Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a diddyfnu

Cyhoeddwyd 20/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Mawrth 2019, cyhoeddodd Pwyllgor Deisebau'r Cynulliad ei adroddiad 'Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu – adnabyddiaeth a chefnogaeth (PDF, 476KB), a bydd y Cynulliad yn ei drafod ddydd Mercher 22 Mai 2019.

Casglodd y ddeiseb 213 o lofnodion. Dywed:

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i adnabod yn briodol a chefnogi’n effeithiol yr unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a niweidir gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a’r adwaith wrth ddiddyfnu oddi wrthynt.

Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn

Mae nifer o ddosbarthiadau o feddyginiaethau sydd ar gael drwy bresgripsiwn yn unig sy’n gysylltiedig â dibyniaeth a chamddefnydd. Mae’r ddeiseb yn mynegi pryder penodol am gyffuriau gwrth-iselder, megis atalwyr adfewnlifiad serotonin detholus (SSRIs) ac atalwyr serotonin a norepinephrine (SNRIs), a’u cysylltiad â phroblemau dibyniaeth a diddyfnu

Un o brif themâu'r ddeiseb yw'r alwad am i'r problemau sy'n gysylltiedig â dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn gael mwy o gydnabyddiaeth, yn enwedig ymhlith llunwyr polisi a gweithwyr iechyd proffesiynol, yn benodol:

  • cydnabod y broblem o ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn, ei graddfa a’i heffaith ar y bobl dan sylw; a
  • chydnabyddiaeth, neu gytundeb, o’r mathau penodol o feddyginiaethau a all achosi problemau o ran dibyniaeth a diddyfnu.

Mae dibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn a meddyginiaethau tros-y-cownter, a chamddefnydd ohonynt, wedi cael mwy o sylw fel problem iechyd cyhoeddus dros y blynyddoedd diwethaf. Canfu’r Pwyllgor fod dibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn, ynghyd â'r niwed a’r effeithiau andwyol posibl ar unigolion, yn cael eu cydnabod ar draws yr holl dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd a chyrff proffesiynol.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid rhoi mwy o gydnabyddiaeth i ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ar lefel genedlaethol ym meysydd polisi a strategaeth. Dylai hyn gynnwys gwahaniaethu’n gliriach rhwng camddefnyddio sylweddau a dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn, a nodi camau penodol i helpu atal dibyniaeth ar feddyginiaethau presgripsiwn a chefnogi’r rhai sy’n cael eu heffeithio.

Gwrthiselyddion

Mae’r deisebydd yn galw am gydnabyddiaeth ffurfiol o botensial cyffuriau gwrth-iselder i arwain at ddibyniaeth ar lefel cyfwerth â meddyginiaethau eraill sydd ar gael ar bresgripsiwn yn unig ac sy’n cael eu cydnabod fel rhai sy’n gysylltiedig â dibyniaeth.

Fodd bynnag, nid oes unfrydedd ar y mater hwn, a chafwyd safbwyntiau gwahanol gan fyrddau iechyd, gyda rhai yn cyfeirio at "effeithiau ataliad" yn hytrach nag effeithiau diddyfnu. Ysgrifennodd nifer o weithwyr meddygol proffesiynol at y Pwyllgor i gefnogi’r ddeiseb ac i alw yn benodol am fwy o gamau gweithredu mewn perthynas â chyffuriau gwrth-iselder.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn cyfeirio at adolygiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar sy'n ymdrin ag effeithiau diddyfnu sy'n gysylltiedig â gwrthiselyddion, ond mae'r casgliadau wedi cael eu herio.

Gwneir argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gadarnhau ac egluro ei sefyllfa ynghylch a ddylai cyffuriau gwrth-iselder SSRI a SNRI gael eu cydnabod yn ffurfiol fel triniaethau a allai arwain at broblemau o ran dibyniaeth a diddyfnu.

Canllawiau

Cynhyrchwyd nifer o ganllawiau ar gyfer rhagnodi meddyginiaeth, ond mae’r deisebydd wedi cwestiynu sail a digonolrwydd y canllawiau cyfredol sy’n gysylltiedig â gwrth-iselder, megis y rhaid a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Ar adeg cyhoeddi'r adroddiad, roedd canllawiau NICE ar gyfer trin a rheoli iselder yn cael eu hadolygu; disgwylir fersiwn newydd ym mis Rhagfyr 2019.

Mae’r deisebydd wedi galw yn benodol am i gyffuriau gwrth-iselder SSRI a SNRI gael eu hychwanegu at y rhestr o gyffuriau sy’n cael eu targedu ar gyfer lleihau nifer yr achosion o ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Ymrwymodd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymchwilio i'r angen am ganllawiau pellach, ac i gwmpas y canllawiau hynny, ac a fyddai dangosydd rhagnodi cenedlaethol yn gallu cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau clinigol mewn perthynas â defnyddio cyffuriau gwrth-iselder.

Gwnaeth y Pwyllgor rai argymhellion yn y maes hwn, yn cynnwys:

  • ailddatgan a phwysleisio na ddylid rhagnodi cyffuriau gwrth-iselder fel mater o arfer ar gyfer iselder ysgafn mewn canllawiau i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, a dylai roi sicrwydd bod digon o ddewisiadau eraill o driniaethau, megis therapïau seicolegol, ar gael ledled Cymru;
  • canllawiau ychwanegol mewn perthynas â lleihau meddyginiaethau presgripsiwn yn raddol mewn modd diogel; ac
  • a ddylid ychwanegu cyffuriau gwrth-iselder SSRI a SNRI at y rhestr o gyffuriau a dargedir ar gyfer lleihau eu defnydd, ac a dylid cyflwyno dangosydd rhagnodi cenedlaethol.

Gwasanaethau

Mae elfen ganolog o’r ddeiseb yn ymwneud â diffyg cefnogaeth canfyddedig sydd ar gael i bobl sy’n defnyddio meddyginiaethau presgripsiwn neu sy’n ceisio diddyfnu eu hunain oddi wrthynt.

Clywodd y Pwyllgor am y gwasanaethau cymorth sydd ar gael gan fyrddau iechyd ar hyn o bryd, ond un o brif ddadleuon y rhai sy’n cefnogi’r ddeiseb yw nad yw’r mwyafrif o’r gwasanaethau cymorth a chyngor presennol yn ymdrin â chyffuriau presgripsiwn yn benodol; yn hytrach, maent yn canolbwyntio yn bennaf ar gamddefnyddio sylweddau.

Mae’r deisebydd ac eraill wedi galw am i wasanaethau a luniwyd ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn arbennig gael eu cyflwyno a bod ar gael ledled Cymru.

Dywedwyd wrth y Pwyllgor am Wasanaeth Cymorth Meddyginiaeth ar Bresgripsiwn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy'n cynnwys therapyddion meddyginiaethau presgripsiwn (nyrsys a chynghorwyr) mewn meddygfeydd sy’n gweithio’n rhagweithiol gyda fferyllwyr a meddygon teulu i adnabod a chysylltu â grwpiau penodol o gleientiaid a allai elwa ar gael cyngor.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i’r posibilrwydd o gyflwyno gwasanaeth yn genedlaethol megis yr un y cyfeirir ato uchod, ac mae hefyd yn argymell y dylid creu cyfleoedd ar gyfer strategaeth gydlynol a rhannu mwy o wybodaeth rhwng byrddau iechyd mewn perthynas â dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn.

Tynnwyd sylw'r Pwyllgor at yr angen am i wasanaethau cymorth gynnwys gwahanol grwpiau proffesiynol, gan gynnwys fferyllwyr, meddygon teulu a thimau iechyd meddwl cymunedol, ac mae a wnelo un argymhelliad yn benodol â fferyllwyr.

Mae gan Lywodraeth Cymru linell gymorth cyffuriau ac alcohol genedlaethol, DAN 24/7, ac mae gwefan lleihau niwed newydd yng Nghymru i gael ei lansio. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gynnal a chyhoeddi asesiad o ddigonolrwydd y cyngor sydd ar gael drwy linell cymorth DAN24/7 i bobl sy'n ddibynnol ar gyffuriau presgripsiwn ac yn profi symptomau diddyfnu, gan gynnwys digonolrwydd yr hyfforddiant i weithredwyr. Argymhellir hefyd y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyngor sydd ar gael ynghylch dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn cael ei hybu’n briodol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae ymateb (PDF, 612KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn derbyn naw o'r 10 argymhelliad (derbynnir argymhelliad 7 mewn egwyddor). Gwrthodwyd argymhelliad 6, ac mae'r ymateb yn egluro'r rhesymau dros y penderfyniad hwn.


Erthygl gan Rebekah James, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru