Addysg

Bagloriaeth y Dyfodol – beth mae pobl yn ei feddwl am Fagloriaeth Cymru?

Ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2019, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Bagloriaeth i'r Dyfodol, Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (Ebrill 2019).

Amcangyfrif o amser darllen: 3 Munud

01 Gorffennaf 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mercher 3 Gorffennaf 2019, bydd dadl yn y Cyfarfod Llawn ynghylch adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Bagloriaeth i’r Dyfodol, Statws Cymhwyster Bagloriaeth Cymru (Ebrill 2019) (PDF 718KB).

Beth yw Bagloriaeth Cymru?

Cafodd cymhwyster gwreiddiol Bagloriaeth Cymru ei dreialu am y tro cyntaf ym mis Medi 2003, a’i gyflwyno yn holl ysgolion a cholegau Cymru ym mis Medi 2007.   Roedd yr Adolygiad o gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru (PDF 293KB) (Tachwedd 2012) gan Lywodraeth Cymru yn cydnabod nifer o gryfderau ym Magloriaeth Cymru, ond roedd yn argymell y dylid ei adolygu a’i wneud yn fwy trylwyr. Cyflwynwyd Bagloriaeth Cymru ar ei newydd wedd ym mis Medi 2015.

Mae’r fagloriaeth hon yn dra gwahanol i’w rhagflaenydd. Mae’n gymhwyster trosfwaol sy’n ceisio helpu i baratoi myfyrwyr rhwng 14 a 19 oed ar gyfer cyflogadwyedd, astudio pellach a bywyd.

Caiff Bagloriaeth Cymru ei dyfarnu ar lefelau Sylfaen, Cenedlaethol ac Uwch.

Y Dystysgrif Her Sgiliau

Er mwyn ennill Bagloriaeth Cymru, mae’n rhaid i fyfyrwyr gyflawni’r Dystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau mewn:

  • Cymraeg neu Saesneg Iaith, a
  • Mathemateg neu Fathemateg-Rhifedd; a
  • dewis o gymwysterau ategol fel TGAU, Safon Uwch neu gymwysterau galwedigaethol. 

Mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn ganolog i Fagloriaeth Cymru. Mae pedair cydran iddi: y Prosiect Unigol; yr Her Menter a Chyflogadwyedd; yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang; a Her y Gymuned.

Ar y lefel Uwch, mae’r Dystysgrif Her Sgiliau yn gyfwerth o ran maint ac ymdrech i Safon Uwch. Mae hefyd yn cael ei graddio yn yr un modd ac mae ganddi’r un nifer o bwyntiau tariff UCAS.

Yn 2017, comisiynwyd adolygiad o’r Dystysgrif Her Sgiliau gan Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol.  Ar 23 Ebrill 2018, cyhoeddwyd yr adroddiadAdolygiad o gynllun a model asesu’r Dystysgrif Her Sgiliau, a’i lle o fewn Bagloriaeth Cymru, (PDF 1,103KB).

O ganlyniad, mae Cymwysterau Cymru wedi sefydlu Grwpiau Dylunio ac Ymarferwyr i helpu i ddatblygu ac ystyried cynigion ar gyfer newid y Dystysgrif Her Sgiliau. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

Ymchwiliad y Pwyllgor

Roedd y Pwyllgor yn ymwybodol o ganfyddiadau negyddol am Fagloriaeth Cymru, ac roedd eisiau dysgu pa mor dda y mae dysgwyr, rhieni, ysgolion, colegau, prifysgolion a chyflogwyr yn ei deall ac yn ei gwerthfawrogi.  Roedd hefyd eisiau deall a yw Bagloriaeth Cymru yn cael effaith ar bynciau eraill yn y cwricwlwm ac ar ddarpariaeth addysg yn fwy cyffredinol. 

Clywodd y Pwyllgor amrywiaeth o safbwyntiau gan ddysgwyr fod Bagloriaeth Cymru yn cymryd llawer o amser ac nad yw myfyrwyr yn gweld gwerth y cymhwyster.  Roedd dysgwyr eraill o’r farn bod y cymhwyster yn fuddiol i’w dysgu neu eu cyflogaeth yn y dyfodol, er bod rhai ond yn gwerthfawrogi hyn wrth edrych yn ôl.

Canfu’r Pwyllgor fod prifysgolion yn trin Bagloriaeth Cymru yn wahanol wrth wneud penderfyniadau ynghylch derbyn myfyrwyr.   Mae rhai yn ei thrin fel cymhwyster cyfwerth â Safon Uwch, tra bod eraill yn cydnabod ei fod yn ddefnyddiol ar gyfer datganiad personol myfyriwr sy’n ategu ei gais prifysgol, ac mae rhai prifysgolion yn lleihau’r graddau sy’n ofynnol mewn pynciau Safon Uwch eraill os yw myfyriwr hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru.

Canfu’r Pwyllgor hefyd fod Bagloriaeth Cymru yn cael ei chyflwyno mewn ffordd anghyson. Mae gan rai ysgolion gydgysylltwyr penodedig, ond mewn ysgolion eraill mae’n cael ei haddysgu gan athrawon sydd ag amser sbâr yn eu hamserlenni.

Clywodd y Pwyllgor fod dryswch ynghylch a yw Bagloriaeth Cymru yn orfodol i bob dysgwr, o ystyried polisi mabwysiadu cyffredinol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob ysgol a choleg fod mewn sefyllfa i gynnig Bagloriaeth Cymru ac y dylai fod gan fyfyrwyr hawl i’w hastudio.

Ar y cyfan, roedd y Pwyllgor yn nodi, er ei bod yn amlwg bod rhinwedd mewn astudio Bagloriaeth Cymru, fod y ffordd y mae’n cael ei chyflwyno a’i hysbysebu ar hyn o bryd yn cael effaith andwyol ar ei gwerth gwirioneddol a thybiedig.

Ymatebion i adroddiad y Pwyllgor

Gwnaeth y Pwyllgor naw argymhelliad i Lywodraeth Cymru.  Derbyniodd Llywodraeth Cymru wyth o’r argymhellion a derbyniodd un ohonynt mewn egwyddor (PDF 410KB).

Argymhellodd y Pwyllgor y dylai Cymwysterau Cymru ystyried ar frys a yw eu hunig swyddog cyswllt addysg uwch yn ddigonol i gael darlun o’r sefyllfa mewn addysg uwch mewn perthynas â Bagloriaeth Cymru a chodi ymwybyddiaeth ohoni ar draws y sector. Mewn ymateb, dywedodd Cymwysterau Cymru (PDF 141KB) mai cymharol newydd yw swydd y swyddog cyswllt a’i bod yn rhy fuan i ystyried penodiad ychwanegol, ond y bydd yn cadw llygad ar hyn. 

Mae’r Pwyllgor am weld datganiad cliriach gan Lywodraeth Cymru am ei gweledigaeth ar gyfer Bagloriaeth Cymru, ac am y disgwyliadau a’r adnoddau sydd eu hangen i’w chyflawni. Hefyd, fe wnaeth y Pwyllgor argymell ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o fanteision y cymhwyster ymhlith busnesau a sefydliadau addysg uwch.


Erthygl gan Sian Hughes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru