Brexit Cyllid Economi

Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: Beth yw’r datblygiadau diweddaraf a’r materion allweddol?

Ar 11 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Ers i faniffesto'r Ceidwadwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU yn 2017 ymrwymo i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn y DU â Chronfa Ffyniant Gyffredin, mae sefydliadau wedi bod yn disgwyl gweld rhagor o wybodaeth am sut y gallai hyn weithio.

Amcangyfrif o amser darllen: 5 Munud

06 Mehefin 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 11 Mehefin, bydd y Cynulliad yn trafod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Ers i faniffesto’r Ceidwadwyr ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU yn 2017 ymrwymo i ddisodli Cronfeydd Strwythurol yr UE yn y DU â Chronfa Ffyniant Gyffredin, mae sefydliadau wedi bod yn disgwyl gweld rhagor o wybodaeth am sut y gallai hyn weithio.

Mae Cymru yn cael dros bedair a hanner gymaint o Gronfeydd Strwythurol y pen na chyfartaledd y DU yn ystod rownd 2014-20.  Felly, bydd y penderfyniadau sydd i’w gwneud ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn arbennig o bwysig i Gymru. Y pwyntiau allweddol yw a fydd Cymru’n parhau i dderbyn y lefelau cyllid cyfredol, a faint o reolaeth fydd gan Lywodraeth Cymru dros sut mae cyllid yn cael ei wario yng Nghymru.  Mae’r Prif Weinidog, Mark Drakeford AC, wedi amlinellu safbwynt Llywodraeth Cymru fel a ganlyn:

When it comes to Brexit: Not a penny less, not a power lost.

Beth ydyn ni’n ei wybod am sut y gallai Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU weithredu yng Nghymru?

Nid yw Llywodraeth y DU wedi nodi’r manylion eto ynghylch sut y bydd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn gweithio, ac nid yw’n glir eto faint o arian y bydd Cymru’n ei gael, na pha rôl y bydd Llywodraeth Cymru yn ei chwarae o safbwynt gweinyddol.  Y bwriad gwreiddiol oedd y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal erbyn diwedd 2018, ond mae wedi cael ei ohirio.

Ym mis Gorffennaf 2018, fe wnaeth James Brokenshire AS, Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, gyhoeddi diweddariad ar y cynigion, gan gynnwys sut y bydd y gronfa yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn cymunedau drwy godi cynhyrchiant, yn enwedig mewn rhannau o’r DU lle y mae eu heconomïau bellaf ar eu hôl.  Bydd y gronfa’n ceisio symleiddio trefniadau gweinyddol, a bydd yn gweithredu ledled y DU.  Mae Llywodraeth y DU yn datgan y bydd yn parchu’r setliadau datganoli yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, ac y bydd yn ymgysylltu â’r gweinyddiaethau datganoledig i sicrhau bod y gronfa’n gweithio ar draws y DU.

Ym mis Mawrth, ysgrifennodd Alun Cairns AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, at Bwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Yn ei lythyr, dywedodd:

As Secretary of State, I am working to protect Wales’ interests and to ensure that Wales benefits from the greatest degree from the UK Shared Prosperity Fund…I am particularly keen to consider how organisations at the local level, including local authorities, can have the greatest influence over spending decisions under the UK Shared Prosperity Fund.

Mewn ymateb i ddadl yn Neuadd San Steffan ar 14 Mai, fe wnaeth Jake Berry AS, yr Is-ysgrifennydd Seneddol Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth y DU, roi ddiweddariad ar y datblygiadau diweddaraf ynghylch Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Dywedodd y bydd ymgynghoriad y gronfa yn dechrau’n fuan iawn, a hefyd:

  • bod model presennol Cronfeydd Strwythurol yr UE yn rhy fiwrocrataidd, ac nad yw’n targedu llawer o flaenoriaethau Llywodraeth y DU;
  • bod yn rhaid i Lywodraeth y DU ymgynghori ar Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU cyn yr Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant sydd ar y gweill yn 2019; a
  • bod Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â mwy na 500 o randdeiliaid mewn 25 o ddigwyddiadau, gan gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig.

Beth mae Llywodraeth Cymru a phwyllgorau’r Cynulliad wedi ei ddweud am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU?

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynigion ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol yng Nghymru ar ôl BrexitMae’n gwrthwynebu Cronfa Ffyniant Gyffredin ganolog ar gyfer y DU, ac mae’n awgrymu y gallai dull a arweinir gan y DU olygu llai o arian ar gyfer ardaloedd tlotaf Cymru, ac na fyddai hyn yn parchu’r setliad datganoli o ystyried mai maes datganoledig yw datblygu economaidd.

Yn lle hynny, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig neilltuo cyllid ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol fel ei fod yn cael ei wario ar ddatblygu economaidd.  Byddai’n sicrhau bod cyllid yn cael ei dargedu at yr ardaloedd mwyaf anghenus; byddai’n sicrhau bod y cyllid hwn yn cael ei ddyrannu ar sail rheolau; yn meithrin model datblygu economaidd rhanbarthol ar gyfer pobl a lleoedd; ac yn datganoli pŵer y tu hwnt i Fae Caerdydd fel bod gan ardaloedd lleol a rhanbarthol fwy o gyfrifoldeb dros gynllunio a gwneud penderfyniadau.  Mae ein herthygl flaenorol ynghylch buddsoddiad rhanbarthol ar ôl Brexit yn amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru yn fanylach.

Mae’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit wedi nodi ei bryderon ynghylch y diffyg gwybodaeth sydd ar gael am Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mewn tystiolaeth i’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn gynharach yr wythnos hon, nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael eglurder ynghylch amseru’r ymgynghoriad nac ynghylch a fydd Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant yn cael ei gynnal a fyddai’n rhoi manylion am faint o arian a fydd ar gael.

Ym mis Mawrth, fe wnaeth y Prif Weinidog fynegi pryder bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ceisio osgoi’r Cynulliad wrth ddylunio Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU:

And I think it’s as clear as day that the Secretary of State would wish to bypass the National Assembly for Wales. And he thinks that the way to do it is to dangle small amounts of cash in front of hard-pressed, cash-strapped local authorities and others, and say to them, in a way that I do not think bears examination, that the way that he would like the shared prosperity fund to work would mean that money would go straight to them and bypass the National Assembly.

Rydym hefyd wedi cyhoeddi dwy erthygl flaenorol yn nodi barn Pwyllgor Cyllid y Cynulliad ynghylch disodli cronfeydd yr UE, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r rhain.  Gwnaeth y Pwyllgor Cyllid ddadl drawsbleidiol dros gyllid i Gymru yn y dyfodol, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyd-drafod gyda Llywodraeth y DU i sicrhau o leiaf y lefelau cyllid cyfredol o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU gyfan.  Hefyd, galwodd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cyfrifoldeb dros weinyddu a rheoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru.

Beth yw’r farn y tu hwnt i’r Senedd?

Yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ddisodli cronfeydd yr UE, fe wnaeth sefydliadau yng Nghymru fynegi gefnogaeth gref i’r safbwynt na ddylai Cymru fod ar ei cholled o ganlyniad i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn disodli Cronfeydd Strwythurol yr UE.  Roedd y sefydliadau a fynegodd y farn hon yn cynnwys academyddion, cyrff y trydydd sector, llywodraeth leol, a sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau.  Yn yr un modd, roedd cefnogaeth o blaid gweld Llywodraeth Cymru yn rheoli ac yn gweinyddu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru.  Nid oedd yr un unigolyn na sefydliad a roddodd dystiolaeth i’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU i weinyddu’r gronfa yng Nghymru.

Y tu hwnt i Gymru, mae Llywodraeth yr Alban wedi mynegi barn debyg i Lywodraeth Cymru ynghylch y lefelau cyllid a datganoli trefniadau gweinyddol.  Ysgrifennodd at Lywodraeth y DU ym mis Chwefror yn mynegi ei phryder ynghylch yr ansicrwydd am y trefniadau cyllid yn y dyfodol, gan ddweud:

We are absolutely clear that we expect the value of the funds to remain at least the same and that we retain the ability to design and operate them in line with the best interests of Scotland.

Fe wnaeth Grŵp Seneddol Hollbleidiol Tŷ’r Cyffredin ar Ariannu Ôl-Brexit ar gyfer Rhanbarthau, Cenhedloedd ac Ardaloedd Lleol gyhoeddi ei adroddiad ar y gronfa ym mis Tachwedd 2018.  Roedd hyn yn argymell:

  • Am y tro, dylai Llywodraeth y DU symud cyfran bresennol pedair cenedl y DU o gyllid yr UE ymlaen i Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
  • O fewn y fframwaith o ganllawiau y cytunir arnynt ledled y DU, dylai dyrannu’r cyllid i ardaloedd lleol yn y cenhedloedd datganoledig fod yn fater datganoledig, yn yr un modd â’r gwaith dylunio a darparu manwl.

Er bod llai o gonsensws ynghylch sut y dylid dyrannu’r cyllid ar draws y gwahanol rannau o’r DU, mae nifer o gyrff wedi argymell y dylai’r gweinyddiaethau datganoledig reoli Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.  Mae Sefydliad Joseph Rowntree yn dweud na ddylai fod llai o ryddid yn y ffordd y mae’r gweinyddiaethau datganoledig yn rheoli arian datblygu rhanbarthol o dan y gronfa.  Yn yr un modd, mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn nodi bod y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd wedi’u datganoli, ac y dylai fod gan y gweinyddiaethau datganoledig y rhyddid i benderfynu ar beth i wario’r cyllid fel y mae eu hawl gyfansoddiadol yn ei phennu.  Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach o’r farn y byddai newid trefniadau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn tanseilio’r cynnydd a wnaed o ran cymorth busnes, ac y dylid datganoli’r trefniadau gweinyddol.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru