Rhoi Cymru ar y map: Sut y dylai Cymru ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol ar ôl Brexit?

Cyhoeddwyd 29/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar ôl Brexit, bydd angen i Gymru ganfod llwyfan iddi ei hun, ailddiffinio ei blaenoriaethau ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, a datblygu dulliau newydd o’u meithrin. Yn y cyd-destun hwn, bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, sef Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol, ar 1 Mai.

Canfu'r Pwyllgor, er bod llawer i'w ddathlu dros y degawdau blaenorol, yn rhy aml, mae dull gweithredu Cymru o ran cysylltiadau rhyngwladol wedi bod yn anghyson ac yn fratiog. Yn dilyn yr ymrwymiad a wnaed ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog i ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd, mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau bwrw ymlaen â hyn dan arweiniad Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

Beth yw'r datblygiadau diweddaraf ar gyfer y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill?

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i weld cynnydd buan yn agenda ryngwladol newydd Llywodraeth Cymru, ac mae hyd yn oed mwy o frys am hyn o gofio y bydd y DU bellach yn ymadael â’r UE erbyn 31 Hydref 2019. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth ryngwladol newydd a beiddgar sy'n nodi'n glir raddfa ei huchelgais ar gyfer Cymru. Wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor, soniodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ei bod yn awyddus i ddatblygu dangosyddion perfformiad allweddol. O ganlyniad, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi nifer o ddangosyddion perfformiad allweddol fel y gellir monitro cynnydd yn erbyn prif ymrwymiadau’r strategaeth ryngwladol.

Yn ei hymateb i'r adroddiad, dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill yn nodi’n fanwl raddfa ei huchelgais ar gyfer Cymru, ac yn amlinellu sut beth yw llwyddiant dros y tymor byr a'r tymor hwy. Fel rhan o hyn, bydd dangosyddion perfformiad allweddol lle gellir mesur y rhain.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd y gellir gwneud mwy i ddefnyddio ‘pŵer meddal’ Cymru – gan ddefnyddio atyniad a pherswâd i gyflawni’r amcanion o ran polisi tramor – trwy ddefnyddio asedau arbennig fel y Gymraeg a diwylliant Cymru. Roedd yn argymell bod y strategaeth ryngwladol newydd yn nodi meysydd o bŵer meddal lle gall Cymru ddangos arweinyddiaeth ryngwladol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, a bydd ei strategaeth hefyd yn edrych ar ddatblygu pŵer meddal Cymru, gan fod hwn yn faes y mae o’r farn bod angen mwy o sylw arno.

Pa berthnasoedd allweddol y dylai Cymru roi blaenoriaeth iddynt ar ôl Brexit?

Clywodd y Pwyllgor bryderon y gallai fod angen help ar gymdeithas sifil i drosglwyddo o’r trefniadau presennol o fewn yr UE i ddyfodol ar ôl Brexit. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru amlinellu manylion ei gwaith i gefnogi cymdeithas sifil Cymru, gan gynnwys asesiad o unrhyw gyllid ychwanegol sydd ei angen ar y sectorau â blaenoriaeth. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan dynnu sylw at y ffaith ei bod wedi dyrannu £150,000 ar gyfer ei gwaith gyda Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddeall anghenion y trydydd sector yn well yn ystod y cyfnod pontio wrth ymadael â’r UE.

Tynnodd y Pwyllgor sylw hefyd at yr angen i Gymru edrych yn greadigol ar ffyrdd o barhau i gymryd rhan yn rhaglenni'r UE. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r posibilrwydd y bydd Cymru yn parhau i gymryd rhan yn rhaglenni Ewrop mewn meysydd datganoledig a’i bod yn rhoi diweddariad i’r Cynulliad erbyn hydref 2019. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan ddweud mai ei dewis clir yw bod Llywodraeth y DU yn sicrhau perthynas â'r UE yn y dyfodol sy'n cynnwys amrywiaeth o raglenni'r UE. Os na fyddai hyn yn digwydd, byddai'n ystyried a allai Cymru gymryd rhan mewn rhaglenni gyda gwledydd eraill y DU hyd yn oed pe bai Lloegr yn penderfynu peidio â chymryd rhan.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am yr arferion da mewn gwledydd a llywodraethau is-wladwriaeth, fel y rhai yng Ngwlad y Basg a Québec, i flaenoriaethu perthynas ddwyochrog â gwledydd a rhanbarthau eraill. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r berthynas ddwyochrog sydd ganddi â gwledydd eraill ac ardaloedd is-wladwriaeth, i asesu pa rai o'r rhain y gellir eu cryfhau yn y dyfodol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, a dywedodd ei bod yn gwneud y gwaith hwn wrth iddi ddatblygu ei strategaeth ryngwladol.

Pa mor effeithiol y mae Cymru yn ymgysylltu â Chymry dramor?

Yn seiliedig ar dystiolaeth gan nifer o dystion, canfu'r Pwyllgor “bod Cymru wedi bod yn llawer llai llwyddiannus na gwledydd eraill tebyg o ran ymgysylltu â'n dinasyddion tramor, ac mae hynny'n siomedig.” Galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i edrych ar enghreifftiau llwyddiannus o sut y gwnaed hyn yn yr Alban, Iwerddon a Seland Newydd. Argymhellodd y dylai Llywodraeth Cymru lunio cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud, gan gynnwys manylion am ba wledydd fydd yn cael eu blaenoriaethu a sut y bydd yn cyflawni hyn.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae'n cydnabod yr angen i ddatblygu ffordd mwy systematig o ymgysylltu â'r Cymry ar wasgar, ac mae'n nodi y bydd ei strategaeth ryngwladol yn cynnwys gweithio gyda grwpiau o Gymru ar wasgar i sicrhau gwell cydgysylltu. Fodd bynnag, mae hefyd am ystyried pa ymgysylltu sy'n digwydd eisoes, a nodi ble mae'r bylchau.

Sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio dulliau llywodraethol i wneud yn fawr o'i dylanwad?

Ers refferendwm yr UE mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu ei swyddfeydd tramor, ac erbyn hyn mae ganddi 21 o swyddfeydd rhyngwladol ledled y byd. Mae'r rhain yn cynnwys ei swyddfa ym Mrwsel, a chanfu'r Pwyllgor y dylid cadw’r swyddfa honno a'i hariannu i sicrhau'r budd mwyaf posibl ar ôl Brexit.

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu dadansoddiad llinell sylfaen annibynnol o’r swyddfeydd hyn ac y dylid defnyddio’r dadansoddiad i fesur cynnydd ar ôl datblygu’r strategaeth ryngwladol. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Mae o’r farn na ellir mesur dadansoddiad llinell sylfaen a chynnydd swyddfeydd yn y dyfodol ar wahân, ond bydd yn ystyried yr argymhelliad ymhellach.

Daeth y Pwyllgor i'r casgliad hefyd bod gweithio agosach gyda Llywodraeth y DU yn ffordd arall o sicrhau bod gan Gymru fwy o ddylanwad, yn enwedig sicrhau bod adrannau Llywodraeth y DU yn cymryd mwy o ystyriaeth o flaenoriaethau Cymru mewn perthynas â’u gwaith. Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r camau y mae'n eu cymryd i gynyddu ei phresenoldeb a'i dylanwad yn Llundain, a chyflwyno asesiad o’i hadnoddau staffio i gyflawni hyn. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn, gan nodi “y bydd y gwaith o gyflawni’r strategaeth ryngwladol newydd yn cynnwys deall yr angen i gynyddu ein dylanwad a rhoi negeseuon clir i adrannau Llywodraeth y DU yn Llundain.”

Beth yw’r camau nesaf?

Mae nifer o ymatebion Llywodraeth Cymru i argymhellion y Pwyllgor yn cyfeirio at y strategaeth ryngwladol sydd ar y gweill. Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu grŵp gorchwyl a gorffen annibynnol i helpu i ddatblygu'r gwaith hwn, ac mae wedi cyhoeddi cwestiynau ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol fel y gall y cyhoedd helpu i lunio delwedd Cymru i'r byd. Ei nod yw cyhoeddi'r strategaeth erbyn haf 2019, felly erbyn hynny dylem fod yn fwy eglur ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru