Bil Deddfwriaeth (Cymru): Newidiadau y cytunwyd arnynt yng Nghyfnod 2

Cyhoeddwyd 25/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cynhaliwyd trafodion Cyfnod 2 Bil Deddfwriaeth (Cymru) (“Y Bil”) yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (“Y Pwyllgor”) ar 13 Mai. Cyfnod 2 yw'r cyfle cyntaf i Aelodau'r Cynulliad ddiwygio’r Bil.

Cyflwynwyd y Bil am y tro cyntaf yn y Cynulliad ar 3 Rhagfyr 2018. Mae’n gwneud darpariaeth ynghylch dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru, ac yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidogion Cymru gymryd camau i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Adroddiad Cyfnod 1 ar 26 Mawrth a chynhaliwyd dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 2 Ebrill.

Newidiadau allweddol a wnaed yng Nghyfnod 2

Mae Adran 2 o’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen weithredu a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ar gyfer pob tymor y Cynulliad. Rhaid i bob rhaglen gynnwys gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith wedi’i chodeiddio a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg.

Diwygiwyd y Bil yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod yn rhaid i weithgareddau o dan y rhaglen hefyd hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru. Roedd y diwygiad hwn yn seiliedig ar nawfed argymhelliad y Pwyllgor yn ei adroddiad Cam 1 sy’n nodi:

Dylid diwygio’r Bil fel bod y gweithgareddau arfaethedig sydd wedi’u bwriadu i hyrwyddo ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru yn cael eu cynnwys fel dyletswydd o dan adran 2(3) yn hytrach na bod yn ddewisol o dan adran 2(4).

Argymhellodd y Pwyllgor hefyd y dylid diwygio’r Bil fel ei bod yn ofynnol i’r Cwnsler Cyffredinol adrodd i’r Cynulliad yn flynyddol ar y cynnydd a wnaed o dan y rhaglen, yn lle o bryd i’w gilydd fel y’i drafftiwyd yn wreiddiol. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru welliant i'r perwyl hwn a dderbyniwyd wedi hynny yn ystod trafodion Cyfnod 2.

Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Pwyllgor ym mis Ionawr i roi manylion ynghylch sut y gallai’r Bil fod yn gyfle i wneud darpariaeth ar gyfer dehongli deddfwriaeth ddwyieithog. Yn ei lythyr dywedodd:

Mae adran 156(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) yn ei gwneud yn glir bod y fersiynau Cymraeg a Saesneg o ddeddfwriaeth sy'n cael ei phasio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu a wneir gan Weinidogion Cymru yn gyfartal. (…)

… fy marn i ar hyn o bryd yw y dylem ailddatgan adran 156(1) er mwyn iddi fod ar gael yn ein deddfwriaeth ar ddehongli deddfwriaeth, yn hytrach nag yn y ddogfen sydd, yn ei hanfod, yn ddogfen gyfansoddiadol.

Ni chanfu'r Pwyllgor reswm i anghytuno â'r dull hwn, “yn enwedig gan fod y Cwnsler Cyffredinol wedi nodi y byddai ailddatgan darpariaeth Deddf 2006 wedyn yn hwyluso’r broses o gynhyrchu canllawiau i’r llysoedd ac i ddefnyddwyr eraill deddfwriaeth”.

Yna, cyflwynodd y Cwnsler Cyffredinol welliant yn ychwanegu adran newydd i’r Bil sy'n atgynhyrchu adran 156 o Ddeddf 2006 ac sy’n nodi, pan fo Deddf Cynulliad neu is-offeryn Cymreig yn cael ei ddeddfu yn Gymraeg ac yn Saesneg, bod gan y ddwy iaith statws cyfartal i bob diben. Mae’r Memorandwm Esboniadol diwygiedig i'r Bil yn nodi:

Ystyr hyn yw mai cynnwys y ddau destun sy’n mynegi’r gyfraith yn llawn ac nid un testun yn unig.

Ymrwymiadau eraill

Yn ystod trafodion Cyfnod 2 ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol i adolygu effeithiolrwydd y Bil hanner ffordd drwy'r rhaglen weithredu gyntaf a gynlluniwyd i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. O ganlyniad, diwygiwyd y Memorandwm Esboniadol ac ychwanegwyd paragraffau newydd i gwmpasu adolygiad ôl-weithredu. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys:

… manylion goblygiadau ariannol ac adnoddau darparu'r rhaglen gyntaf a fydd yn anelu at wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a chostau eraill sy'n codi wrth roi'r Ddeddf ar waith.

Mae Suzy Davies AC wedi cyflwyno gwelliant cyn dadl Cyfnod 3 sy'n ceisio rhoi dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi adroddiad ar yr adolygiad hwnnw a'i osod gerbron y Cynulliad cyn diwedd 2023.

Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i’r Cwnsler Cyffredinol roi eglurhad clir yn ystod dadl Cyfnod 1 o ran ystyr hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedodd ef mewn ymateb:

Os ydyw am fod yn hygyrch, rhaid i gyfraith Cymru fod yn glir ac yn sicr ei heffaith, a rhaid iddi hefyd fod yn hawdd ei defnyddio. Dylai hyn fod yn wir yn achos darpariaethau Deddfau ac Offerynnau Statudol unigol, ond hefyd yn achos Deddfau ac Offerynnau Statudol yn gyfan – yr holl gyfraith mewn maes penodol a'r llyfr statud yn ei gyfanrwydd.

Ymrwymodd y Cwnsler Cyffredinol hefyd i gyhoeddi datganiad sefyllfa ynghylch cydgrynhoi a chodeiddio ar ôl i’r Bil gael ei basio, a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth o ran ystyr “hygyrchedd cyfraith Cymru”.

Cyn trafodion Cyfnod 3, cyflwynodd Dai Lloyd AC welliant i'r Bil sy'n ceisio diffinio ystyr “hygyrchedd cyfraith Cymru” ar wyneb y ddeddfwriaeth.

Yn ogystal, mae Suzy Davies AC wedi cyflwyno gwelliant yn ymwneud â diffiniadau hefyd. Mae'n nodi y byddai codeiddio cyfraith Cymru yn golygu “mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd” a “[th]refnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw”. Yn ystod dadl Cyfnod 1 mynegodd bryderon bod ansicrwydd ynghylch beth yw ystyr codeiddio. Fel yr amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor, mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at godeiddio yn golygu trefnu a chyhoeddi'r gyfraith drwy gyfeirio a chynnal system lle mae'r gyfraith honno'n cadw ei strwythur yn hytrach na thyfu, ond clywodd y Pwyllgor farn wahanol gan randdeiliaid o ran yr hyn y gallai ei olygu.

Materion heb eu datrys

Mynegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru mewn llythyr dyddiedig 5 Rhagfyr bryderon ynghylch a yw'r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad ac a allai creu Deddf ychwanegol yn ymwneud â dehongli deddfwriaeth wneud y gyfraith yn llai hygyrch. Ailadroddodd Cyfreithiwr Cyffredinol Llywodraeth y DU y pryderon hyn mewn llythyr at y Cwnsler Cyffredinol ar 25 Ebrill.

Cynhelir Cyfnod 3 y Bil heddiw pan gaiff y Cynulliad cyfan gyfle i ddiwygio'r Bil yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn.


Erthygl gan Manon George, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru