Diagnosis ariannol gwael i bedwar bwrdd iechyd ond mae arwyddion bod pethau’n gwella

Cyhoeddwyd 14/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn eu cyfrifon, dros gyfnod o dair blynedd, nodwyd i Fyrddau Iechyd Lleol (BILlau) yng Nghymru at ei gilydd orwario £253 miliwn yn 2016-17 a £365 miliwn yn 2017-18. Ar 12 Mehefin 2019, yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, gosododd Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfrifon blynyddol 2018-19 saith bwrdd iechyd a thair Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru. Mae'r erthygl hon yn ymdrin ag a yw'r cyfrifon diweddaraf hyn yn dangos gwelliant ym mherfformiad ariannol cyrff y GIG yng Nghymru.

Yn ein herthygl, Gwiriad iechyd ariannol - a yw byrddau iechyd lleol ac ymddiriedolaethau'r GIG yng Nghymru wedi bodloni eu dyletswyddau ariannol?' eglurwyd y gofynion statudol sydd ar Fyrddau Iechyd Lleol yng Nghymru, fel y'u nodir yn Neddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014. O dan y Ddeddf hon, cyflwynwyd dwy ddyletswydd ariannol statudol sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd:

  1. Reoli eu hadnoddau o fewn terfynau cymeradwy, neu fantoli eu cyllideb, dros gyfnod treigl o dair blynedd.
  2. Llunio Cynllun Tymor Canolig Integredig tair blynedd dreigl, gyda Gweinidogion Cymru yn ei gymeradwyo.

Cadarnhaodd canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru fod y dyletswyddau ariannol statudol hefyd yn berthnasol i Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru.

Yn ôl y cyfrifon ar gyfer 2018-19, yn gyffredinol, mae byrddau iechyd wedi nodi dirywiad yn y sefyllfa ariannol, gyda'r gorwariant net yn cynyddu dros y tair blynedd i £411 miliwn. Dangosir perfformiad y BILlau unigol isod.

Mae'r map yn dangos gorwariant net o £411 miliwn dros y tair blynedd hyd at 31 Mawrth 2019 gan fyrddau iechyd lleol yng Nghymru.

Adroddodd yr un byrddau iechyd orwariant yn y tair blynedd hyd at fis Mawrth 2019 fel yn y ddau gyfnod treigl tair blynedd blaenorol. Fodd bynnag, mae perfformiad byrddau iechyd unigol wedi amrywio.

Er nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg (a elwir bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe), Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro na Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi mantoli eu cyllidebau ar gyfer 2018-19, mae eu perfformiad ariannol wedi gwella. Mae'r diffyg cyfanredol a adroddwyd gan y tri bwrdd iechyd hyn ar gyfer 2018-19 £73.5 miliwn yn llai nag yr oedd yn 2017-18, sef gostyngiad yn y diffyg o £128.7 miliwn yn 2017-18 i £55.2 miliwn yn 2018-19. Fodd bynnag, adroddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddiffyg uwch; cynyddodd ei orwariant o £38.8 miliwn yn 2017-18 i £41.3 miliwn yn 2018-19.

Nid oedd gan y pedwar bwrdd iechyd a fethodd â mantoli eu cyllidebau gynllun tymor canolig integredig tair blynedd cymeradwy, sy'n golygu eu bod hefyd wedi methu â bodloni'r ail ddyletswydd ariannol statudol. Darperir crynodeb o berfformiad BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG yn erbyn y ddyletswydd ariannol statudol isod.

Ar 12 Mehefin 2019, cyhoeddodd Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ddatganiad ysgrifenedig ar berfformiad ariannol y GIG yn 2018-19. Yn y datganiad, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £10 miliwn ychwanegol yr un i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a £27 miliwn ychwanegol yn flynyddol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dywedodd y Gweinidog:

“Yn gyffredinol, a gan ystyried y cyllid ychwanegol a ddyrannwyd yn ystod y flwyddyn uchod, mae alldro net GIG Cymru yn 2018-19 £24 miliwn yn well o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn dangos cynnydd amlwg mewn sefydlogrwydd ariannol ar gyfer GIG Cymru, sy'n adlewyrchiad o'r buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn unol â'r argymhellion gan y Nuffield Trust, ynghyd â gwelliannau yn rheolaeth ariannol y GIG. Wedi i mi gymeradwyo saith Cynllun Tymor Canolig Integredig ar gyfer 2019-20, rwy'n disgwyl rhoi gwybod am welliant pellach yn y sefyllfa ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon.”

Yn, “20 mlynedd fel cenedl ddatganoledig - sut mae Cymru wedi newid? Datganoli 20", gan y Gwasanaeth Ymchwil, nodir bod costau darparu gwasanaethau'r GIG wedi parhau i gynyddu, ac erbyn hyn maent yn cyfrif am dros hanner (52.3 y cant) o gyfanswm cyllideb adnoddau Llywodraeth Cymru, o'i gymharu â 39.8 y cant yn 2010-11.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn adrodd nad oedd y cynnydd yng nghyllideb refeniw iechyd Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn ddigonol ar gyfer pwysau costau presennol a newydd. Mae'n nodi bod “rhaid i bob corff y GIG wneud arbedion a dod o hyd i ffyrdd o reoli'r pwysau cost ar draws y flwyddyn”.

Gwneir arbedion trwy ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithlon neu am lai o gost, neu drwy atal yr hyn sy’n achosi’r gost. Dangosir isod yr arbedion a gyflawnir gan fyrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru rhwng 2011-12 a 2018-19. Mae hyn yn dangos bod cyrff y GIG yng Nghymru ar y cyd, er 2011-12, wedi cyflawni arbedion o fwy na £100 miliwn bob blwyddyn.

Cyrff y GIG yng Nghymru – arbedion a wnaed, 2011-12 i 2018-19 (£ miliwn)

Ffynhonnell: Offeryn Data Cyllid GIG Cymru
Archwilydd Cyffredinol Cymru
: Arbendion a gynlluniwyd ac arbedion a wnaed

Mae'r arbedion a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol unigol ac Ymddiriedolaethau GIG, yn ogystal â gwybodaeth arall am berfformiad ariannol cyrff y GIG, wedi'u nodi mewn offeryn data newydd a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar 12 Mehefin 2019.

Er iddo gydnabod iddi fod yn flwyddyn heriol i gyrff y GIG, gan nodi ei bod yn galonogol bod pob bwrdd iechyd wedi parhau i sicrhau arbedion, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dweud, “nid yw'n dderbyniol ... bod pedwar bwrdd iechyd yn parhau i dorri eu cyfrifoldebau cyfreithiol i fyw o fewn eu dulliau ariannol”.


Erthygl gan Joanne McCarthy a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru