Gwers ar ddysgu i oedolion yng Nghymru

Cyhoeddwyd 14/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd y Gweinidog Addysg yn cyflwyno datganiad yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Mehefin ynghylch Wythnos Dysgu Oedolion.

Mae'r blog hwn yn rhoi trosolwg byr o ddarpariaeth dysgu oedolion, yn cyflwyno rhai ffeithiau allweddol, ac yn olaf, yn darparu gwybodaeth am benderfyniadau ariannu sydd wedi cael effaith ar addysg oedolion yng Nghymru.

Trosolwg o Ddysgu Oedolion yng Nghymru

Weithiau mae cyfeiriadau at ddysgu oedolion yn cyfeirio at yr hyn a elwir yn Ddysgu Oedolion yn y Gymuned.

Yn ymarferol, mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned (ACL) yn cael ei drin gan Lywodraeth Cymru fel math penodol o ddarpariaeth addysg y mae’n ei hariannu drwy’r Grant Dysgu Cymunedol i awdurdodau lleol, ac sydd hefyd yn cael ei ddarparu gan Dysgu Oedolion Cymru, sef sefydliad addysg bellach ledled Cymru.

Fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o oedolion yn cael mynediad i ystod llawer ehangach o ddarpariaeth dysgu gydol oes sydd hefyd yn cynnwys addysg uwch llawn amser a rhan amser, addysg bellach gyffredinol a galwedigaethol ac amrywiaeth o brentisiaethau.


Ffynhonnell: StatsCymru a HESA

Mae’r ffigurau isod yn rhoi trosolwg o’r hyn sydd ar gael.

Ffeithiau allweddol yn ôl sector

Mae’r adran hon yn darparu ffeithiau allweddol ar ddysgu oedolion, gan edrych yn gyntaf ar addysg uwch, yna addysg bellach a Dysgu Oedolion yn y Gymuned, ac yna’r rhaglen brentisiaeth yn olaf.

Ffynhonnell: HESA (25 a throsodd ac eithrio israddedigion Bl 3/4)

Fel y gellir ei ddehongli o’r graffeg uchod ynghylch myfyrwyr rhan amser: bydd unrhyw bolisi sy'n dylanwadu ar nifer y myfyrwyr rhan amser mewn addysg uwch yn cael effaith anghymesur ar ddysgwyr sy’n oedolion.

Ffynhonnell: StatsCymru (Niferoedd dysgwyr unigryw yn y Canolfannau Addysg, Dysgu yn y Gwaith a Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn ôl oedran)

O'r dysgwyr hynny sy’n 20+ oed, roedd 94% wedi cofrestru naill ai ar raglen addysg bellach neu brentisiaeth. Roedd y 6% arall wedi cofrestru ar raglenni Dysgu Oedolion yn y Gymuned.

Ffynhonnell: StatsCymru ac Ystadegau ac Ymchwil Llywodraeth Cymru

Mae’r ffigur uchod yn dangos bod rhaglen brentisiaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfle arwyddocaol i oedolion sydd am ddilyn dysgu gydol oes, gyda thros 25,000 o brentisiaethau wedi eu cychwyn gan y rhai 20+ oed yn 2017/18. Mae hyn er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru y rhoddir llai o flaenoriaeth i oedolion dros 20 oed wrth gael mynediad i brentisiaeth.

Penderfyniadau Ariannu: Effeithiau ar Ddysgu Oedolion

Mae'r adran hon yn amlygu nifer o benderfyniadau cyllido sydd wedi cael effaith ar ddysgu oedolion yng Nghymru, yn benodol darpariaeth ran amser a’r rheol Cymwysterau Lefel Cyfwerth, neu ELQ.

Penderfyniadau cyllido rhan amser

Fel y gwelwyd uchod, roedd 76% o gofrestriadau addysg uwch rhan amser yn 2017/18 gan fyfyrwyr dros 25 oed. Ar yr un pryd,

  • mewn addysg bellach, roedd 89% o'r holl ddysgwyr rhan amser yn 20+ oed, ac roedd 78% yn 25+ oed;
  • mewn Dysgu Oedolion yn y Gymuned, roedd 87% o ddysgwyr yn 25+ oed.

Mae hyn yn dangos y bydd penderfyniadau sy’n effeithio ar ariannu dysgu rhan amser a chymunedol yn cael effaith anghymesur ar ddysgwyr sy’n oedolion.

Fel yn Lloegr, ers 2013/14 mae nifer y dysgwyr rhan amser mewn addysg uwch ac addysg bellach, yn ogystal â dysgu cymunedol, wedi gostwng yng Nghymru. Mae'r graffeg isod yn dangos y gostyngiad mewn oedolion rhan amser:

Ffynhonnell: StatsCymru

O 2018/19 mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyflwyno’r cymorth ariannol “hael” a’r hyn a elwir yn becyn Diamond i fyfyrwyr addysg uwch llawn amser a rhan amser.

Yn arwyddocaol, mae’r pecyn rhan amser yn darparu fersiwn pro-rata o’r pecyn llawn amser, gan gynnwys grantiau cynhaliaeth a benthyciadau tuag at gostau byw.

Mae’r data diweddaraf o’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn dangos cynnydd o 35% ymysg myfyrwyr rhan amser sy’n cael cymorth ariannol yn 2018/19 (blwyddyn gyntaf y pecyn newydd) o gymharu â’r un amser yn 2017/18. Yn seiliedig ar y data rhan amser a ddangosir uchod, mae’n bosibl y caiff dysgwyr sy'n oedolion eu cynrychioli’n anghymesur yn y cynnydd hwn mewn rhai sy’n cael cymorth, er ei bod yn rhy gynnar eto i gael data diffiniol.

Er ei bod yn bosibl bod addysg uwch rhan amser yn sensitif i’r pecyn cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae Llywodraeth Cymru yn dylanwadu’n fwy uniongyrchol ar gyllid ar gyfer darpariaeth addysg bellach rhan amser a Dysgu Oedolion yn y Gymuned. Mae hyn oherwydd ei fod yn dibynnu llawer mwy ar gyllid grant canolog gan Lywodraeth Cymru yn hytrach na’r ffioedd a delir gan fyfyrwyr unigol fel yn achos addysg uwch (er bod prifysgolion yn cael grant sylweddol i helpu i ddarparu rhaglenni rhan amser).

Yn ogystal, tra gall myfyriwr addysg uwch gael mynediad i hyd at £5,111 y flwyddyn i astudio’n rhan amser, gall myfyriwr addysg bellach sy’n oedolyn gael hyd at £750 y flwyddyn i ddilyn cwrs addysg bellach rhan amser.

Polisi diweddar Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach, fel y nodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, fu blaenoriaethu’r cyllid sydd ar gael ar gyfer ei ddarpariaeth statudol 16-19 oed.

Mae canlyniad y penderfyniad hwn wedi’i nodi mewn adroddiad yn 2017 gan Archwilydd Cyffredinol Cymru sy’n dangos rhwng 2011/12 a 2016/17 bod cyllid refeniw cyffredinol i sefydliadau addysg bellach wedi gostwng 7% mewn termau arian parod, ond, ymysg y gostyngiad cyffredinol hwn:

  • cynyddodd cyllid addysg bellach llawn amser 3% mewn gwirionedd; tra
  • gostyngodd cyllid addysg bellach rhan amser 71%.

Mae hyn wedi arwain at fwy o ffocws ar y fethodoleg ariannu ar gyfer darpariaeth addysg bellach rhan amser yn sgil lefelau ariannu is, gyda’r newid diweddaraf yn y fethodoleg yn cael ei gyflwyno ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf 2019/20.

O 2019/20, ar ôl ariannu ailsefyll Sgiliau Sylfaenol a TGAU, mae gweddill y cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser wedi'i ddyrannu yn ôl poblogaeth sydd heb ennill cymhwyster lefel 3 eto (y cymhwyster uchaf yw lefel 2 neu is (Ffynhonnell: llythyr ariannu Llywodraeth Cymru heb ei gyhoeddi i Benaethiaid Addysg Bellach, 31 Ionawr 2019).

At hynny, gostyngwyd y Grant Dysgu Cymunedol sy’n ariannu Dysgu Oedolion yn y Gymuned 37.5% yn 2014/15, ond erbyn hyn mae’n parhau i fod yn sefydlog yng nghyllideb 2018-19 ar £4.3 miliwn.

Mae Llywodraeth Cymru, yn ei strategaeth Dysgu Oedolion yng Nghymru yn 2016 yn nodi pa fath o ddarpariaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned y byddai'n ei hariannu yn y dyfodol, gan nodi ei bod yn bwriadu:

Sicrhau bod darpariaeth wedi’i hariannu yn cael ei thargedu at y rhai â’r angen mwyaf, gyda phwyslais clir ar fynd i’r afael ag anghenion Sgiliau Hanfodol, Llythrennedd Digidol ac ESOL (Saesneg fel Ail Iaith).

System cymorth ariannol myfyrwyr “un radd” Cymru

Nid yw myfyrwyr (gyda rhai eithriadau) sy’n dymuno astudio ar gyfer cymhwyster addysg uwch sydd ar yr un lefel neu’n is nag un sydd ganddynt eisoes, fel arfer yn gymwys i gael cyllid pellach i fyfyrwyr hyd yn oed os nad ydynt wedi defnyddio eu hawl blaenorol – yr enw arno yw’r rheol Cymhwyster Lefel Cyfwerth, neu ELQ. Mae hon yn rheol arwyddocaol ar gyfer dysgwyr sy’n oedolion gan eu bod, wrth gwrs, yn llawer mwy tebygol o feddu ar gymhwyster blaenorol a fyddai’n sbarduno rheol “ELQ”.

Mae’r rheol “ELQ” yng Nghymru yn debyg i’r rheol yn Lloegr lle y gwnaeth Adroddiad Panel Annibynnol Diweddar ar yr Adolygiad o Addysg a Chyllido Ôl-18 (sy’n cael ei alw yn adolygiad Augar) argymell adolygiad y dylid ei ddileu, gan egluro:

These ELQ restrictions are both complex and very unusual: they do not, for example, exist in Canada, Australia or New Zealand, whose HE systems are quite similar to England’s, as discussed further below. They make it difficult to change subject and difficult to retrain

Yn ogystal, argymhellodd Adolygiad Diamond yn 2015, a oedd yn argymell y pecyn cymorth myfyrwyr presennol, y dylid dileu’r rheol ELQ. Fodd bynnag, gwrthodwyd hyn gan Lywodraeth Cymru yn ei hymateb i'r adroddiad, gan ddweud:

we have a number of concerns about the stability and sustainability of a system that removes existing restrictions on previous equivalent or lower qualifications (ELQs)

Y Dyfodol

Wrth edrych at y dyfodol, cytunodd y Gweinidog Addysg a’r Prif Weinidog ym mis Rhagfyr 2018 i edrych ar sut y gallant gyflwyno hawl newydd yng Nghymru i ddysgu gydol oes, gan fuddsoddi yn y sgiliau sydd eu hangen ar bobl drwy gydol eu bywydau.

Ar yr un pryd, gwnaeth Llywodraeth Cymru lansio a chau ymgynghoriad ar gyflwyno Dysgu Oedolion yn y Gymuned ond nid yw eto wedi ymateb i'w ganfyddiadau.

Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bod yn treialu Cyfrifon Dysgu Personol o fis Medi 2019 a fydd yn caniatáu i weithwyr “ariannu hyfforddiant galwedigaethol personol mewn sectorau lle mae prinder sgiliau, gan gynnwys y meysydd digidol a STEM”.

Ymhellach i’r tymor canolig, mae gan Lywodraeth Cymru nod polisi ehangach o greu corff ariannu a chynllunio strategol newydd ar gyfer y sector addysg drydyddol ôl-16 a fyddai'n dwyn ynghyd addysg uwch, addysg bellach, prentisiaethau, Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac o bosibl dosbarthiadau chweched dosbarth mewn ysgolion. Disgwylir i'r corff hwn gael ei sefydlu erbyn 2023 drwy gyflwyno Bil Hyfforddiant, Addysg ac Ymchwil Ôl-orfodol (PCETR) erbyn mis Mai 2021.


Erthygl gan Phil Boshier, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru