Datganoli 20 – Ydyn ni'n genedl iachach?

Cyhoeddwyd 01/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r drydedd mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.

Mae cynaliadwyedd gwasanaethau iechyd a gofal yn fater hollbwysig yng Nghymru. Mae costau darparu gwasanaethau'r GIG wedi parhau i gynyddu, ac erbyn hyn maent yn cyfrif am dros hanner (52.3%) cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â 39.8% yn 2010-11. Mae'r pwysau cynyddol hwn ar y gyllideb yn amlwg yn effeithio ar wasanaethau eraill fel gofal cymdeithasol, ac ar y llaw arall, cytunir yn eang bod system gofal cymdeithasol heb ddigon o adnoddau yn rhoi pwysau pellach ar y GIG.

Mae arbenigwyr wedi rhagweld y byddai pwysau ar ofal cymdeithasol oherwydd demograffeg, cyflyrau cronig a chostau cynyddol yn ei gwneud yn ofynnol i gyllideb y gwasanaethau cymdeithasol bron â dyblu erbyn 2030/31 i ateb y galw.

Mae gan Gymru y gyfran fwyaf o bobl hŷn fesul poblogaeth yn y DU, ac mae llawer yn byw mewn cymunedau gwledig ac ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd.

Gwneir cymariaethau dadleuol yn aml ynghylch perfformiad y GIG yng Nghymru yn erbyn Lloegr, ond mae adolygiadau diweddar wedi dod i'r casgliad nad oes gwahaniaeth sylweddol mewn perfformiad rhwng gwledydd y DU.

Ers datganoli, mae dulliau o ddarparu gwasanaethau'r GIG yn y DU wedi dod yn fwyfwy amrywiol. Mae Cymru wedi symud i ffwrdd o ddefnyddio marchnad fewnol i reoli gwasanaethau; mae rôl y sector preifat mewn gofal iechyd wedi lleihau; a sefydlwyd Byrddau Iechyd Lleol integredig. Uchelgais Llywodraeth Cymru yw dod â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd, fel bod gwasanaethau di-dor yn cael eu cynllunio a'u darparu o amgylch y person, ond mae llawer i'w wneud cyn bod hyn yn realiti.

Heneiddio'n dda?

Mae llawer o ddata ar gael ynghylch ein poblogaeth sy'n heneiddio. Pan sefydlwyd y Cynulliad gyntaf ym 1999, roedd 17% o'r boblogaeth dros 65 oed; cododd hyn i 21% yn 2017, a rhagwelir y bydd yn cyrraedd 28% yn yr 20 mlynedd nesaf.

Rhwng 2015 a 2035, rhagwelir y bydd cyfran yr holl oedolion sy'n byw gyda chyflwr hirdymor cyfyngol yn cynyddu 22%. Rhagwelir y bydd y cynnydd mwyaf mewn strôc (33%), cyflyrau'r galon (31%) a chyflyrau niwrolegol gan gynnwys dementia (72%).

Disgwyliad oes cyfartalog heddiw yw 78 oed i ddynion ac 82 oed i fenywod. Fodd bynnag, mae dynion a menywod yn debygol o dreulio 17 ac 20 mlynedd ar gyfartaledd yn byw gydag iechyd gwael. Amcangyfrifodd Llywodraeth Cymru yn 2006 y byddai disgwyliad oes yn 84 oed i ddynion ac 87 oed i fenywod erbyn 2020.

Mae gwahaniaethau amlwg o ran disgwyliad oes a disgwyliad oes iach ledled Cymru nad ydynt wedi newid yn ystod y degawd diwethaf. Mae dynion a menywod yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn treulio tua 19 a 18 yn llai o flynyddoedd mewn iechyd da, ac yn marw ar gyfartaledd naw a saith mlynedd yn gynharach na'r rheini yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae disgwyliad oes cyfartalog wedi codi'n gyson ers 1999, ond mae’r cynnydd wedi arafu'n sylweddol ers 2011, gyda disgwyliad oes yn cynyddu ar gyfradd llawer arafach na'r 20 mlynedd blaenorol. Gellir gweld y duedd hon ar draws rhan helaeth o orllewin Ewrop, ond yng Nghymru, digwyddodd yr effaith yn gynharach ac erbyn hyn, dim ond yr Alban sydd â disgwyliad oes is (mae Cymru wedi llithro o safle 16 i 24 yn 25 o wledydd gorllewin Ewrop).

Mae'r dirywiad parhaus mewn cyfraddau marwolaethau yng Nghymru hefyd wedi lleihau ers tua 2011. Cynyddodd cyfraddau marwolaethau yn sylweddol yn 2015, a briodolwyd o leiaf yn rhannol i gynnydd mewn marwolaethau o ganlyniad i'r ffliw, niwmonia a dementia ymhlith y rhai 75+ oed. Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi y gallai tueddiadau cyfredol olygu y gallai cynnydd mewn marwolaethau (fel yn 2015) fod yn fwy tebygol yn y dyfodol.

Ffordd o fyw

Mae ysmygu, bod dros bwysau neu'n ordew, deiet gwael ac anweithgarwch corfforol yn ffactorau risg sylweddol ar gyfer nifer o gyflyrau iechyd.

Ysmygu

Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng ers pasio deddfwriaeth i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeëdig yn 2007. Bydd deddfwriaeth ddilynol (Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017) yn cyflwyno cyfyngiadau pellach ar ysmygu ar dir ysgolion, mewn meysydd chwarae, ac ar dir ysbytai.

Ar ddechrau'r Cynulliad cyntaf, roedd nifer yr achosion o ysmygu 25% ar gyfer oedolion 16+ oed. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos bod 19% o oedolion yn ysmygu ar hyn o bryd.

Mae’r cyfraddau ysmygu hefyd wedi gostwng ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed, o 13% yn 1998 i oddeutu 4% yn 2017/18. Er bod cyfraddau ysmygu oedolion wedi gostwng yn gyson dros y degawd diwethaf, maent wedi aros yn sefydlog dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae bwlch amddifadedd amlwg, gyda chyfraddau ysmygu yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig (28%) dros ddwywaith y rhai yn yr ardaloedd lleiaf difrentiedig (13%). Os bydd y tueddiadau presennol yn parhau, bydd targed Llywodraeth Cymru o leihad i 16% yn nifer yr achosion erbyn 2020 yn cael ei fethu gan o leiaf bum mlynedd.

Mae mwy o famau yn ysmygu yn ystod beichiogrwydd yma nag mewn unrhyw wlad arall yn y DU. Gwnaeth prosiect Iechyd Cyhoeddus Cymru argymhellion ar gyfer gweithredu ar y mater hwn yn 2015 (ond nid yw'n glir a ydynt yn cael eu datblygu).

Alcohol

Dywedir bod oedolion yn yfed llai; mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 18% o oedolion yn dweud eu bod yn yfed mwy na'r canllawiau a argymhellir. Er bod hyn yn dangos gostyngiad yn y duedd mewn lefelau yfed yn ôl hunan-adroddiadau, bu cynnydd yn y baich afiechyd oherwydd alcohol (dros draean) ers 1990. Nid oes eglurhad wedi'i roi ar gyfer y gwahaniaeth hwn hyd yma.

Yn ddiweddar, pasiodd y Cynulliad Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 sy'n ceisio lleihau lefelau niweidiol o yfed drwy gyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu/cyflenwi alcohol a'i wneud yn drosedd i werthu alcohol yn is na'r isafbris. Amser a ddengys pa effaith y bydd y ddeddfwriaeth yn ei chael ar yfed alcohol a'r niwed cysylltiedig.

Pwysau a gweithgarwch corfforol

Mae tueddiadau yn dangos bod nifer y bobl sy'n bwyta ffrwythau a llysiau wedi gostwng dros amser, tra bod nifer yr achosion o fod dros bwysau neu'n ordew wedi cynyddu.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 60% o oedolion dros eu pwysau neu'n ordew; mae 22% yn ordew. Mae hyn wedi cynyddu gydag amser o 54% ac 18% yn 2003/04. Yn ôl rhagfynegiadau iechyd cyhoeddus, byddai parhad yn y tueddiadau cyfredol yn golygu bod dwy ran o dair o'r boblogaeth oedolion dros eu pwysau neu'n ordew erbyn 2025.

Mae cyfran uwch o blant dros eu pwysau neu'n ordew, ac yn nodi ffordd o fyw nad yw'n iach, o'i gymharu â gwledydd eraill y DU. Mae'r Rhaglen Mesur Plant diweddaraf yn dangos bod 26.4% o blant pedair a phump oed dros eu pwysau neu'n ordew o gymharu â 22.4% yn Lloegr a'r Alban. Mae ardal yr awdurdod lleol sydd â'r gyfran uchaf o ordewdra ymhlith plant (Merthyr Tudful) yn fwy na dwbl yr ardal awdurdod lleol sydd â'r gyfran isaf (Bro Morgannwg).

Diwygiwyd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn ystod gwaith craffu gan y Cynulliad i gynnwys darpariaethau ar ordewdra. Mae bellach yn ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi strategaeth genedlaethol ar atal gordewdra a lleihau lefelau gordewdra, a chyhoeddi adroddiadau cynnydd yn dilyn adolygiadau. Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strategaeth ddrafft, Pwysau Iach, Cymru Iach ar gyfer ymgynghoriad. Mae’r strategaeth ddrafft yn dweud bod arferion o ran bwyta ac anweithgarwch corfforol wedi cynyddu dros gyfnod o ddegawdau, a bod ‘newidiadau technolegol a chymdeithasol yn golygu bod gweithgarwch corfforol wedi lleihau’n raddol yn ein bywydau bob dydd.’

Dim ond tua hanner yr oedolion sy’n gwneud digon o weithgarwch corfforol, ac nid yw traean ohonynt yn gwneud unrhyw weithgarwch corfforol o gwbl. Un o bob chwech o bobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed sy’n cyrraedd canllawiau’r Prif Swyddog Meddygol o 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd. Mae bwlch amddifadedd clir (17%) hefyd i’w weld.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon adroddiad ar weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc (a gaiff ei drafod yn y Cyfarfod Llawn yn fuan). Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod lefelau gweithgarwch corfforol a bod yn eisteddog ymhlith plant Cymru gyda’r gwaethaf ledled y byd. Daeth yr Aelodau i’r casgliad ‘os na ddechreuwn ni weithredu ar frys yn awr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn storio problemau ar gyfer cenedlaethau i ddod.’

Iechyd meddwl a lles

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd pwyslais newydd ar les. Mae'r Cynulliad wedi pasio dau ddarn pwysig o ddeddfwriaeth; Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i ddiwygio ac integreiddio cyfraith gwasanaethau cymdeithasol, a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n pennu nodau lles ar gyfer awdurdodau cyhoeddus, gyda'r nod o wella lles Cymru nawr ac yn y dyfodol.

Mae adroddiad diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar les yn dangos, er nad oedd lefelau lles personol ar gyfartaledd yn wahanol iawn i'r DU, bod cyfran fwy o bobl wedi dweud eu bod yn sgorio lles personol ‘gwael’.

Yn 2018, adroddodd cyfran fwy o bobl (am y tro cyntaf ers 2012) sgorau isel ar gyfer pob un o'r tri mesur cadarnhaol o les personol o'i gymharu â gweddill y DU.

Bu ffocws cynyddol ar iechyd meddwl yn y Cynulliad dros y degawd diwethaf. Yn unigryw yn y DU, nod Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (a gychwynnwyd gan Aelod Cynulliad y meinciau cefn), oedd hwyluso mynediad cynharach at wasanaethau iechyd meddwl a gwella gofal a chynllunio triniaeth ar gyfer cleifion.

Yn ddiweddar, mae pwyllgorau'r Cynulliad wedi bod yn tynnu sylw at iechyd meddwl, gan roi pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau. Mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i yrru'r agenda yn ei blaen, yn dilyn cyhoeddi ei adroddiad Cadernid Meddwl yn 2018 ar iechyd emosiynol ac iechyd meddwl pobl ifanc. Roedd adroddiad dilynol y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar atal hunanladdiad yn cymeradwyo argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod iechyd meddwl yn cael yr un sylw ag iechyd corfforol.

Mae Cymru yn wynebu heriau iechyd a gofal sylweddol. Gellir gweld enillion clir dros amser mewn meysydd fel ysmygu, ond mae sawl mater yn parhau i beri pryder, gan gynnwys y lefelau gorbwysau a gordewdra cynyddol, cynnydd mewn cyflyrau cronig a salwch meddwl. Gellid disgwyl hefyd i effaith bylchau anghydraddoldeb iechyd ar ffactorau risg allweddol fel deiet, anweithgarwch corfforol, a gordewdra gynyddu yn y dyfodol os na chânt sylw ar frys.

Bydd yr erthygl nesaf, a gaiff ei chyhoeddi yfory, yn canolbwyntio ar addysg.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru