Brexit

Sut pleidleisiodd Cymru? Canlyniadau etholiad Ewrop 2019

Mae etholiadau Senedd Ewrop a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf eisoes wedi bod yn destun llawer o drin a thrafod. Rhwng 23 a 26 Mai, pleidleisiodd pobl ym mhob un o 28 Aelod-wladwriaeth yr UE i ethol Aelodau Senedd Ewrop ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae'r canlyniadau llawn ar gael yma. Yn gyffredinol roedd y nifer a bleidleisiodd ar draws yr UE ar ei uchaf er 1994, sef 50.97 y cant, o gymharu â 42.61 y cant yn yr etholiadau diwethaf yn 2014. Mae'r erthygl hon yn trafod yn fanylach y canlyniadau yng Nghymru, y DU a'r UE.

Amcangyfrif o amser darllen: 6 Munud

04 Mehefin 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae etholiadau Senedd Ewrop a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf eisoes wedi bod yn destun llawer o drin a thrafod. Rhwng 23 a 26 Mai, pleidleisiodd pobl ym mhob un o 28 Aelod-wladwriaeth yr UE i ethol Aelodau Senedd Ewrop ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Mae’r canlyniadau llawn ar gael yma. Yn gyffredinol roedd y nifer a bleidleisiodd ar draws yr UE ar ei uchaf er 1994, sef 50.97 y cant, o gymharu â 42.61 y cant yn yr etholiadau diwethaf yn 2014. Mae’r erthygl hon yn trafod yn fanylach y canlyniadau yng Nghymru, y DU a’r UE.

Cymru

Mae gan Gymru bedwar o’r 73 ASE sy’n cynrychioli’r DU. Y ganran a bleidleisiodd yng Nghymru oedd 37.29 y cant, o’i chymharu â 31.5 y cant yn etholiadau 2014. Dyma’r canlyniadau ar gyfer Cymru yn ôl canran y bleidlais er 2014 a dyraniad y seddau ar gyfer ASEau newydd Cymru:

Yn nhrefn y pleidleisiau a gawsant, y pedwar ASE newydd i Gymru yw:

Nathan Gill a James Wells – Plaid Brexit – 271,404 pleidlais (32.5 y cant)

Jill Evans – Plaid Cymru – 163,928 (19.6 y cant)

Jackie Jones – Llafur – 127,833 (15.3 y cant)

Enillodd y Brexit Party mewn 19 o’r 22 ardal cyngor, a rhoes y gefnogaeth hon ddwy sedd i’r blaid. Collodd UKIP ei sedd; cafodd 3.3 y cant o’r bleidlais o’i gymharu â 27.55 y cant yn 2014. Daeth Plaid Cymru yn ail, o flaen Llafur am y tro cyntaf mewn etholiad yng Nghymru. Un o’r prif benawdau yng Nghymru yw’r colledion a ddioddefwyd gan y Ceidwadwyr a Llafur; gwelwyd gostyngiad sylweddol yng nghanran eu pleidlais wrth i bleidleiswyr droi at bleidiau newydd neu bleidiau llai. Daeth y Ceidwadwyr yn bumed, gan golli eu sedd. Daeth Llafur yn drydydd, gan gadw ei sedd. Mae’r canlyniadau hyn yn golygu bod Llafur yn colli mewn etholiad yng Nghymru am yr eildro mewn canrif. Mewn ymateb i ganlyniadau’r etholiad a chyhoeddiad Prif Weinidog y DU y bydd yn ymddiswyddo ar 7 Mehefin, eglurodd Prif Weinidog Cymru safbwynt Llafur Cymru:

I have now concluded that the only way we can try to guarantee a future for Wales that would not be a catastrophe is to put this decision back to the people in a referendum.

A hefyd:

The chance of doing a deal of the sort that we have always advocated seems to me now to be at an end. There’s no prospect of that happening sadly, and in those circumstances our view is that going back to the people, in what has been a very deeply divided society, asking people for their verdict again is the best way forward.

Dywedodd hefyd:

Faced with the damage of a hard-line, Tory Brexit, Welsh Labour believes that the final decision must be made by the public in a referendum. And, for the avoidance of any doubt, a Welsh Labour Government would campaign, in such a vote, for Wales to remain in the EU.

Nid yw’n glir beth fydd effaith y safbwynt hwn; bydd rhaid cadw golwg arno yn ystod y misoedd nesaf wrth i drafodaethau Brexit o fewn y DU barhau.

Y DU

Mae gan y DU 73 o seddau yn Senedd Ewrop, wedi’u rhannu rhwng 12 rhanbarth etholiadol. Yn 2019, 36 y cant a bleidleisiodd, sef canran uwch na’r 35.4 y cant a bleidleisiodd yn etholiadau 2014. Mae’r canlyniadau llawn ar gyfer y DU ar gael ar wefan y BBC. Y Blaid Brexit a aeth â’r ganran fwyaf o bleidleisiau yn y DU, sef 31.6 y cant. Daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn ail gyda 20.3 y cant, o gymharu â’r 6.9 y cant gawsant yn 2014. Daeth Llafur yn drydydd gyda 14.1 y cant, ac yna’r Blaid Werdd gyda 12.1 y cant. Cafodd y Blaid Lafur golled o -10 y cant a chafodd y Blaid Geidwadol golled o -15 y cant. Gwelodd Plaid Cymru a Phlaid Genedlaethol yr Alban (SNP) gynnydd yng nghanran eu pleidliaid. Cadwodd Plaid Cymru un sedd ac ennillodd yr SNP un sedd ychwanegol. Gwelodd UKIP golledion wrth i’w chefnogaeth ostwng o 27.5 y cant yn 2014 i 3.2 y cant yn 2019. Yng Ngogledd Iwerddon, menywod a etholwyd i’w thair sedd, a hynny am y tro cyntaf (un yr un o’r DUP, Sinn Féin, a Phlaid y Gynghrair). Mae canlyniadau’r DU yn ôl canran cyfanswm y pleidleisiau er 2009 fel a ganlyn:

Mae’n bosibl na fydd ASEau’r DU a etholwyd ar 23 Mai byth yn eistedd fel Aelodau os gellir cytuno ar y cytundeb Brexit cyn 2 Gorffennaf pan fydd Senedd newydd Ewrop yn eistedd am y tro cyntaf. Os mai hynny sy’n digwydd, mae Senedd yr UE wedi cadarnhau y bydd yn cynnal ‘sesiwn arbennig’ i gadarnhau’r cytundeb. Byddai hyn yn golygu galw yn ôl y Senedd fel yr oedd ar gyfer 2014-2019, sy’n golygu y byddai ASEau na chawsant eu hail-ethol neu sydd wedi ymddeol yn dychwelyd am ar gyfer y sesiwn honno yn unig.

Yr Undeb Ewropeaidd

Mae Senedd Ewrop yn cynnwys 751 ASE,  wedi’u trefnu’n grwpiau gwleidyddol a’u dyrannu ar sail poblogaethau’r Aelodau-wladwriaeth. Dyma ddyraniad seddi dros dro pob grŵp: 

Oherwydd y cynnydd mewn cefnogaeth i’r Gwyrddion, y Democratiaid Rhyddfrydol a phleidiau’r dde eithaf, mae’r ddau brif grŵp wedi colli eu mwyafrif cyfunol. Cafodd y Blaid Pobl Ewrop ganol-dde (EPP) a Chynghrair Flaengar y Sosialwyr a’r Democratiaid (S&D) canol-chwith golledion, er mai’r grwpiau hyn yw’r mwyaf a’r ail fwyaf o hyd, gyda 22 y cant ac 20 y cant o’r bleidlais yn y drefn honno. Enillodd grŵp Cynghrair y Rhyddfrydwyr a Democratiaid Ewrop (ALDE) 14.2 y cant o’r bleidlais, gan ennill 43 o seddau o bosibl.

Y camau nesaf

Cyn y gall Senedd Ewrop gynnal ei sesiwn gyntaf, caiff uwchgynhadledd y Cyngor Ewropeaidd ei chynnal ar 20-21 Mehefin, lle y bydd arweinwyr yr UE yn penderfynu ar benodiadau penodol ac yn mabwysiadu agenda strategol yr UE ar gyfer 2019-2024. Yr uwchgynhadledd hefyd yw cyfle nesaf yr UE i adolygu yn ffurfiol hynt y trafodaethau ynghylch ymadawiad y DU â’r UE.

Mae gan yr ASEau newydd ddyddiadau allweddol yn eu dyddiaduron yn barod.  Unwaith y caiff grwpiau gwleidyddol eu ffurfio, caiff cyfarfod llawn cyntaf Senedd Ewrop ei gynnal ar 2 Gorffennaf. Mae Senedd Ewrop yn chwarae rhan yn y gwaith o ddewis uwch-swyddi allweddol yr UE ac mae 2019 yn flwyddyn hynod o brysur i’r UE. Erbyn diwedd 2019, bydd pump o’r swyddi uchaf yn dod yn wag. Mae angen llywyddion ar gyfer Senedd Ewrop, y Cyngor, y Comisiwn a Banc Canolog Ewrop, yn ogystal ag uchel-gynrychiolydd polisi tramor newydd.

Drwy gydol yr haf, bydd ASEau yn ethol Arlywydd Senedd Ewrop newydd ac yn penodi Dirprwy Arlywyddion. Cynhelir yr etholiad ar gyfer Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ar 4 Gorffennaf, ar yr amod bod y Cyngor Ewropeaidd yn cytuno ar enwebai erbyn diwedd mis Mehefin. Yn ystod mis Medi a mis Hydref, penodir y Coleg Comisiynwyr newydd (arweinyddiaeth wleidyddol y Comisiwn Ewropeaidd) ac o fis Tachwedd ymlaen, bydd Llywydd newydd Cyngor Ewrop yn ei swydd.

ASEau Cymru a Brexit

Yn dilyn dyddiad ymadael newydd y DU ar 31 Hydref (neu cyn hynny, os ceir cytundeb), bydd y DU yn rhoi’r gorau i’w chynrychiolaeth yn sefydliadau’r UE, sy’n golygu na fydd ASEau Cymru yn eistedd yn Senedd Ewrop mwyach. Rhwng y diwrnod ymadael a Rhagfyr 2020 (y cyfnod pontio), bydd Cymru yn parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau’r UE, ond ni fydd bellach yn rhan o broses gwneud penderfyniadau’r UE. Bydd presenoldeb ASEau’r DU yn effeithio ar y ffordd y caiff grwpiau gwleidyddol yn y Senedd eu ffurfio, a’r dyraniadau cyllid ar eu cyfer, gan gynnwys ethol Arlywydd y Senedd. Os bydd gan y DU ASEau dros yr haf, gallai hyn hefyd ddylanwadu ar y broses ddethol ar gyfer Llywydd nesaf y Comisiwn Ewropeaidd. Bydd ASEau’r DU yn parhau yn eu lle os caiff y dyddiad ar gyfer gadael ei ohirio eto ar ôl 31 Hydref.


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: