Mae ein adroddiad diweddaraf yn ymdrin â datblygiadau Brexit yng Nghymru, y DU a’r UE ers 12 Ebrill.
Mae Ymchwil y Senedd yn cyhoeddi adroddiadau monitro trafodaethau rheolaidd ar gyfer Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, ar y papurau sefyllfa diweddaraf, y cyhoeddiadau a’r datblygiadau yn y trafodaethau ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd o bwys i Gymru.
Erthygl gan Sara Moran, Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru