Y Cwricwlwm drafft i Gymru 2022

Cyhoeddwyd 22/05/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Cwricwlwm drafft i Gymru 2022 ar 30 Ebrill 2019 ac mae am gael adborth arno tan ddydd Gwener 19 Gorffennaf 2019. Mae diwygio’r cwricwlwm yn ‘ganolog’ i Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl Llywodraeth Cymru, sy’n nodi ei chynlluniau ar gyfer diwygio addysg hyd at 2021.

Nod yr erthygl hon yw egluro’r cefndir i ddatblygu’r cwricwlwm newydd, yr egwyddorion trefnu allweddol y mae’n seiliedig arnynt, y ffordd y mae wedi’i strwythuro a beth fydd yn digwydd nesaf.

Pryd fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno?

Yn gyntaf, i fynd i’r afael â’r cwestiwn pwysicaf i randdeiliaid, rhieni, plant a phobl ifanc yw: pryd fydd y newidiadau hyn yn digwydd?

Wedi iddi ystyried yr adborth a ddaw i law, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi’r Cwricwlwm terfynol ar gyfer Cymru ym mis Ionawr 2020. Yn amodol ar hynt y Bil Cwricwlwm ac Asesu yn llwyddiannus drwy’r Cynulliad Cenedlaethol (bu Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Bapur Gwyn yn ddiweddar), bydd y Cwricwlwm 3-16 mlwydd oed newydd ar gyfer Cymru yn cael ei gyflwyno ym mhob ysgol a gaiff ei chynnal ac mewn lleoliadau meithrin a ariennir yn gyhoeddus o fis Medi 2022 yn raddol.

Bydd yn cael ei ddysgu i ddechrau yn yr ysgol gynradd ac ym Mlwyddyn 7 o fis Medi 2022, cyn ei ehangu i Flwyddyn 8 yn 2023/24, Blwyddyn 9 yn 2024/25 ac yn y blaen wrth i’r disgyblion hyn symud ymlaen drwy’r ysgol. Mae hyn yn golygu na fydd carfan Blwyddyn 11 yn astudio’r cwricwlwm newydd (nac yn sefyll arholiadau cysylltiedig) tan 2026/27. Dyma’r garfan Blwyddyn 3 (7-8 mlwydd oed) bresennol.

Dull gweithredu pwrpasol

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio y caiff y Cwricwlwm newydd i Gymru ei weithredu’n bwrpasol yn hytrach na’i ddiffinio yn syml gan ei gynnwys. Felly nid oes ‘rhaglenni astudio’ a bydd llai o ragnodi o ran yr hyn y mae’n rhaid ei ddysgu nag yn y cwricwlwm presennol. Bydd y cwricwlwm newydd yn seiliedig ar ddull tair-ochrog o ran Gwybodaeth, Sgiliau a Phrofiad.

Mae’r cwricwlwm newydd yn ganlyniad y weledigaeth a amlinellwyd gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adolygiad a gyhoeddwyd yn 2015, sef Dyfodol Llwyddiannus (PDF 1.59MB). Dechreuodd gwaith yr Athro Donaldson drwy ofyn y cwestiwn beth ddylai amser person yn yr ysgol ei arfogi ar ei gyfer mewn bywyd yn y dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r pedwar diben cwricwlwm a argymhellwyd ganddo:

  • Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;
  • Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;
  • Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.
  • Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Bydd ‘Dimensiwn Cymreig’ a ‘phersbectif rhyngwladol’ fel ei gilydd, i’r Cwricwlwm i Gymru.

Chwe Maes Dysgu a Phrofiad, tri chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd a phedwar sgil ehangach

Yn hytrach na’i fod wedi’i seilio ar bynciau, bydd y cwricwlwm newydd yn cael ei strwythuro ar sail y chwe Maes Dysgu a Phrofiad (AoLE) a ganlyn:

  • Celfyddydau mynegiannol
  • Iechyd a Lles
  • Dyniaethau
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Bydd tri ‘chyfrifoldeb traws-gwricwlaidd’, a fydd yn cael eu haddysgu o fewn pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad:

  • Llythrennedd
  • Rhifedd
  • Cymhwysedd Digidol

Yn ychwanegol, caiff pedwar ‘sgil ehangach’ eu hymgorffori ar draws y cwricwlwm newydd:

  • Meddwl yn feirniadol a datrys problemau
  • Cynllunio a threfnu
  • Creadigrwydd ac arloesi
  • Effeithiolrwydd personol

Asesu a dilyniant

Bydd y cwricwlwm newydd yn defnyddio asesiad yn bennaf at ddibenion llywio addysgu a dysgu, yn hytrach nag atebolrwydd, y mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio a fydd wedi’i gynnwys mewn ffyrdd eraill, sef drwy’r system categoreiddio ysgolion ac arolygiadau Estyn yn bennaf. Felly, bydd yr asesiad yn ffurfiannol yn bennaf, (ac fe’i defnyddir at ddibenion datblygu disgyblion yn barhaus) yn hytrach na dibenion crynodol (mesur cynnydd disgybl ar ddiwedd cyfnod penodol o amser at ddibenion meincnodi).

Bydd y Cwricwlwm i Gymru newydd yn gymwys i’r oedran o 3 i 16, a bydd yn darparu ar gyfer continwwm dysgu yn hytrach na gwahanu addysg i gyfnodau allweddol fel y mae ar hyn o bryd. Felly, bydd y cwricwlwm newydd yn mesur cynnydd dysgwyr drwy’r ‘Canlyniadau Cyflawniad’ a ddisgwylir ar bum ‘Cam Cynnydd’ yn 5 oed, yn 8 oed, yn 11 oed, yn 14 oed ac yn 16 oed. Mae’r Canlyniadau Cyflawniad hyn wedi’u hysgrifennu ar ffurf ‘Gallaf’, ‘Rwyf wedi’ ac ati.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol drafft ar asesu (PDF 1.09MB), ochr yn ochr â chanllawiau statudol drafft ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad drafft. Mae hyn yn dilyn y Fframwaith Gwerthuso a Gwella drafft, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2019. Bydd Fframwaith Gwerthuso a Gwella terfynol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â fersiwn derfynol y cwricwlwm ym mis Ionawr 2020.

Sut mae’r cwricwlwm newydd wedi’i ddatblygu?

Sefydlodd Llywodraeth Cymru rwydwaith o ‘Ysgolion Arloesi’ (PDF) i arwain y gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm newydd. Roedd hyn yn rhan o ddull a ddewiswyd i rymuso’r proffesiwn addysgu a rhoi rôl ganolog iddo wrth ddylunio’r cwricwlwm newydd, gyda’r nod o arwain at fwy o berchnogaeth ymhlith athrawon.

Mae’r Ysgolion Arloesi wedi gweithio fel rhan o ‘bartneriaeth Cymru gyfan’ sy’n cynnwys awdurdodau lleol, consortia rhanbarthol, Estyn, y sectorau addysg bellach ac uwch, arbenigwyr allanol, cyflogwyr a Llywodraeth Cymru.

Mae ein herthygl flaenorol (23 Ionawr 2019) yn darparu rhagor o wybodaeth gefndir am sut y datblygwyd y cwricwlwm a’r camau a arweiniodd at gyhoeddi’r deunyddiau cwricwlwm drafft ym mis Ebrill.

Beth sydd wedi’i gyhoeddi’n ddiweddar?

Mae’r deunyddiau cwricwlwm drafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwedd mis Ebrill yn cynnwys canllawiau statudol trosfwaol (PDF 906KB) a chanllawiau statudol ar wahân ar bob Maes Dysgu a Phrofiad. Mae’r rhain ar gael mewn fformat ar-lein a Fformat PDF (sydd ar gael drwy ‘Ddogfennau lawrlwytho’). Mae pob eitem o’r canllawiau statudol drafft yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad;
  • Sut mae’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad yn cefnogi’r pedwar diben;
  • Nifer o ddatganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ ar gyfer y Meysydd Dysgu a Phrofiad;
  • Y berthynas rhwng y datganiadau ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad a’r berthynas â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill;
  • Amlinelliad o sut y caiff dilyniant o fewn y Meysydd Dysgu a Phrofiad ei greu;
  • Sut y bydd y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cyfrannu at ddatblygu cwricwlwm eang a chytbwys, gan gynnwys sut mae’n berthnasol i’r tri chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd, y pedwar sgil ehangach a ffactorau cyffredinol eraill fel gyrfaoedd a phrofiad gwaith;
  • Sut y bydd y Meysydd Dysgu a Phrofiad yn cael eu gweithredu;
  • Manylion am sut y bydd pob datganiad ‘Yr Hyn sy’n Bwysig’ yn cael ei gymhwyso, gan gynnwys y Canlyniadau o ran Cyflawni ar bob Cam Cynnydd (sef y rhan o’r ddogfen sy’n nodi beth fydd y Maes Dysgu a Phrofiad yn ei gynnwys)

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Mae cyfnod adborth Llywodraeth Cymru ar y Cwricwlwm drafft i Gymru yn cau ddydd Gwener 19 Gorffennaf. Dywedodd Kirsty Williams AC, y Gweinidog Addysg, yn ei datganiad ar 30 Ebrill, a oedd yn cyd-fynd â chyhoeddi deunyddiau’r cwricwlwm drafft, y byddai cael yr ‘ystod ehangaf bosibl o sylwadau’ yn ‘hanfodol’ i ‘fireinio’r canllawiau ar y Meysydd Dysgu a Phrofiad’.

Yna, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi fersiwn derfynol o’r Cwricwlwm newydd i Gymru ym mis Ionawr 2020, cyn ei gyflwyno fesul cam o fis Medi 2022 ymlaen.

Bydd Llywodraeth Cymru, maes o law, yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’w hymgynghoriad ar y Papur Gwyn ar y diwygio deddfwriaethol sy’n angenrheidiol i sefydlu’r cwricwlwm newydd. Bydd angen diddymu elfennau o Ddeddf Addysg 2002 ac mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil Cwricwlwm ac Asesu i ategu’r pedwar diben, y chwech o Feysydd Dysgu a Phrofiad, a’r tair blaenoriaeth drawsgwricwlaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod maint yr her o ddiwygio’r cwricwlwm yn gofyn am waith cymesur i helpu’r proffesiwn addysg i baratoi i’w gyflwyno. Yn ddiweddar bu’n ymgynghori ar ganiatáu diwrnod hyfforddiant mewn swydd ychwanegol i athrawon at y diben hwn ym mhob blwyddyn academaidd, sef 2019/20, 2020/21 a 2021/22. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi sicrhau bod cyllid ychwanegol ar gyfer dysgu proffesiynol athrawon, yn benodol gan ystyried y cwricwlwm newydd.

Yn wir, mae gallu’r sector i gyflawni’r lefel o newid sydd ei angen wedi bod yn thema allweddol o waith craffu’r Cynulliad ar weithredu Adolygiad Donaldson a diwygio’r cwricwlwm.


Erthygl gan Michael Dauncey, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru