Anweithgarwch corfforol a gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc – argyfwng cenedlaethol o ran iechyd ein plant yn ôl y Pwyllgor

Cyhoeddwyd 07/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc (PDF, 1015 KB) ar 12 Mehefin 2019.

Mae canllawiau a gyhoeddwyd gan bedwar Prif Swyddog Meddygol, o Loegr, yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon, yn nodi fel a ganlyn:

  • Dylai pob plentyn a pherson ifanc (5-18 oed) gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol am o leiaf 60 munud, a hyd at sawl awr bob dydd.
  • Dylai pob plentyn a pherson ifanc leihau i’r eithaf yr amser a dreuliant yn eistedd am gyfnodau estynedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth y Pwyllgor, ar y cyfan, fod 51 y cant o blant 3-17 oed yn bodloni’r canllawiau a argymhellir; fodd bynnag, dim ond rhwng 14 ac 17 y cant o blant 11-16 oed sy'n cyflawni’r lefelau gweithgarwch corfforol a argymhellir.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth fod lefelau’r gweithgarwch corfforol a bod yn eisteddog ymhlith plant yng Nghymru yn rhai o’r lefelau gwaethaf yn y byd. Mae cyfran uwch o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew, ac yn dilyn ffordd afiach o fyw o’u cymharu â gwledydd eraill y DU.

Dywedodd y Pwyllgor ei fod wedi clywed tystiolaeth argyhoeddiadol bod angen i sgiliau echddygol sylfaenol gael eu haddysgu o oedran cynnar, a bod yna gamdybiaeth y bydd yr holl sgiliau sydd eu hangen yn datblygu’n naturiol yn ystod plentyndod. Roedd yr Aelodau’n pryderu o glywed bod bwlch yn y cyfnod sylfaen ar hyn o bryd o ran addysgu’r sgiliau hyn, ac maent yn credu bod angen mynd i’r afael â hyn. Roeddent yn cytuno â rhanddeiliaid bod gan ysgolion rôl hollbwysig o ran annog plant a phobl ifanc i fod yn fwy egnïol yn gorfforol.

Canfu’r Aelodau hefyd bod gweithgarwch corfforol yn cael ei wasgu allan o amserlenni ysgolion oherwydd pwysau’r cwricwlwm, ac nad yw’r mwyafrif o ysgolion ledled Cymru yn darparu’r 120 o funudau yr wythnos o addysg gorfforol a argymhellir. Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i fynd i'r afael â'r materion hyn, ac mae'n galw am wella hyfforddiant athrawon ar gyfer gweithgarwch corfforol. Mae’r adroddiad yn nodi:

Mae’n amlwg i ni nad yw gweithgarwch corfforol yn cael digon o flaenoriaeth mewn ysgolion – rhaid i hyn newid. Mae datblygu’r cwricwlwm newydd sydd ar droed yn cynnig cyfle gwych i unioni’r fantol a rhoi i weithgarwch corfforol y sylw a’r flaenoriaeth y mae’n eu haeddu.

Rydym yn cytuno â rhanddeiliaid y dylai’r 120 o funudau yr wythnos a argymhellir fod yn isafswm statudol gofynnol. Rydym hefyd yn cytuno bod rhaid i weithgarwch corfforol mewn ysgolion gael ei arolygu gan Estyn er mwyn codi ei statws a chynyddu’r flaenoriaeth a roddir iddo; i fonitro cydymffurfiaeth o ran y targed o 120 o funudau, a hefyd i asesu ansawdd y profiad addysg gorfforol.

Mae’r Pwyllgor yn credu hefyd y dylai’r holl ysgolion roi mwy o gyfle i gymunedau lleol ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon ac ymarfer corff eu hysgol i hybu rhagor o weithgarwch corfforol y tu allan i’r diwrnod ysgol. Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud Ysgolion Bro yn realiti i bawb, a sicrhau cysondeb ledled Cymru o ran y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau ymarfer corff ysgolion y tu hwnt i oriau ysgol.

Daeth yr Aelodau i’r casgliad ‘os nad ydym yn dechrau cymryd camau brys nawr i newid agweddau tuag at weithgarwch corfforol, rydym yn cronni problemau ar gyfer y cenedlaethau i ddod’.

Gwnaeth y Pwyllgor 20 argymhelliad ar gyfer gweithredu. Gwnaeth Llywodraeth Cymru ymateb wedi hynny (PDF, 435 KB), gan dderbyn 13 o'r 20 argymhelliad; derbyn pum argymhelliad ‘mewn egwyddor', a gwrthod dau argymhelliad.

Roedd un o'r argymhellion a wrthodwyd yn boblogaidd ymhlith rhanddeiliaid: Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud y 120 o funudau o addysg gorfforol a argymhellir mewn ysgolion yn ofyniad statudol sylfaenol.

Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy ddweud y bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi rhyddid i ymarferwyr ddefnyddio eu proffesiynoldeb a'u creadigrwydd i ddiwallu anghenion pob dysgwr. Mae’r adroddiad yn nodi:

Roedd yr adroddiad Dyfodol Llwyddiannus yn nodi’n glir y dylai penderfyniadau a chynlluniau o ran sut y dylai Meysydd Dysgu a Phrofiad droi'n weithgareddau o ddydd i ddydd ddigwydd yn greadigol ar lefel ysgol ac nad ydynt yn ddyfeisiadau amserlennu.

Un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw bod dysgwyr yn datblygu fel unigolion iach, hyderus. Mae helpu dysgwyr i ddefnyddio gwybodaeth am effaith deiet ac ymarfer corff ar eu hiechyd corfforol a meddyliol yn eu bywyd pob dydd yn un o nodweddion allweddol y diben hwn.

Mae'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn cynnwys dilyniant clir mewn llythrennedd a gweithgarwch corfforol ac yn amlygu’r pwysigrwydd i ddysgwyr brofi ystod o gyfleoedd dyddiol parhaus i wneud ymarfer corff.

Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at ei strategaeth ddrafft 'pwysau iach, Cymru iach' a fydd yn ceisio mynd i'r afael â gordewdra ac anweithgarwch corfforol. Roedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn cynnwys ystyried ychwanegu ail bwynt mesur at y Rhaglen Mesur Plant, sy'n adlewyrchu un o argymhellion y Pwyllgor yn rhannol.

Cytunodd Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu penodol mewn perthynas â rhai o'r argymhellion, fel adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ynghylch cynnydd mewn perthynas ag ysgolion bro, a rhannu arfer da lle bo hynny’n gweithio’n dda.

Fodd bynnag, mae rhai o’r argymhellion eraill a dderbyniwyd yn llai clir o ran a fydd y camau gweithredu a argymhellwyd yn cael eu dwyn ymlaen.

Er enghraifft, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau pellach yn y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael ei alluogi i ddatblygu’r sgiliau echddygol sylfaenol sy’n ofynnol o oedran ifanc yn yr ysgol, a sicrhau bod y bylchau presennol yn y cyfnod sylfaen mewn perthynas â’r sgiliau hyn yn cael sylw llawn.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn ond mae'r ymateb yn dweud bod y cyfnod sylfaen a’r adnoddau presennol yn bodloni’r gofynion, er bod y Pwyllgor wedi clywed tystiolaeth nad oedd hyn yn wir, a galwodd am ragor o weithredu a hyfforddiant athrawon i roi sylw i’r bylchau.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad y Pwyllgor hefyd a oedd yn galw i roi rhagor o flaenoriaeth i weithgarwch corfforol fel rhan o waith arolygiadau Estyn mewn ysgolion. Fodd bynnag, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn nodi gwaith presennol Estyn yn hytrach nag ymrwymo i unrhyw gamau gweithredu newydd/pellach.

O ran y ddadl yn y Cynulliad, efallai y bydd Aelodau'r Pwyllgor am gael rhagor o sicrwydd gan Lywodraeth Cymru ei bod yn ymrwymo i wella lefelau gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc yng Nghymru a chyflawni’r camau gweithredu a argymhellir.


Erthygl gan Amy Clifton, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru