Datganoli20 Delweddau Data Economi

Datganoli 20 – Yr economi yng Nghymru: amser i ganolbwyntio ar y sylfeini?

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r chweched mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli. Gwelwyd perfformiad economaidd cymysg yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf. Cafwyd gwelliannau yn y gyfradd gyflogaeth, yn enwedig i fenywod. Fodd bynnag, mae effeithiau cadarnhaol y gwelliannau hyn ar allbwn yr economi yng Nghymru wedi cael eu dileu i raddau helaeth gan ddirywiad cymharol mewn cynhyrchiant.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

07 Mai 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae llawer wedi newid yn yr ugain mlynedd ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 1999. Dyma’r chweched mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio disgrifio elfennau o’r newid hwnnw. Cafodd yr erthygl hon ei llunio gan Ymchwil y Senedd fel rhan o weithgareddau’r Cynulliad i nodi ugain mlynedd o ddatganoli.

Gwelwyd perfformiad economaidd cymysg yng Nghymru dros yr ugain mlynedd diwethaf. Cafwyd gwelliannau yn y gyfradd gyflogaeth, yn enwedig i fenywod. Fodd bynnag, mae effeithiau cadarnhaol y gwelliannau hyn ar allbwn yr economi yng Nghymru wedi cael eu dileu i raddau helaeth gan ddirywiad cymharol mewn cynhyrchiant.

Felly, ar sail Gwerth Ychwanegol Gros, sef y prif ddangosydd, mae safle Cymru yn nhabl cynghrair economaidd y DU wedi bod yn gymharol ddigyfnewid ers 1999. Mae hyn wedi arwain Llywodraeth Cymru i gynnig dull newydd o ymdrin â datblygu economaidd, sy’n canolbwyntio ar yr “economi sylfaenol”. Efallai na fydd llwyddiant y dull hwn yn weladwy ar ddangosyddion lefel uchel traddodiadol – megis Gwerth Ychwanegol Gros – a bydd angen defnyddio dull mwy hyblyg o fesur.

Gwerth Ychwanegol Gros y pen

Mae Gwerth Ychwanegol Gros yn fesur o gyfanswm gwerth y nwyddau a’r gwasanaethau a gynhyrchir mewn ardal. Mae hefyd yn dangos cyfanswm gwerth yr incwm a gynhyrchir mewn ardal (ond ni fydd yr holl incwm hwn o reidrwydd yn cael ei dderbyn gan bobl sy’n byw yng Nghymru). 

Er ei fod yn cael ei gydnabod fel offeryn bras, defnyddir ystadegau Gwerth Ychwanegol Gros i roi trosolwg o berfformiad economaidd ar lefel ranbarthol ac is-ranbarthol, sy’n caniatáu cymharu rhwng gwledydd a rhanbarthau’r DU.  Hefyd, dros yr 20 mlynedd diwethaf, defnyddiwyd amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros fesul pen i lywio dyheadau neu olrhain canlyniadau cyffredinol llywodraethau olynol.

Ym mhob blwyddyn ers 2000, Cymru sydd â’r Gwerth Ychwanegol Gros isaf fesul pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr (12 at ei gilydd). Er bod y Gwerth Ychwanegol Gros fesul pen yng Nghymru wedi cynyddu’n ddiweddar (26.6 y cant rhwng 2009 a 2017, sef y trydydd cynnydd mwyaf o’r 12 o wledydd a rhanbarthau y DU), nid yw hyn wedi bod yn ddigon i newid safle Cymru.

Cyflogaeth

Mae’r bwlch yn y cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU yn sylweddol well ers 1999.  Mae’r gwelliant yn y gyfradd gyflogaeth wedi bod yn arbennig o arwyddocaol i fenywod yng Nghymru, gyda chyfraddau cyflogaeth yn codi o 60.8% ym 1999 i 69.6%t yn 2018. Dros yr un cyfnod, cododd y gyfradd gyflogaeth ar gyfer menywod yn y DU o 64.9% ym 1999 i 70.5% yn 2018.

Mae’r gyfradd gyflogaeth hefyd wedi gwella yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd, ardal sydd ers 2000 wedi elwa ar y lefel uchaf o gymorth ariannol sydd ar gael drwy dair rownd olynol o Gronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd. Yn ôl Llywodraeth Cymru, yn ystod y degawd diwethaf mae prosiectau a ariennir gan yr UE wedi creu 47,000 o swyddi newydd a 13,000 o fusnesau newydd ledled Cymru, yn ogystal â helpu mwy nag 85,000 o bobl i gael gwaith.

Er bod y gwelliant yn y gyfradd gyflogaeth yn gam cadarnhaol, mae heriau’n parhau mewn perthynas â’r farchnad lafur yng Nghymru. Er enghraifft, mae 43,000 o bobl ar gontractau dim oriau ar hyn o bryd yng Nghymru, sy’n cynrychioli 5 y cant o gyfanswm y bobl yn y DU ar y math hwn o gontract.  Mae tlodi mewn gwaith hefyd yn fater parhaus; ar hyn o bryd amcangyfrifir bod 270,000 o oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol er gwaethaf y ffaith eu bod yn byw ar aelwydydd lle mae o leiaf un oedolyn yn gweithio – mae hyn yn gynnydd o 35 y cant yn yr wyth mlynedd diwethaf.

Cynhyrchiant

Mae cynhyrchiant yn ddangosydd economaidd pwysig i’w ystyried gan ei fod yn mesur pa mor effeithiol y mae economi yn defnyddio ei hadnoddau (llafur a chyfalaf).  Defnyddir y Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithir fel mesur o gynhyrchiant. Ar y sail hon, ar hyn o bryd, mae Cymru ar waelod y rhestr o 12 o wledydd a rhanbarthau yn y DU, gyda ffigur Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithiwyd sydd oddeutu 16 y cant yn is na’r gyfartaledd ar gyfer y DU.

Roedd y Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithiwyd ar gyfer Dwyrain Cymru yn 2017 yn 89.2% o’r ffigur ar gyfer y DU, a’r ffigur yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd yn 79.5% o’r gyfartaledd ar gyfer y DU.

Powys oedd â’r Gwerth Ychwanegol Gros fesul awr a weithiwyd isaf o’r 174 o ardaloedd NUTS3 (yr ardal ddaearyddol leiaf sy’n cael ei chynnwys fel rhan o’r ystadegau hyn) yn y DU yn 2017 (65.2% o’r ffigur ar gyfer y DU) a Gwynedd oedd â’r pumed isaf (71.9% o’r ffigur ar gyfer y DU). Sir y Fflint a Wrecsam oedd yr ardal NUTS3 uchaf yng Nghymru (96.4% o gyfartaledd y DU – sef safle 62 allan o’r 174 ardal NUTS3 yn y DU).

Er bod cynhyrchiant yng Nghymru wedi gwella rhywfaint o’i gymharu â’r DU ers 2010, rhwng 1999 a 2017 gostyngodd y Gwerth Ychwanegol Gros fesul pen yng Nghymru o 87.6 y cant i 83.7 y cant o gyfartaledd y DU.  Mewn cymhariaeth, mae rhanbarthau a gwledydd fel Gogledd-ddwyrain Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi gwella eu cynhyrchiant i ryw raddau o’i gymharu â’r DU ers 1999.

Incwm y cartref

Mae Incwm Gwario Gros Aelwydydd (GDHI) yn amcangyfrif o’r arian sydd gan aelwydydd i’w wario neu ei gynilo (mae ‘fesul pen’ yn amcangyfrif o’r gwerthoedd ar gyfer pob person, nid pob aelwyd).  Yn ôl Prif Economegydd Llywodraeth Cymru, incwm aelwydydd sy’n cynrychioli’r mesur unigol gorau o les economaidd.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gan berson cyffredin yng Nghymru yn 2016 £15,835 i’w wario neu ei gynilo (81.5 o gyfartaledd y DU o £19,432). Y ffigur ar gyfer 2016 yng Nghymru (y diweddaraf sydd ar gael) oedd y trydydd isaf o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, sydd ychydig yn uwch na Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain Lloegr.

Ers 1999, mae Cymru wedi gweld y cynnydd canrannol isaf ond dau o ran Incwm Gwario Gros Aelwydydd fesul pen allan o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, sef cynnydd o 58.8 y cant o’i gymharu â chynnydd o 67.4 y cant ar draws y DU. Mae’r gyfradd twf is hon yn golygu bod y ffigur yn gwaethygu o’i gymharu â chyfartaledd y DU ers datganoli, fel y dangosir yn y siart Incwm Gwario Gros Aelwydydd isod.

Yn yr un modd, mae’r siart yn dangos bod yr Incwm Gwario Gros  Aelwydydd fesul pen yn ‘Nwyrain Cymru’ a ‘Gorllewin Cymru a’r Cymoedd’ wedi gostwng o’i gymharu â chyfartaledd y DU er 1999.  Y Cymoedd Canolog yw’r unig ardal NUTS3 yng Nghymru sydd wedi gwella o ran Incwm Gwario Gros Aelwydydd fesul pen o’i gymharu â chyfartaledd y DU dros y cyfnod hwn, gyda chynnydd o 72.8 y cant i 74.7 y cant.

Amser i ganolbwyntio ar y sylfeini?

Mae polisïau datblygu economaidd olynol Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gefnogi casgliad o sectorau allweddol, a’r rheini’n seiliedig ar gymysgedd o arwyddocâd economaidd presennol a/neu potensial o ran twf.

Cyfeiriodd y strategaeth datblygu economaidd Cymru’n Ennill, a gyhoeddwyd yn 2001, at gefnogi sectorau twf allweddol. Ym mis Tachwedd 2005, roedd Cymru: Economi yn Ffynnu yn cynnwys rhestr o ddeg sector allweddol y nodwyd eu bod yn bwysig ar gyfer twf economaidd yn y dyfodol. Yn 2008, tyfodd y rhestr i 14 sector allweddol, cyn i Raglen Adnewyddu’r Economi gyhoeddi ffocws newydd Llywodraeth Cymru ar restr lai o chwe sector economaidd allweddol (Diwydiannau creadigol; Gwybodaeth, Cyfathrebu a Thechnoleg; Ynni a’r Amgylchedd; Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch; Gwyddorau Bywyd;a  Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol).  Cynyddwyd hyn i naw sector, gan ychwanegu Bwyd a Ffermio; Adeiladu, a Thwristiaeth.

Roedd Cynllun Gweithredu ar yr EconomiLlywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017, yn amlinellu ei bwriad i gefnogi pedwar ‘sector sylfaenol’ – twristiaeth, bwyd, manwerthu a gofal. (Cyn hyn, lluniodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad adroddiad ar yr hyn y gallai cynllun newydd Llywodraeth Cymru ei gynnwys – yr economi sylfaenol oedd un o’r meysydd a drafodwyd gan y Pwyllgor). Fodd bynnag, yn fwy diweddar, symudodd maniffesto y Prif Weinidog y pwyslais tuag at ddull ehangach o ‘ddatblygu economaidd sylfaenol’.

Yn ddiweddar, tynnodd Lee Waters AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, sylw at y newid ym meddylfryd Llywodraeth Cymru at ddatblygu economaidd:

“We do have a will to shift this [Welsh economic performance], but 20 years of trying shows us it is not easy. We have thrown the proverbial kitchen sink at the Welsh economy and it hasn’t budged.”

So while making sure we nurture the companies we have got, we also need to cast out in a different direction, to try something different, as our current approach has not produced the results we hoped it would.”

Mae’r economi sylfaenol wedi ei seilio ar y gweithgareddau sy’n darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau hanfodol ar gyfer bywyd bob dydd, ni waeth beth yw statws cymdeithasol defnyddwyr. Mae’r rhain yn cynnwys, er enghraifft, gwasanaethau iechyd, addysg a lles; seilwaith; gwasanaethau cyhoeddus; prosesu bwyd, a manwerthu a dosbarthu.

Ystyrir bod yr economi sylfaenol yn bwysig oherwydd, yn wahanol i sectorau megis gweithgynhyrchu, er enghraifft, lle mae cynhyrchu wedi’i ganoli mewn ardaloedd penodol, mae’r economi sylfaenol yn cael ei rhannu’n genedlaethol ynghyd â’r boblogaeth.  Mae’n cynnwys y diwydiannau a chwmnïau sydd yno am fod pobl yno. Felly ystyrir ei bod yn hanfodol i lawer o bobl yng Nghymru, nid yn unig o ran darparu’r nwyddau a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond hefyd o ran cyflogaeth (mae amcangyfrifon yn awgrymu bod busnesau bach a chanolig sefydledig  a chyflogwyr sylfaenol mawr yn cyfrif am o leiaf 40 y cant o’r gweithlu yng Nghymru ).

Nid yw’r manylion penodol yn glir hyd yn hyn, o ran dull arfaethedig Llywodraeth Cymru o ymdrin â’r maes, ac mae’r Dirprwy Weinidog wedi ei wneud yn glir na fydd Llywodraeth Cymru yn cefnu ar ei hymrwymiad i ddenu cwmnïau mawr i Gymru.

Fodd bynnag,  mae’n ymddangos wrth geisio cefnogi’r economi sylfaenol, y bydd Llywodraeth Cymru yn gobeithio gwella ansawdd swyddi; annog twf a chadw busnesau lleol, sefydledig, a gwella gwytnwch economaidd cymunedau lleol. Nid yw’r rhain yn bethau sy’n cael eu dangos gan ddangosyddion economaidd confensiynol. Er enghraifft, nid yw Gwerth Gros Ychwanegol, fel mesur llwyr o weithgarwch economaidd, yn dweud dim wrthym o ran sut y caiff y gwerth hwn ei ddosbarthu, na pha effaith y mae’n ei chael ar yr amgylchedd.

Mae mesurau eraill o berfformiad economaidd yn bodoli, ond hyd yn hyn nid ydynt wedi’u mabwysiadu’n helaeth gan lywodraethau. Er enghraifft, mae’r Mynegai Lles Economaidd Cynaliadwy yn ceisio cynnwys ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd mewn un mesur trwy gydbwyso allbwn economaidd â phethau fel dosbarthiad incwm a llygredd sy’n deillio o gynhyrchiant. Fel y nodwyd gan eraill, bydd angen i’r dull newydd ar gyfer datblygiad economaidd gynnwys casgliad newydd o ddangosyddion os ydym am ddeall yr effaith ar yr economi yng Nghymru.

Bydd yr erthygl nesaf, i’w gyhoeddi nes ymlaen heddiw, yn cymryd golwg ar hanes y Cynulliad.


Erthygl gan Ben Stokes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru