Cymru Datganoli20 Delweddau Data newid hinsawdd Y Môr a Physgodfeydd Ynni Yr Amgylchedd Ystadegau

Datganoli 20 – Sut mae amgylchedd Cymru wedi newid?

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r pumed mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli. Ers 1999, mae Pwyllgorau'r Cynulliad wedi bod yn mynd ati i graffu ar Lywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu o ran yr amgylchedd.

Amcangyfrif o amser darllen: 9 Munud

03 Mai 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r pumed mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.

Mae amgylchedd Cymru yn cynnwys llu o gynefinoedd cyfoethog. Ucheldir a thirwedd fynyddig sydd gennym yng Nghymru ac, mae’r hinsawdd yn wlypach na llawer o weddill y DU. Mae ei safle ar ffin tri pharth cefnforol a hinsoddol, ac un o amrediadau llanw mwyaf y byd, yn cyfuno i roi myrdd o fywyd gwyllt i Gymru. Mae ganddi 1,702 o filltiroedd o arfordir, traethau arobryn, a hi yw’r wlad gyntaf yn y byd i gael llwybr troed arfordirol pwrpasol a chyflawn 870 o filltiroedd o hyd.

Mae edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi newid yn amgylchedd Cymru dros ugain mlynedd y Cynulliad yn anodd; bydd gweithredoedd amgylcheddol tymor byr yn cael canlyniadau tymor hir, felly yn aml ni fyddwn yn gweld effaith gweithred, p’un ai’n gadarnhaol neu’n negyddol, am ddegawdau.

Mae stori’r ugain mlynedd diwethaf wedi canolbwyntio ar ddysgu am statws presennol yr amgylchedd, a’r tueddiadau tymor hwy sydd wedi arwain at y statws hwn. Rydym yn gwybod bod bioamrywiaeth yn parhau i ddirywio, ond bod cynhyrchiant ynni adnewyddadwy wedi cynyddu. Mae allyriadau carbon wedi gostwng yn arafach yng Nghymru na gweddill y DU ac, mewn gwirionedd, wedi cynyddu yn 2016 (y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer). 

Mae Cymru wedi rhoi dulliau deddfwriaethol ar waith i reoli a diogelu’r amgylchedd yn gynaliadwy. Pasiodd y Cynulliad Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (LlCD) 2015 sy’n gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i weithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy – gan sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain. Mae’r Ddeddf yn cynnwys saith nod llesiant – gyda’r ail nod, sef Cymru gydnerth, yn galw am y canlynol:

Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid hinsawdd).

Yn cyd-fynd â hyn, pasiodd y Cynulliad Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a gyflwynodd ddulliau i gynllunio a rheoli adnoddau naturiol, sy’n golygu bod ‘Cymru’n economi werdd a charbon isel, sy’n barod i addasu i effeithiau hinsawdd sy’n newid.

Ers 1999, mae Pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn mynd ati i graffu ar Lywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu o ran yr amgylchedd.

Gorchudd tir ac amaethyddiaeth

Mae ffigur 1 isod yn dangos gorchudd tir Cymru; ardaloedd amaethyddol, coedwigaeth a lled-naturiol yn bennaf, gyda llai na 6% o Gymru yn arwyneb artiffisial.

Ffigur 1: Map yn dangos gorchudd tir yn 2018.
Ffynhonnell: Setiau data Corine Land Cover

Mae Cymru yn un o’r gwledydd lleiaf coediog yn Ewrop gyda dim ond tua 15% o dir y wlad wedi’i orchuddio gan goetir, o gymharu hyn â chyfartaledd yr UE, sef 37%. Mae strategaeth bresennol a chynllun gweithredu pum mlynedd (2015-2020) Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu hyn gyda tharged o 2,000 hectar o blannu newydd bob blwyddyn.

Mae tir a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol yn cyfrif am 90 y cant o gyfanswm arwynebedd tir Cymru. Mae tirwedd, ansawdd pridd a hinsawdd Cymru yn golygu bod y rhan fwyaf o’r tir wedi’i gyfyngu i bori defaid a gwartheg, a ddangosir gan y rhaniad tir yn ôl defnydd yn ffigur 2:

Ffigur 2: Rhaniad tir ar ddaliadau amaethyddol yn ôl defnydd, 2018
Ffynhonnell: Ystadegau ar gyfer Cymru 2018

Yn 2017, roedd amaethyddiaeth yn cyfrif am 3.62% o gyflogaeth ranbarthol Cymru a 0.59% oedd cyfanswm y gwerth ychwanegol gros yn 2016.  Er mai £34,600 oedd incwm busnesau ffermio Cymru yn 2017-18 ar gyfartaledd, mae incwm ffermydd yng Nghymru yn parhau i ddibynnu’n helaeth ar gymorthdaliadau. Fodd bynnag, mae polisi amaethyddol ar draws y DU yn newid wrth iddi ymadael â system gymorthdaliadau bresennol Polisi Amaethyddol Cyffredin (PAC) yr UE sydd wedi bod yn sail i’r diwydiant ffermio yn y DU ers degawdau.

Mae tirweddau sydd o bwysigrwydd cenedlaethol yng Nghymru wedi’u dynodi fel Parciau Cenedlaethol neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). At ei gilydd, mae’r Tirweddau Dynodedig hyn yn cwmpasu tua 25% o Gymru, ac yn cyfrannu at gyfres o ardaloedd gwarchodedig a safleoedd arbennig sydd wedi’u dewis oherwydd eu bywyd gwyllt, eu harddwch golygfaol neu eu gwerth fel safleoedd daearegol. Mae’r rhain yn cynnwys mwy na 1000 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel y safleoedd pwysicaf ar gyfer treftadaeth naturiol Cymru, gan gwmpasu tua 12% o arwynebedd y wlad.

O ystyried pwysigrwydd amaethyddiaeth a’r amgylchedd naturiol, mae pwyllgorau’r Cynulliad wedi dangos diddordeb mawr yn y pwnc yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf. Roedd galluogi ffermwyr i dderbyn taliadau am ffermio mewn ffyrdd sydd o fudd i’r amgylchedd yn bwnc y rhoddwyd sylw iddo gan Bwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad Cyntaf, ac yn parhau i gael ei drafod gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (NHAMG) y Cynulliad presennol.

Y môr a physgodfeydd

Mae dros 60% o boblogaeth Cymru yn byw ac yn gweithio o amgylch yr arfordir. Mae moroedd Cymru yn cefnogi miloedd o swyddi ar draws ystod o sectorau ac yn rhoi llawer o adnoddau i ni.

Mae sector pysgota Cymru yn wahanol o ran maint a natur i fannau eraill yn y DU. Yn 2017, roedd 450 o gychod wedi’u cofrestru ym mhorthladdoedd Cymru a 756 o bysgotwyr yn cael eu cyflogi yn y sector. Pysgod cregyn yw dau draean o’r hyn sy’n cael ei ddal gan gychod Cymru yn ôl eu gwerth. Caiff 90% eu hallforio i’r UE ac i Asia drwy gytundebau masnach estynedig yr UE.

Mae’r sector wedi’i lywio gan aelodaeth y DU o Bolisi Pysgodfeydd Cyffredin (PPC) yr UE). Fodd bynnag, pan fydd y DU yn gadael yr UE, bydd yn gadael y PPC hefyd, gan olygu y bydd angen cyflwyno deddfwriaeth i reoli ei dyfroedd ei hun, ac y bydd potensial ar gyfer newidiadau sylweddol yn y polisi pysgodfeydd yng Nghymru. Mae pysgodfeydd yn fater datganoledig ac, fel y cyfryw, mae Pwyllgorau’r Cynulliad wedi bod yn mynd ati i baratoi at y newid hwn.

Mae gan Gymru 133 o ardaloedd morol gwarchodedig (AMG), sy’n cyfateb i 69% o foroedd Cymru.  Mae’r rhain yn ceisio diogelu ein moroedd a’u gwneud yn fwy cydnerth i newid.

Mae’r Pwyllgor NHAMG wedi trafod effeithiolrwydd rheoli AMG, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o flaenoriaeth ac arweinyddiaeth ‘yn ddi-oed’. Mewn ymateb, yn 2018, cyhoeddwyd Fframwaith a Chynllun Gweithredu Rheoli Rhwydwaith AMG.

Bioamrywiaeth

Argymhellodd Pwyllgor Amgylchedd, Cynllunio a Thrafnidiaeth y Cynulliad Cyntaf y canlynol:

bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi arweiniad yn y maes trwy roi rhan ganolog i ystyriaethau sy’n ymwneud â bioamrywiaeth yn ei pholisïau a’i blaenoriaethau hi, a rhai’r cyrff y mae’n eu noddi

Yn dilyn hynny, mae ymchwiliadau bioamrywiaeth wedi’u cynnal gan Bwyllgorau’r trydydd a’r pedwerydd Cynulliad, ac mae bioamrywiaeth Cymru wedi codi’n raddol ar yr agenda wleidyddol, gan arwain at basio Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 gan y Pedwerydd Cynulliad.

Lluniodd grwpiau cadwraeth natur yr adroddiad ‘Sefyllfa Byd Natur yn 2013 ac eto yn 2016. Mae’r pennawd cyffredinol i Gymru yn llwm gan fod un o bob 14 rhywogaeth ar y trywydd i ddiflannu.

Trafododd adroddiad 2016 nifer o rywogaethau tir a gosododd Gymru yn y pumed isaf o’r 218 o wledydd a ddadansoddwyd, gan nodi bod ‘ecosystemau o bosib wedi cwympo’n is na’r pwynt lle gellir dibynnu arnyn nhw i ateb anghenion cymdeithas’.

Dangosir tueddiadau yn nifer a dosbarthiad rhywogaethau penodol isod. Mae’r gwerthoedd yn dangos canran y rhywogaethau a aseswyd sydd wedi cynyddu, gostwng neu nad ydynt wedi dangos llawer o newid. Er enghraifft, o’r 30 o rywogaethau o löynnod byw a aseswyd, mae 50% wedi dangos cynnydd cryf neu gymedrol rhwng 2002 a 2013.

Ffigur 3: Canran y rhywogaethau ym mhob categori tuedd dros y tymor hir a’r tymor byr. Mae’r gwerthoedd mewn cromfachau’n dangos nifer y rhywogaethau a aseswyd.
Ffynhonnell: Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016 Cymru

Newid hinsawdd

Mae’n debygol y bydd cynnydd parhaus yn nhymheredd y byd yn cael effeithiau dwys ar system hinsawdd y Ddaear. Yn unol â thymheredd y byd, mae tymheredd cymedrig blynyddol Cymru wedi parhau i gynyddu ers 1999:

Ffigur 4: Tymheredd cymedrig blynyddol Cymru. Llinell dueddiadau linol yn dangos tymheredd cymedrig cynyddol. Yn seiliedig ar ddata’r Swyddfa Dywydd.

Roedd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Trydydd Cynulliad wedi mynd ati i graffu ar Lywodraeth Cymru (ar y pryd) ar ei chynnydd o ran cyfrannu at dargedau lleihau carbon y DU.  Lluniodd gyfres o chwe adroddiad ar leihau carbon (2007-2010) a oedd yn cyfrannu at strategaeth y Llywodraeth i leihau carbon, gan nodi targedau i leihau nwyon tŷ gwydr 3 y cant o flwyddyn i flwyddyn, ac o leiaf ostyngiad o 40 y cant erbyn 2020.

Mae lleihau carbon yn parhau i fod yn uchel ar agenda’r Cynulliad, gyda’r Pwyllgor NHAMG yn parhau i graffu ar Lywodraeth Cymru ar ei chynnydd tuag at dargedau, gan drafod y mater yn ei adroddiad newid hinsawdd blynyddol cyntaf erioed., a chynnal dadl yn y Cyfarfod Llawn.

Ym mis Mehefin 2018, cyhoeddodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ei Adroddiad Cynnydd 2018 i Senedd y DU. Dangosodd fod cyfanswm yr allyriadau yng Nghymru wedi cynyddu 5% yn 2016, ar ôl i gyfanswm yr allyriadau leihau yn 2014 a 2015. Mae allyriadau yng Nghymru wedi lleihau 14% ers 1990. Mae cynnydd yng Nghymru wedi bod yn arafach nag yn y DU drwyddi draw, yn rhannol oherwydd bod gan Gymru gyfran fwy o lawer o allyriadau diwydiannol.

Gosododd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ddyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr 80% erbyn 2050, ac mae rheoliadau cysylltiedig yn pennu’r trywydd a’r dull o gyflawni’r newid carbon isel hwn. Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel – gan nodi cynllun traws-lywodraethol a thraws-sector ar gyfer gostwng allyriadau.

Ar 29 Ebrill 2019 datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yng Nghymru, gan obeithio y byddai hyn yn “sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol”.  Mae’r Llywodraeth wedi derbyn cyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynghylch yr opsiynau sydd gan Gymru o ran gosod targedau sero net ar gyfer allyriadau carbon a nwyon tŷ gwydr eraill yn y dyfodol.

Mae Cymru yn parhau i fod yn un o’r ardaloedd gwaethaf o ran ansawdd aer yn y DU – mae llygredd aer yn cyfrannu at oddeutu 2,000 o farwolaethau’r flwyddyn. Gall gweithredu ar newid hinsawdd helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn.

Ynni

Mae ynni wrth wraidd yr her newid hinsawdd. Craffwyd ar bolisi ynni gan Bwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd y Pedwerydd Cynulliad yn 2012 a 2016, gan argymell bod yn rhaid i Gymru ‘bennu gweledigaeth glir ar gyfer ei pholisi ynni yn y dyfodol’.

Yn 2016, roedd y sector pŵer yn gyfrifol am 34% o gyfanswm allyriadau Cymru. Yn ôl yr adroddiad, Cynhyrchu ynni yng Nghymru 2017, daeth 78% o’r trydan a gynhyrchwyd yng Nghymru o safleoedd tanwydd ffosil yn 2017, gyda’r 22% sy’n weddill wedi’i gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. 

Mae cynhyrchiant trydan adnewyddadwy yn cynyddu tuag at darged ynni adnewyddadwy Llywodraeth Cymru, sef 70% erbyn 2030,:

Ffigur 5: Twf yng nghanran y defnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru.
Ffynhonnell y data: Llywodraeth Cymru, Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017
Ffigur 6: Twf yng nghanran y trydan o ffynonellau adnewyddadwy yng Nghymru.
Ffynhonnell: Llywodraeth Cymru, Cynhyrchu Ynni yng Nghymru 2017

Gwastraff

Ers 1999, mae cyfradd ailgylchu Cymru wedi codi o lefel ychydig yn is na 5% i 64% yn 2017 – y drydedd orau yn y byd a’r ail orau yn Ewrop.

Yn 2011, cyflwynodd Cymru ofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro. Hi oedd y wlad gyntaf yn y DU i wneud hynny. Cychwynnwyd hyn drwy ddeiseb i Bwyllgor Deisebau’r Cynulliad, gyda rhagor o waith yn cael ei ddatblygu gan y Pwyllgor Cynaliadwyedd (ar y pryd).

Yn ystod 2009-10, amcangyfrifir y rhoddwyd 350 miliwn o fagiau siopa i gwsmeriaid gan yr archfarchnadoedd mawr. Rhwng 2011 a 2014, amcangyfrifir y bu 70% o ostyngiad, i 77 miliwn o fagiau siopa untro.

Yn ddiweddarach, bu ffocws ar newid tuag at economi gylchol, lle nad yw cynhyrchion/deunydd pacio byth yn dod yn wastraff, ond yn cyfrannu’n gadarnhaol at yr economi.

Edrych tua’r dyfodol

Mae ein dealltwriaeth o wendidau ein hamgylchedd, effeithiau newid hinsawdd a gweithredoedd pobl i gyd â rhan i’w chwarae wrth ddatblygu deddfwriaeth, polisi ac arfer yn y dyfodol.

Yn benodol, bydd effaith Brexit ar amaethyddiaeth a physgodfeydd, ac ar y strwythurau a’r egwyddorion sy’n diogelu amgylchedd Cymru, yn allweddol yn y blynyddoedd i ddod.

Nid ydym eto wedi gweld pa effaith y bydd Deddf LlCD a Deddf yr Amgylchedd yn ei chael, ond mae’n amlwg bod angen gwaith sylweddol er mwyn atal dirywiad ecosystem, a diogelu bioamrywiaeth Cymru os ydym am gadw ac adfer ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Bydd yr erthygl nesaf, sy’n cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth, yn edrych ar yr economi.


Erthygl gan Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: