Brexit: Llinell amser newydd

Cyhoeddwyd 10/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dydd Iau 31 Hydref 2019 yw'r dyddiad cau newydd ar gyfer Brexit. Bydd y DU yn cymryd rhan yn etholiadau'r UE, a bydd trafodaethau trawsbleidiol i geisio canfod ffordd ymlaen yn parhau. Mae'r blog hwn yn egluro'r datblygiadau diweddaraf yn ymwneud â Brexit, a'u goblygiadau i Gymru. O ran gwybodaeth gefndir, gallwch ddarllen ein Hadroddiad Monitro Brexit diweddaraf, a gyhoeddwyd ar 12 Ebrill 2019.

Crynodeb o'r sefyllfa

Cyn gwyliau'r Pasg, cafodd Cytundeb Ymadael Llywodraeth y DU ei wrthod tair gwaith. Yn ogystal, ni lwyddodd cyfres o bleidleisiau dangosol ddatgelu ffordd ymlaen a oedd yn gallu ennyn cefnogaeth mwyafrif yn y Senedd. Yn y cyfamser, ailddatganwyd safbwynt yr UE27 ynghylch y Cytundeb Ymadael, sef nad oes modd ei ailagor. Cafodd y Prif Weinidog estyniad arall i Erthygl 50 gan yr UE. Yna, estynodd y Prif Weinidog allan i Jeremy Corbyn, Arweinydd yr Wrthblaid, a'i wahodd i gynnal trafodaethau trawsbleidiol er mwyn ceisio dod o hyd i gyfaddawd a chanfod ffordd ymlaen. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud y bydd trydydd rownd o bleidleisiau dangosol yn cael eu cynnal yn y Senedd os na fydd y trafodaethau hyn yn arwain at gytundeb.

Dyddiadau a therfynau amser – yr amserlen newydd ar gyfer 2019

Yn sgil yr uchod, mae dyddiadau arwyddocaol newydd a dyddiadau cau posibl wedi'u cynnwys yn y llinell amser ar gyfer Brexit eleni:

23 Mai: etholiad Senedd Ewrop

Ar 23 Mai, bydd y DU yn cynnal etholiad ar gyfer Senedd Ewrop, lle mae gan Gymru bedair sedd. Yr wythnos hon, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai'r etholiad yn cael ei gynnal, gan ddweud nad oedd digon o amser bellach i gymeradwyo'r Cytundeb Ymadael cyn diwrnod yr etholiad. Y disgwyl oedd y byddai'r DU yn ymadael â'r UE cyn yr etholiad, ac felly roedd yr UE wedi gwneud cynlluniau i ailddyrannu'r 73 o seddi sydd gan y DU ymhlith Aelod-wladwriaethau eraill. Mae'r cynlluniau hyn bellach wedi eu gohirio hyd nes bod y DU yn ymadael â'r UE.

2 Gorffennaf: dyddiad cau (posibl)

Bydd Aelodau newydd-etholedig Senedd Ewrop yn cynnal eu sesiwn gyntaf ar 2 Gorffennaf. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau ei bod yn dymuno taro cytundeb cyn hynny, a hynny er mwyn sicrhau nad oes gofyn i Aelodau'r DU o Senedd Ewrop gymryd eu seddi. Cadarnhaodd David Lidington, Gweinidog Swyddfa Cabinet y DU, mai 2 Gorffennaf oedd y dyddiad cau newydd i Lywodraeth y DU o ran ceisio pasio'r Cytundeb Ymadael. Dywedodd hefyd y byddai'r Llywodraeth, wrth gynnal trafodaethau ag Aelodau Seneddol o bob plaid, yn cynyddu ei hymdrechion i sicrhau bod unrhyw gyfnod o oedi yn dilyn yr etholiad mor fyr â phosibl.

31 Hydref: dyddiad cau

Mewn uwchgynhadledd frys a gynhaliwyd ar 10 Ebrill, cytunodd yr UE27 a'r DU ar estyniad hyblyg i Erthygl 50 hyd at 31 Hydref 2019. Cafwyd y cytundeb hwnnw yn dilyn cais am estyniad gan y Prif Weinidog. Os yw'r DU a'r UE yn gallu cadarnhau'r Cytundeb Ymadael cyn y dyddiad hwnnw, bydd y DU yn gadael ar ddiwrnod cyntaf y mis sy'n dilyn y broses o gwblhau'r gweithdrefnau cadarnhau.

Mae'r Prif Weinidog wedi pwysleisio ers hynny ei bod yn gobeithio y bydd y DU yn gadael yr UE ymhell cyn y dyddiad cau newydd ar 31 Hydref. Er mwyn gwneud hynny, bydd Llywodraeth y DU yn gofyn i'r Senedd gymeradwyo'r Cytundeb Ymadael. Fel arall, bydd yn gadael yr UE heb gytundeb. Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd paratoadau ar gyfer gadael yr UE heb gytundeb yn parhau, yn groes i adroddiadau sy'n honni na fydd hyn yn digwydd. Yng Nghymru, rhybuddiodd y Prif Weinidog yn ddiweddar fod yr estyniad, o bosibl, yn cynrychioli'r gwaethaf o'r ddau fyd, gan ei fod wedi tawelu unrhyw ymdeimlad o frys ond heb ganiatáu digon o amser i daro cytundeb a fyddai'n sicrhau cefnogaeth mwyafrif yn Nhŷ'r Cyffredin.

Bil Gweithredu'r Cytundeb Ymadael

Bydd angen deddfwriaeth ar Lywodraeth y DU i weithredu unrhyw gytundeb. Cyfeirir at y ddeddfwriaeth hon fel Bil Gweithredu'r Cytundeb Ymadael (WAIB). Ni wyddom pa bryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno'r Bil. Wrth ymddangos gerbron Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar 11 Hydref 2018, cadarnhaodd Robin Walker AS, Is-ysgrifennydd Seneddol yr Adran Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, y byddai Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig ar gyfer y ddeddfwriaeth:

We also recognise that there are areas of the withdrawal agreement Bill, particularly within the citizens’ rights arrangement and the functioning of the implementation period, where it will intersect with devolved competence. And, therefore, in those areas, we recognise our responsibilities under the Sewel convention…and we will, therefore, want to work very closely with the devolved administrations and, indeed, legislatures, to reflect that.

Pan ofynnwyd iddo a fyddai Llywodraeth y DU mewn sefyllfa i rannu cymalau drafft gyda'r sefydliadau datganoledig er mwyn sicrhau bod digon o amser i graffu ar y ddeddfwriaeth, cadarnhaodd y byddai hynny'n heriol. Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn ddiweddar ei fod wedi darparu gwelliannau drafft i Lywodraeth y DU i'w hystyried.

Er gwaethaf yr oedi tan 31 Hydref, bydd cyfnod pontio'r DU (y cyfnod rhwng taro cytundeb a'r dyddiad pan fydd y trefniadau ar gyfer y berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol yn dod i rym) yn dod i ben ym mis Rhagfyr 2020. Golyga hyn y bydd llai o amser i'r DU a'r UE drafod a chytuno ar y berthynas newydd rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys materion masnach.

Yn ystod y cyfnod pontio, bydd Cymru yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r UE. Fodd bynnag, mae'r Cytundeb Ymadael yn darparu na fydd y DU yn rhan o broses yr UE ar gyfer gwneud penderfyniadau ystod y cyfnod pontio. Golyga hyn na fydd y DU yn cael ei chynrychioli mewn sefydliadau, asiantaethau a chyrff yr UE ar ôl y diwrnod ymadael. Bydd gwaith yn parhau ar Fframweithiau Cyffredin ledled y DU a fydd yn disodli trefniadau presennol yr UE. Gallwch ddarllen ein blogiau blaenorol ar oblygiadau'r Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol i Gymru.

Bydd ein blog nesaf ar Brexit yn ymwneud â'r etholiad Ewropeaidd, a bydd ar gael ar 15 Mai.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru