Beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hiliaeth yng Nghymru?

Cyhoeddwyd 03/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn y Cyfarfod Llawn ar Ddydd Mawrth, 7 Mai, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod ‘Mynd i'r Afael â Hiliaeth ac Anghydraddoldeb Hiliol’ yng Nghymru.

Trosedd casineb

Yn ystod 2017-18 cafodd 94,098 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, sef cynnydd o 17% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae tuedd cynyddol wedi bod yn nifer y troseddau casineb a gofnodir gan yr heddlu yn ystod y pum mlynedd diwethaf, gyda throseddau yn mwy na dyblu ers 2012-13, o 42,255 i 94,098 o droseddau (cynnydd o 123%). Dywed y Swyddfa Gartref y canlynol:

“This increase is thought to be largely driven by improvements in police recording, although there has been spikes in hate crime following certain events such as the EU Referendum and the terrorist attacks in 2017.”

Mae dadansoddiad o nifer y troseddau casineb yng Nghymru a Lloegr yn 2017-18 yn ôl y pum elfen sy'n cael eu monitro'n ganolog yn dangos y cafwyd:

  • 71,251 (76%) o droseddau casineb hiliol;
  • 11,638 (12%) o droseddau casineb cyfeiriadedd rhywiol;
  • 8,336 (9%) o droseddau casineb crefyddol;
  • 7,226 (8%) o droseddau casineb anabledd; a
  • 1,651 (2%) o droseddau casineb trawsryweddol.

Gall mwy nag un ffactor fod yn sbardun i drosedd casineb, a dyna pam mae'r ffigurau uchod yn dod i gyfanswm sy'n fwy na 94,098 a chanran sy'n fwy na 100%.

Troseddau casineb yng Nghymru

Mae'r ystadegau ar gyfer 2017-18 yn dangos bod y mwyafrif o droseddau casineb (74%) y rhoddwyd gwybod i'r heddlu amdanynt ac a gofnodwyd yng Nghymru yn gysylltiedig â hil neu grefydd.

Mae'r tabl isod yn dangos nifer y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd, a chyfanswm nifer y troseddau casineb a gofnodwyd, ar gyfer pob llu heddlu yng Nghymru yn 2011-12 a 2017-18:

Mae’r ystadegau yn dangos cynnydd o 68% yn y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2017-18, a chynnydd o 86% yng nghyfanswm y troseddau casineb a gofnodwyd rhwng 2011-12 a 2017-18.

Cydlyniant cymunedol

Ym mis Mawrth 2016, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol ar gyfer 2016-17. Mae'r Cynllun Cyflawni yn cynnwys saith canlyniad penodol:

  • Adrannau, sefydliadau a phobl yn deall troseddau casineb, dioddefwyr yn gwneud adroddiadau ac yn cael cymorth addas;
  • Adrannau, sefydliadau a phobl yn deall caethwasiaeth fodern, dioddefwyr yn gwneud adroddiadau ac yn cael cymorth addas;
  • Mwy o ymwybyddiaeth o gymunedau Sipsiwn a Theithwyr a mwy o ymgysylltu â nhw;
  • Mwy o dystiolaeth ar fewnfudo a mwy o ymwybyddiaeth ohono, a chefnogi cynnwys ceiswyr lloches, ffoaduriaid ac ymfudwyr;
  • Mwy o ddealltwriaeth ynghylch effeithiau tlodi ar bobl â Nodweddion Gwarchodedig ym mhob maes polisi a gwasanaeth allweddol;
  • Polisïau a rhaglenni allweddol yn cefnogi ac yn dangos yr hyn a gyflawnwyd yn erbyn y nod cenedlaethol o gymunedau mwy cydlynol drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015; ac
  • Mae polisïau a gwasanaethau’n ymatebol i densiynau yn y gymuned.

Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol

Mewn ymateb i argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Roeddwn i'n arfer bod yn rhywun': Ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i ddiweddaru'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol erbyn haf 2017.

Yn ei Ymchwiliad i hawliau dynol yng Nghymru, clywodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau dystiolaeth gan nifer o dystion a fynegodd bryderon am y cynnydd canfyddedig mewn troseddau casineb yn dilyn refferendwm yr UE. Nododd tystiolaeth ysgrifenedig y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y canlynol:

“in the month following the EU referendum, reports show that racist or religious abuse incidents recorded by police in England and Wales increased by 41% compared to the previous year.”

Ym mis Ebrill 2018, argymhellodd llythyr ar y cyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol at Brif Weinidog Cymru y canlynol:

“Rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddiweddaru'r Cynllun Cydlyniant Cymunedol cyn tymor yr haf 2018, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cymryd i ystyriaeth y cynnydd a welwyd yn ddiweddar mewn troseddau casineb a'r heriau newydd sy'n bodoli o ran cydlyniant cymunedol yng Nghymru.”

Yn y Cyfarfod Llawn ym mis Gorffennaf 2018, dywedodd Arweinydd y Tŷ ar y pryd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol newydd ‘yn yr hydref’. Hyd yma, ni chyhoeddwyd unrhyw Gynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol newydd.

Brexit

Mae tudalennau gwe Llywodraeth Cymru ynghylch paratoi Cymru ar gyfer Brexit yn ymdrin yn benodol â chydlyniant cymunedol, ac yn nodi'r canlynol:

“Mae Llywodraeth Cymru am wneud yn siŵr bod gennym genedl gynhwysol sy’n croesawu pobl o bob cefndir heb senoffobia, hiliaeth neu gulni o unrhyw fath.”

Cyn esbonio'r canlynol:

“Mae Cronfa Bontio’r UE, a grëwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi helpu i ehangu’r rhaglen cydlyniant cymunedol a’r rhwydwaith o gydlynwyr er mwyn helpu i nodi’r problemau posibl yn eu hardaloedd. Eu rôl nhw yw lleihau’r tensiwn yn eu hardaloedd drwy drafod, cysuro a hwyluso cydweithredu rhwng y gwasanaethau cyhoeddus. Defnyddir arian ychwanegol o Gronfa Bontio’r UE i adeiladu ar waith y rhwydwaith presennol o gydlynwyr gan gynnal gwaith penodol i leddfu’r tensiwn cymunedol oherwydd Brexit.”

Mwy o gyllid

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, y bydd £840,000 ar gael dros ddwy flynedd o Gronfa Bontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â throseddau casineb, gyda:

  • £360,000 i Cymorth i Ddioddefwyr Cymru i gynyddu capasiti ei Chanolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth, a
  • £480,000 ar gyfer cynllun ariannu sy'n cynnig grantiau untro i sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl dduon ac asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a chymunedau ffydd lleiafrifol i helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb, lleihau effeithiau Brexit, a darparu sicrwydd ar ôl ymadael â'r UE.

Anghydraddoldeb hiliol

Addysg

Mae adroddiad A yw Cymru'n Decach 2018 y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cynnwys gwybodaeth am anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru.

Mae cyrhaeddiad addysgol y blynyddoedd cynnar yn cael ei fesur yng Nghymru drwy ddadansoddi canran y plant saith mlwydd oed sy'n cyflawni'r 'deilliant disgwyliedig' neu'n well ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen. Nododd adroddiad ‘A Yw Cymru'n Decach’ yn 2016/17, o ran plant sy'n cael addysg y blynyddoedd cynnar, y cyflawnodd plant Indiaidd (93.2%) a phlant o dras ethnig gymysg (88.8%) ddeilliannau gwell o'u cymharu â phlant Gwyn Prydeinig (87.7%). Cyflawnodd plant duon (83.1%) ddeilliannau is, a chyflawnodd plant Sipsiwn/Roma/Teithwyr Gwyddelig (56.2%) y deilliannau isaf.

Mae cyrhaeddiad ar ddiwedd addysg orfodol yn cael ei fesur yng Nghymru drwy gyflawni trothwy cynwysedig Lefel 2, sy'n gofyn am bum TGAU gradd A*-C, gan gynnwys Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf, a mathemateg. Roedd adroddiad ‘A Yw Cymru'n Decach’ yn casglu data dros dair blynedd er mwyn goresgyn problemau samplau bach, a darganfuwyd mai'r ganran uchaf ar gyfer cyflawni'r trothwy oedd disgyblion Indiaidd (81.0%) a Tsieineaidd (80.8%). Cyrhaeddodd canran uwch o ddisgyblion Bangladeshaidd (65.2%) y lefel cyrhaeddiad hon na disgyblion Gwyn Prydeinig (58.9%), o gymharu hyn ag un o bob pum disgybl Sipsiwn/Sipsiwn Roma (21.5%).

Cyflogaeth

Mae adroddiad ‘A Yw Cymru'n Decach’ yn nodi bod gan bobl Indiaidd (76.9%), Pacistanaidd (74.4%) a Gwyn ac eithrio pobl o gefndir Gwyn Prydeinig a Gwyn Gwyddelig (71.8%) gyfraddau cyflogaeth uwch yn 2016/17, o'u cymharu â'r gyfradd ar gyfer pobl o gefndir Gwyn Prydeinig (55.9%). Roedd gan bobl Indiaidd (1.5%) gyfradd diweithdra isel yn 2016/17, a oedd dair gwaith yn is na'r gyfradd ar gyfer y boblogaeth o gefndir Gwyn Prydeinig (4.5%). Yn 2016/17, roedd enillion canolrifol fesul awr pobl Indiaidd (£14.43) yn uwch na phobl Gwyn Prydeinig (£10.60), ac roedd gan bobl Dduon (£8.71) enillion canolrifol is fesul awr.


Erthygl gan Megan Jones, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru