobl bob blwyddyn i’r cyfeiriad arall.

Ethnigrwydd, crefydd a hunaniaeth genedlaethol

Rhwng y cyfrifiad yn 2001 ac 2011  gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy’n dweud mai ei grŵp ethnig yw Gwyn Prydeinig o 96.0% i 93.2%, a chynyddodd y ganran sy’n dweud eu bod yn dod o grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn (gan gynnwys grwpiau cymysg) o 2.1% i 4.0%. Mae Cymru yn parhau i fod yn llawer llai amrywiol na Chymru a Lloegr gyda’i gilydd, lle nododd 80.5% o’r bobl eu bod yn Wyn Prydeinig yn 2011.

Y rhai sy’n dweud mai eu grŵp ethnig yw Asiaidd yw’r grŵp ethnig mwyaf ond un yng Nghymru.  Rhwng 2001 a 2011 dyblodd canran poblogaeth Cymru a ddywedodd mai ei grŵp ethnig yw Asiaidd o 1.1% (32,000) i 2.3% (71,000).

Mae poblogaeth y grwpiau ethnig nad ydynt yn Wyn wedi cronni yn y dinasoedd deheuol. Yr awdurdodau lleol yng Nghymru sydd â’r gyfran isaf o’r boblogaeth sy’n dweud mai eu grŵp ethnig yw Gwyn yn 2011 oedd Caerdydd (84.8%), Casnewydd (89.9%) ac Abertawe (94.1%).

Rhwng 2001 a 2011, gostyngodd canran y boblogaeth yng Nghymru sy’n nodi mai Cristnogaeth yw eu crefydd o 71.9% i 57.6%, a chynyddodd canran y boblogaeth a ddywedodd nad oedd ganddynt grefydd bron hanner miliwn (o 18.5% i 32.1%). Y grŵp crefyddol mwyaf ond un oedd Mwslimiaid gyda bron 46,000 o bobl (1.5% o’r boblogaeth), sef cynnydd o 22,000 (0.7%) yn 2001.

2011 oedd y flwyddyn gyntaf i’r cyfrifiad ofyn cwestiwn am hunaniaeth genedlaethol. Nododd bron dwy ran o dair (66%, 2.0 filiwn) o drigolion Cymru mai Cymreig yw eu hunaniaeth genedlaethol: o’r rhain, nododd 218,000 (7.1% o’r boblogaeth gyfan) hefyd eu bod yn ystyried eu hunain yn Brydeinig.

Ymfudo rhyngwladol

Yn 2017, roedd nifer y bobl a oedd yn byw yng Nghymru na chawsant eu geni yn y DU yn 196,000 (6.4% o’r boblogaeth), sef cynnydd o 75,000 (2.6% o’r boblogaeth) yn 2001. O ran y DU gyfan, cynyddodd hyn o 8.3% i 14% dros yr un cyfnod.

O ble mae pobl yn symud i Gymru? Mae mewnfudo wedi cynyddu ers 1999. Ar yr atlas isod, mae maint y saethau wedi’u graddio i gynrychioli cyfran y symudiadau i Gymru o bob cyfandir yn ystod y cyfnod rhwng 1999 a 2017.

Digwyddodd y cynnydd cyflymaf rhwng 2011 a 2014, gan gyrraedd ei uchafbwynt ar 28,000 o ymfudwyr y flwyddyn. Roedd allfudo ychydig yn fwy sefydlog ac yn gyfartal â’r gyfradd fewnfudo tan oddeutu 2012. Rhwng 2013 a 2017, roedd mewnfudo yn uwch nag allfudo o fwy na 10,000 o bobl y flwyddyn.

Mae’r ffactorau sy’n dylanwadu ar fudo, fel perthynas y DU â’r UE, yn anrhagweladwy. Ynghyd â’r anwadalrwydd yn y data, mae hyn yn ei gwneud yn anodd creu amcanestyniad o’r cyfraddau mewnfudo yn y dyfodol.

Genedigaethau a marwolaethau

Mae pobl yn cael llai o blant. Rhwng 1999 a 2017, cyrhaeddodd nifer y genedigaethau y flwyddyn ei uchafbwynt yn 2010 ar 2.3 o enedigaethau byw i bob 100 o fenywod. Ers hynny, mae wedi gostwng yn gyson i 2.0 o enedigaethau byw i bob 100 o fenywod. Mae’r oedran pan fo merched yn rhoi genedigaeth yn cynyddu. Gostyngodd nifer y genedigaethau gan fenywod o dan 25 oed o 32% i 23% rhwng 2004 a 2017.

Mae pobl yn byw’n hirach:  Rhwng 1999 a 2014, cynyddodd disgwyliad oes yn raddol o 3.7 o flynyddoedd ar gyfer dynion a 2.6 o flynyddoedd ar gyfer menywod. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2012 a 2014, roedd disgwyliad oes dynion a menywod yn 78.5 a 82.3 mlwydd oed, yn y drefn honno.

Dosbarthiad oedran

Mae’r pyramidiau poblogaeth isod yn dangos nifer y dynion a nifer y menywod o bob flwyddyn oedran unigol. Mae’r crychdonnau ar led y dosbarthiad yn adlewyrchu gwahaniaethau mewn cyfraddau genedigaethau a marwolaethau rhwng cenedlaethau. Er enghraifft, mae’r amrywiadau serth yn nifer y bobl 52 oed yn 1999 a 70 oed yn 2017 (a ddangosir gan saethau) o ganlyniad i’r nifer fawr o enedigaethau yn dilyn y rhyfel.

Mae dosbarthiad oedran y dynion yn adlewyrchu dosbarthiad y menywod i raddau helaeth. Un eithriad yw yn 1999, roedd cryn dipyn yn llai o ddynion o’u cymharu â menywod yn y grŵp dros 60 mlwydd oed.

Poblogaeth sy’n heneiddio: Gostyngodd cyfran y boblogaeth o dan 16 oed o 20% ym 1999 i 18% yn 2017. Ar y llaw arall, cynyddodd cyfran y boblogaeth 65 oed a hŷn o 17% yn 1999 i 21% yn 2017. Cynyddodd cyfran y boblogaeth o oedran gweithio (rhwng 16 a 64) o 62% i 64% rhwng 1999 a 2008 ond dychwelodd i 62% erbyn 2017.

Er bod y gwahaniaethau yn y dosbarthiadau oedran yn fach, disgwylir iddynt newid yn ddramatig yn y dyfodol, fel y trafodir isod. 

Amcanestyniadau poblogaeth

Gan edrych tua’r 20 mlynedd nesaf, mae’r amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer 2016 a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhoi rhyw syniad o sut y gall demograffeg Cymru newid:

  • Rhagwelir y bydd y boblogaeth yn tyfu 3.3% o 2019 i 2039. Mae cynnydd disgwyliedig o 103,000 yn sylweddol is na’r 20 mlynedd flaenorol.
  • Disgwylir i oedran cyfartalog y boblogaeth gynyddu 2.5 mlynedd erbyn 2039, o 42.2 yn 2019 i 44.7 yn 2039.
  • Disgwylir i boblogaeth pobl 65 oed a hŷn dyfu dros 30%.
  • Disgwylir i’r oedran gweithio (16–64) a phoblogaethau o dan 16 leihau 4.6% a 2.6%, yn y drefn honno.

Y stori fawr yn yr amcanestyniadau hyn yw’r cynnydd disgwyliedig o dros 30% ar gyfer pobl 65 mlwydd oed a hŷn. Mae poblogaeth sy’n heneiddio yn gosod baich cynyddol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol a ddarperir, yn ogystal â gwasanaethau eraill, megis addasiadau cartref. Fel y mae Pwyllgor Cyllid y Cynulliad yn nodi yn ei adroddiad ymchwiliad ‘cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio’, mae’r cynnydd yng nghyfran y bobl hŷn yn sylweddol gan fod oes hirach yn golygu bod llawer mwy o bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth sy’n deillio o gyflyrau cronig, gan gynnwys dementia ac eiddilwch wrth heneiddio. Bydd angen y gwasanaethau ychwanegol hyn ar adeg pan effeithir ar gyllid cyhoeddus o ganlyniad i’r gostyngiad yn nifer y boblogaeth oedran gweithio.

Mae poblogaeth sy’n tyfu yn cynyddu’r galw am gartrefi newydd. Ar hyn o bryd, amcangyfrifir y bydd angen rhwng 6,700 a 9,700 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn rhwng 2018-2019 a 2022-2023.  Bydd tai newydd yn gofyn am ragor o ysgolion, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth a seilwaith i’w cysylltu. Mae goblygiadau hefyd i adnoddau naturiol a’r amgylchedd.

Dylid trin manylion yr amcanestyniadau hyn yn ofalus gan eu bod nhw ddim ond yn dangos sut y bydd y boblogaeth yn newid os bydd y tueddiadau presennol yn parhau. Nid ydynt yn ystyried economi sy’n newid, polisïau newydd y llywodraeth, cysylltiadau rhyngwladol, argaeledd tai, clefydau neu epidemigau, datblygiadau technolegol neu unrhyw ffactorau cymdeithasol eraill. Mae amcanestyniadau yn fwyfwy ansicr ac yn gynyddol sensitif i’r rhagdybiaethau sylfaenol a’r data a fewnbynnir yn dibynnu ar pa mor hir y cânt eu cynnal.

Y Gymraeg

Mae’r map gwres isod yn dangos canran y bobl a ddywedodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg yng Nghyfrifiadau 2001 a 2011, yn ôl ardal. Mae’r data’n dangos bod canran y bobl sy’n ystyried eu bod yn siarad Cymraeg yn uwch yng ngogledd a gorllewin Cymru o gymharu â de–ddwyrain Cymru.

Mae’r Cyfrifiad yn dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o 21% (582,000) yn 2001 i 19% (562,000) yn 2011. Mae Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol, sy’n gofyn cwestiwn tebyg i sampl o aelwydydd o ran gallu yn y Gymraeg yn awgrymu bod nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg wedi cynyddu’n raddol ers 2010, ac mae’r data diweddaraf yn 2018 yn nodi bod dros 875,000 o bobl tair oed a hŷn yn gallu siarad Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i un filiwn erbyn 2050 (yn seiliedig ar ganlyniadau’r Cyfrifiad). Mae ei strategaeth iaith Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi’r ymyriadau, y gefnogaeth a’r buddsoddiad allweddol sydd eu hangen i gyflawni’r nod hwn. Mae’r rhain yn cynnwys pethau fel ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer y blynyddoedd cynnar, cynyddu cyfran y plant sy’n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg, datblygu cyfleoedd a hyrwyddo ei defnydd yn gymdeithasol ac yn y byd digidol.

Bydd yr erthygl nesaf, a gaiff ei chyhoeddi yfory, yn canolbwyntio ar deithio.


Erthygl gan Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: