Cyhoeddiad Newydd: Canllawiau ariannu ar gyfer myfyrwyr 2019/20

Cyhoeddwyd 13/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’r canllawiau hyn ar gyfer 2019/20 yn fersiynau wedi’u diweddaru o’r canllawiau a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Ymchwil y Senedd. Mae’r canllawiau’n cynnwys gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i’r rhai sy’n astudio cyrsiau addysg uwch ac addysg bellach.

Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach 2019/20

Nod y canllaw hwn yw rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am y gwahanol fathau o gymorth ariannol a allai fod ar gael i chi o fis Medi 2019 ymlaen os ydych eisoes yn astudio cwrs addysg bellach amser llawn neu ran-amser yng Nghymru, neu’n bwriadu gwneud hynny.

Cyhoeddiad Newydd: Cymorth ariannol i fyfyrwyr mewn addysg bellach 2019/20 (PDF, 1804KB)

Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn Addysg Uwch 2019/20

Mae’r canllaw hwn yn rhoi gwybodaeth am y cymorth ariannol sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys sy’n bwriadu astudio cwrs addysg uwch amser llawn neu ran-amser yn ystod Blwyddyn Academaidd 2018/19 ac sy’n byw yng Nghymru fel arfer.

Cyhoeddiad Newydd: Cymorth ariannol i fyfyrwyr israddedig mewn Addysg Uwch 2019/20 (PDF, 1152KB)

Cyllid ar gyfer addysg i oedolion ac ôl-raddedigion 2019/20

Bwriad y canllaw hwn yw helpu myfyrwyr sy’n oedolion ac ôl-raddedigion i ddeall pa gymorth ariannol a allai fod ar gael i’w helpu i astudio naill ai cwrs addysg uwch, neu fath arall o gwrs nad yw’n gwrs prifysgol.

Cyhoeddiad Newydd: Cyllid ar gyfer addysg i oedolion ac ôl-raddedigion 2019/20 (PDF, 698KB)


Erthygl gan Sara Moran, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru