Cyhoeddiad newydd: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol

Cyhoeddwyd 21/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol wedi cael llawer o sylw cyhoeddus a gwleidyddol yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig. Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Bil i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn cael ei gyflwyno o fewn 12 mis. Cyhoeddwyd y Bil Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) drafft ar 1 Hydref 2018 a'i nod yw gwahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru, a hynny ar sail foesegol.

Mae'r papur briffio hwn, a gyhoeddir cyn i'r Bil gael ei gyflwyno, yn canolbwyntio ar y cefndir i’r polisi ac ar y materion sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru a gweddill y DU.

Cyhoeddiad Newydd: Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (PDF, 784KB)


Erthygl gan Holly Tipper a Katy Orford, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae Ymchwil y Senedd yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Holly Tipper gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau.