Brexit Cymru

Amser pleidleisio: Cymru ac etholiadau Ewrop

Ar 23 Mai, bydd pobl Cymru yn pleidleisio i ethol pedwar Aelod o Senedd Ewrop (ASEau). Oherwydd y penderfyniad i ohirio Brexit, bydd y DU yn aelod o'r UE tan 31 Hydref 2019 oni chytunir ar gytundeb i adael cyn hynny. Ar 7 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth y DU nad oedd digon o amser i basio deddfwriaeth ar gyfer cytundeb cyn 23 Mai ac, felly, byddai'n rhaid i'r DU gymryd rhan yn yr etholiadau. Cyhoeddwyd erthygl yr wythnos diwethaf yn egluro’r datblygiadau diweddaraf o ran Brexit a'r llinell amser.

Amcangyfrif o amser darllen: 4 Munud

15 Mai 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 23 Mai, bydd pobl Cymru yn pleidleisio i ethol pedwar Aelod o Senedd Ewrop (ASEau). Oherwydd y penderfyniad i ohirio Brexit, bydd y DU yn aelod o’r UE tan 31 Hydref 2019 oni chytunir ar gytundeb i adael cyn hynny. Ar 7 Mai, cadarnhaodd Llywodraeth y DU nad oedd digon o amser i basio deddfwriaeth ar gyfer cytundeb cyn 23 Mai ac, felly, byddai’n rhaid i’r DU gymryd rhan yn yr etholiadau. Cyhoeddwyd erthygl yr wythnos diwethaf yn egluro’r datblygiadau diweddaraf o ran Brexit a’r llinell amser.

Rhwng 23-26 Mai, bydd pob un o Aelod-wladwriaethau’r UE yn cynnal etholiadau, a bydd gan bron 374 miliwn o bobl hawl i bleidleisio ynddynt. Senedd Ewrop yw’r unig gorff yn yr UE sy’n cael ei ethol yn uniongyrchol ac mae’n cynnal etholiadau bob pum mlynedd. Bydd 751 ASE o bob cwr o’r UE yn gwneud cyfreithiau ynghyd â’r 28 o lywodraethau’r UE. Caiff y seddau yn y Senedd eu trefnu ar sail grwpiau gwleidyddol a chânt eu dyrannu ar sail poblogaeth pob Aelod-wladwriaeth. Er enghraifft, mae’r DU wedi’i rhannu’n 12 rhanbarth etholiadol ac mae ganddi 73 o seddau. Pedair sydd gan Gymru.

Mae’n bosibl na fydd yr ASEau o’r DU a gaiff eu hethol ar 23 Mai yn cymryd eu seddau os bydd cytundeb cyn 2 Gorffennaf pan fydd y Senedd Ewropeaidd newydd yn eistedd am y tro cyntaf. Os bydd hyn yn digwydd, mae Senedd yr UE wedi cadarnhau y bydd yn cynnal ‘sesiwn eithriadol’ i gadarnhau’r cytundeb. Byddai’n rhaid adalw’r Senedd yn ei chyfansoddiad presennol, sy’n golygu y byddai’n rhaid i’r ASEau na chaiff eu hailethol, neu sy’n ymddeol, ddychwelyd o leiaf unwaith eto.  

Pa system bleidleisio a ddefnyddir?

Mae pob Aelod-wladwriaeth yn ethol ei ASEau gan ddefnyddio rhyw fath o gynrychiolaeth gyfrannol. Mae’r rhanfwyaf y DU yn defnyddio’r system D’Hondt (heblaw am Gogledd Iwerddon sy’n defnyddio’r system Pleidlais Drosglwyddadwy Sengl), sy’n tarddu o’r 1880au ac a enwyd ar ôl Victor d’Hondt, y mathemategydd o Wlad Belg  (PDF, 678kb). Defnyddir y system hon i ethol cadeiryddion pwyllgorau Senedd Ewrop a dirprwyaethau a chaiff ei defnyddio hefyd i ethol Cynulliad Llundain. Drwy system D’Hondt, bydd y pleidiau’n paratoi rhestr o ymgeiswyr nad yw’n cynnwys dim mwy o enwau na nifer y seddau sydd ar gael (felly pedwar ar gyfer pob rhestr yng Nghymru). Mae’r modd y caiff y seddau eu dosrannu drwy system d’Hondt yn sicrhau bod cyfran y seddau yn cyfateb i gyfran y pleidleisiau a enillir. Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill 25% o’r bleidlais, bydd yn cael tua 25% o’r seddi sydd ar gael. Felly mae’n haws i bleidiau bach a chanolig ennill seddi.

Pa bleidiau sy’n sefyll?

Mae wyth plaid yn ymgeisio i ennill y pedair sedd yng Nghymru, sef Llafur Cymru, y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, UKIP, y Blaid Werdd, Plaid Brexit a Change UK. Bydd y pleidiau’n alinio â’u grŵp gwleidyddol agosaf yn Senedd Ewrop. Y ddau grŵp mwyaf yw Plaid Ewropeaidd y Bobl (EPP), sy’n cynnwys pleidiau ceidwadol a rhyddfrydol-geidwadol a Chynghrair Flaengar y Sosialwyr a’r Democratiaid (S&D), sy’n cynnwys pleidiau i’r chwith o’r canol a phleidiau democrataidd-gymdeithasol.  Cyn yr etholiadau, bydd Senedd Ewrop yn cynhyrchu amcanestyniad o ddosraniad y seddi. Ar sail croestoriad o bolau piniwn cenedlaethol ym mhob Aelod-wladwriaeth, dyma’r amcanestyniad diweddaraf:

Pryd fyddwn ni’n cael y canlyniadau?

Bydd y rhan fwyaf o wladwriaethau’r UE yn cynnal eu hetholiadau ddydd Sul 26 Mai. Ni waeth pa bryd y cynhelir yr etholiadau rhwng 23-26 Mai, caiff canlyniadau pob Aelod-wladwriaeth eu cyhoeddi yn ystod oriau mân bore dydd Llun 27 Mai, a hynny rhag i ganlyniadau’r gwladwriaethau sy’n pleidleisio gyntaf ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn mannau eraill.  Mae’r tabl hwn yn dangos sut y pleidleisiodd pobl y DU yn etholiadau diwethaf Senedd Ewrop  yn 2014 (gan gynnwys  dadansoddiad o ganlyniadau Cymru). 

Y goblygiadau i Gymru

Yn ogystal â’r pedwar ASE, caiff Cymru ei chynrychioli yn sefydliadau a rhwydweithiau eraill yr UE, gan gynnwys Pwyllgor Economaidd a Chymdeithasol Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau (darllenwch ein herthygl flaenorol yma). Rydym hefyd yn ymwneud cryn dipyn â gwaith Llys Archwilwyr Ewrop (yng nghyd-destun cyllid / ariannu’r UE) a Banc Buddsoddi Ewrop (yng nghyd-destun hybu buddsoddiadau yng Nghymru). Ar ôl y diwrnod ymadael, bydd y DU yn peidio â bod yn aelod o sefydliadau’r UE. Yn ystod y cyfnod pontio, bydd cyfreithiau’r UE yn parhau i fod yn weithredol yng Nghymru ond ni fydd gan y DU lais ym mhenderfyniadau’r UE.

Bydd presenoldeb ASEau o’r DU yn effeithio ar y broses o ffurfio grwpiau gwleidyddol yn y Senedd, a’u cyllid, gan gynnwys ethol Llywydd Senedd Ewrop. Os bydd gan y DU ASEau dros yr haf, gallai hynny hefyd ddylanwadu ar y broses o ddethol Llywydd nesaf y Comisiwn Ewropeaidd. Ar ben hynny,  soniodd y Prif Weinidog yn ddiweddar am y posibilrwydd o ymestyn cyfnod pontio Brexit y tu hwnt i fis Rhagfyr 2020. Os bydd hyn yn digwydd, bydd ASEau’r DU yn eistedd gryn dipyn yn hwy na’r disgwyl.

Yn dod yn fuan: Ein herthygl ar ganlyniadau’r etholiad a’r hyn y maent yn ei olygu i Gymru.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru