Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG

Y Cynulliad i drafod adroddiad blynyddol y Brif Swyddog Meddygol: ‘Gwerthfawrogi ein hiechyd’

Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei drydydd adroddiad blynyddol, Gwerthfawrogi ein hiechyd: adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2018-2019 (PDF, 2MB), ar 7 Mai 2019. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth 14 Mai 2019.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

10 Mai 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Cyhoeddodd Prif Swyddog Meddygol Cymru ei drydydd adroddiad blynyddol, Gwerthfawrogi ein hiechyd: adroddiad blynyddol Prif Swyddog Meddygol Cymru 2018-2019 (PDF, 2MB), ar 7 Mai 2019. Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth 14 Mai 2019.

Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar bedwar maes: cyflwr ein hiechyd; gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth; gwerthfawrogi ymchwil; a chydweithio i ddiogelu’r cyhoedd rhag bygythiadau i iechyd.

Cyflwr ein hiechyd

Mae pennod gyntaf yr adroddiad blynyddol yn cyflwyno gwybodaeth am iechyd poblogaeth Cymru.  Mae’n nodi rhai o’r heriau iechyd allweddol i Gymru, gan gynnwys:

Disgwyliad oes

  • Ers 2010, mae’r cynnydd mewn disgwyliad oes wedi arafu yn y DU, ynghyd ag mewn nifer o wledydd eraill.
  • Mae gwahaniaeth sylweddol o hyd o ran disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig yng Nghymru; tua wyth mlynedd yw’r bwlch mewn disgwyliad oes a thua 18 mlynedd yw’r bwlch mewn disgwyliad oes iach.

Gordewdra

  • Mae lefelau gordewdra yn parhau i beri pryder, yn enwedig mewn perthynas â phlant, ac mae lefelau gweithgaredd corfforol a deiet yn cyfrannu at hyn.

Pobl hŷn

  • Mae gan Gymru gyfran uwch o bobl hŷn na gweddill y DU, ac felly mae ganddi nifer uwch o bobl sy’n dioddef o gyflyrau cronig ac eiddilwch. Gyda mwy o bobl yn byw’n hirach, bydd nifer yr achosion o ddementia yn parhau i godi.

Ysmygu

  • Y defnydd o dybaco yw’r prif achos unigol o farwolaeth gynamserol yng Nghymru o hyd ac mae’n cyfrannu’n sylweddol at anghydraddoldebau iechyd. Er bod marwolaethau y gellir eu priodoli i ysmygu wedi gostwng yng Nghymru, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod ysmygu yn parhau i fod yn gyfrifol am dros 5,000 o farwolaethau bob blwyddyn.

Ceir gwybodaeth yn y bennod hon am y camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r materion a welir.

Gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth

Mae pennod 2 yr adroddiad yn edrych ar ofal iechyd darbodus.  Cyfeirir at sut y bydd gwasanaethau iechyd yn ymdopi yn y dyfodol wrth i’r boblogaeth heneiddio fwyfwy, gydag anghenion iechyd a gofal mwy cymhleth. Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn datgan:

Ni allwn barhau i wneud pethau yn yr un ffordd, gan wario arian yn yr un ffordd a gobeithio am ganlyniadau gwahanol. Mae’n rhaid i’r system ganolbwyntio ar gyflawni’r canlyniadau gorau posibl i bobl, o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Mae’r adroddiad yn nodi egwyddorion gofal iechyd darbodus:

  • I’r cyhoedd a gweithwyr proffesiynol gael eu hystyried yn bartneriaid cyfartal drwy gyd-gynhyrchu a gwneud penderfyniadau gyda’i gilydd.
  • Blaenoriaethu’r rhai sydd â’r angen mwyaf.
  • Ceisio cyflawni nodau iechyd pobl yn y ffordd leiaf ymyrrol bosibl er mwyn gwella canlyniadau a lleihau niwed.
  • Defnyddio tystiolaeth i leihau amrywiad diangen mewn gofal ar draws Cymru i sicrhau tegwch, canlyniadau gwell a lleihau gwastraff.

Mae’r adroddiad yn trafod pob un o’r egwyddorion yn ei dro, ynghyd â rhai astudiaethau achos.  Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn credu bod yna ymwybyddiaeth broffesiynol sylweddol o ofal iechyd darbodus, ond y gallai fod rhwystrau o ran gweithredu hyn mewn ffordd gyson.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn gwneud 12 o argymhellion mewn perthynas â gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth.

Gwerthfawrogi ymchwil

Mae pennod 3 yr adroddiad blynyddol yn ymdrin ag ymchwil ac arloesi.  Mae’r Prif Swyddog Meddygol o’r farn bod ymchwil yn ‘ hollbwysig i economi Cymru; i effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd gwasanaethau iechyd; ac i gynaliadwyedd ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG)’.

Mae’r adroddiad yn nodi bod Llywodraeth Cymru, drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn ariannu seilwaith ymchwil sy’n cynnwys pum canolfan ymchwil, tair uned ymchwil, tair uned treialon clinigol, a thri grŵp cymorth. Mae’r canolfannau a’r unedau’n cwmpasu amrywiaeth eang o waith ymchwil, gan gynnwys iechyd meddwl, gofal sylfaenol a gofal heb ei drefnu, iechyd a llesiant y boblogaeth, canser, heneiddio a dementia.

Doeth am Iechyd Cymru yw prosiect cenedlaethol Cymru i ddeall a gwella iechyd a gofal y genedl yn well. Ei nod yw casglu data manwl am iechyd a ffyrdd o fyw gan gynifer o bobl yng Nghymru â phosibl i ddylanwadu ar driniaethau newydd, polisi iechyd a gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol ymhell i’r dyfodol. Mae mwy na 25,000 o bobl ledled Cymru eisoes wedi cofrestru.

Ar ddechrau’r adroddiad, mae’r Prif Swyddog Meddygol yn cyfeirio at ordewdra ymhlith plant, ac yn y bennod hon, mae gwybodaeth yn cael ei chyflwyno am sut mae Cymru’n cymryd camau arloesol i fynd i’r afael â hyn dros y 70 mlynedd nesaf drwy waith ymchwil, gan ddefnyddio data iechyd a gweithgarwch o ysgolion cynradd ac uwchradd, a threialon sy’n ceisio hybu gweithgaredd drwy roi mwy o ddewis i bobl ifanc.

Hefyd, yn y bennod hon, ceir gwybodaeth fanwl ei chyflwyno am rôl Cymru yn y chwyldro genomeg a chyflwynir nifer o astudiaethau achos drwy gydol y bennod.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn gwneud tri argymhelliad mewn perthynas â gwerth ymchwil.

Diogelu iechyd y cyhoedd

Mae pennod olaf yr adroddiad yn ystyried rhai o’r heriau sy’n ymwneud â diogelu iechyd:

Bygythiadau yn sgil ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd

Dywedir bod rhywfaint o gynnydd wedi’i wneud mewn perthynas ag ymwrthedd i gyffuriau gwrthficrobaidd, ond mae’r Prif Swyddog Meddygol yn nodi bod angen gwneud mwy o waith gyda phractisau meddygon teulu i sicrhau defnydd priodol o gyffuriau gwrthficrobaidd.

Bygythiadau yn sgil clefydau y gellir eu hatal drwy frechlynnau

Bob blwyddyn, mae cynnydd wedi bod yn nifer yr unigolion sy’n cael eu brechu rhag y ffliw ac mae’r rhaglen frechu wedi cael ei hehangu mewn ysgolion ac i staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal preswyl i oedolion a chartrefi nyrsio.

Mae’r DU unwaith eto wedi cadw ei statws o ddileu’r frech goch yn effeithiol. Mae adroddiad blynyddol 2017-18 am nifer y plant yng Nghymru a gafodd ei brechu yn dangos mai llai na 95 y cant o blant dwy oed a gafodd y dos cyntaf o frechlyn MMR o hyd, ac mai llai na 90 y cant o blant pump oed a gafodd ddau ddos o frechlyn MMR. Mae’r adroddiad yn nodi bod nifer fawr o achosion o’r frech goch mewn llawer o wledydd yn Ewrop ar hyn o bryd, a chafodd achosion o’r frech goch eu mewnforio i Gymru o’r gwledydd hyn yn 2017-18. Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn credu y gall Cymru ddisgwyl i’r achosion achlysurol hyn barhau tra bod cynifer o blant yng Nghymru heb eu diogelu.

Bygythiadau yn sgil clefydau trosglwyddadwy y gellir eu trin

Dywedir bod y GIG yng Nghymru wedi gwneud dechrau da o ran dileu hepatitis B ac C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd, ond mae’r Prif Swyddog Meddygol yn credu bod heriau i’w goresgyn os yw am lwyddo. Rhaid i’r gwaith o brofi a thrin yn y gymuned ddod yn realiti er mwyn cyflawni’r ymrwymiad.

Mae’r adroddiad yn nodi bod heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn parhau i godi. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn naw argymhelliad allweddol a wnaed mewn adolygiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae’r rhain yn cael eu datblygu o dan oruchwyliaeth Bwrdd y Rhaglen Iechyd Rhywiol.

Bygythiadau yn sgil ein hamgylchedd

Mae dod i gysylltiad â pheryglon amgylcheddol ledled Cymru yn parhau i beri risg i iechyd unigolion a chymunedau. Halogiad cemegol o’r aer, dŵr a thir sy’n peri’r pryder mwyaf o ran iechyd y cyhoedd.

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn gwneud pum argymhelliad yn ymwneud â diogelu iechyd y cyhoedd.


Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru