Darparu mwy o gartrefi fforddiadwy i Gymru

Cyhoeddwyd 05/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyhoeddwyd adroddiad terfynol yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai fforddiadwy ar 1 Mai 2019. Ddydd Mawrth 9 Gorffennaf, bydd Julie James AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a wnaed gan y panel arbenigol a gynhaliodd yr Adolygiad. Mae'r blog hwn yn tynnu sylw at rai o brif argymhellion yr Adolygiad. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y rheswm dros gomisiynu'r Adolygiad, a’r hyn y mae tai fforddiadwy yn ei olygu mewn gwirionedd, beth am ddarllen ein blog o fis Mehefin 2018: Be nesa’ ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru?

Roedd gan yr Adolygiad gylch gwaith eang iawn a oedd yn adlewyrchu cymhlethdod ein system dai, a’r effaith y mae tai fforddiadwy o ansawdd da yn ei chael ar nodau polisi cymdeithasol ehangach. Mae'r nodau hynny, fel gwella canlyniadau iechyd, addysg a chyflogaeth, bron yn amhosibl eu cyflawni pan fo pobl yn byw mewn tai sy’n orlawn, o ansawdd gwael neu’n anfforddiadwy. Neu, wrth gwrs, y bobl nad oes ganddynt gartref o gwbl. Nodwyd yr angen i’r Adolygiad fod yn eang ei gwmpas gan Lynn Pamment, Cadeirydd y panel a oedd wedi’i gynnal, yn ei rhagair i’r adroddiad terfynol.

Mae cylch gwaith yr adolygiad yn eang iawn, a hynny’n fwriadol, oherwydd, fel Panel roeddem o’r farn bod angen cynnal adolygiad cyfannol. Ni fyddai wedi bod o fudd mynd ati i ystyried gwahanol feysydd ar wahân, ac ni fyddai hynny’n arwain at y newid radical sydd ei angen mewn rhai meysydd.

Felly, beth yw'r argymhellion a wnaed gan yr Adolygiad, a pha effaith y gallent ei chael?

Nodir rhai o'r argymhellion allweddol isod.

Data gwell

Mae datblygu polisi effeithiol yn dibynnu ar ddata cadarn ac mae'r Adolygiad yn galw am ddealltwriaeth well o anghenion tai yng Nghymru. Mae'r panel am i awdurdodau lleol gael eu gorfodi i ddarparu Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol gan gadw at amserlen gyson, ac y dylid eu diweddaru bob yn ail flwyddyn gan ddefnyddio methodoleg a data cyson.

Dyfodol di-garbon

Mae'r adroddiad terfynol yn amlinellu sut mae argymhellion yr Adolygiad yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gynnwys ei phum ffordd o weithio a saith nod llesiant. Mae hyn yn cynnwys argymhelliad y dylai’r holl gartrefi fforddiadwy newydd fod bron yn ddi-garbon, a dylid cynnig rhywfaint o gyllid yn amodol ar landlordiaid cymdeithasol yn cyflwyno rhaglen gyflymach o ddatgarboneiddio ar gyfer eu stoc dai bresennol. Yn yr un modd, mae'r Adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth sy'n mapio sut y gall dulliau modern o adeiladu a gweithgynhyrchu oddi ar y safle gyfrannu at y nod o ddarparu’r cartrefi sydd bron yn ddi-garbon hynny.

Polisi rhent tymor hwy

Rhoddwyd sylw i’r polisi rhent tai cymdeithasol hefyd, ac argymhellodd y panel arbenigol y dylid rhoi polisi pum mlynedd ar waith o 2020-2021. Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i'r Adolygiad ystyried “…sut y gall polisi rhent cynaliadwy helpu i bennu fforddiadwyedd hirdymor i denantiaid a hyfywedd datblygiadau tai cyfredol a newydd”. Roedd yr Adolygiad yn gallu ystyried canfyddiadau'r gwaith ymchwil a arweiniwyd gan Brifysgol Heriot Watt, Caeredin a oedd yn edrych ar sut mae polisi rhent presennol Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei amcanion. Er bod gwaith ymchwil Heriot Watt wedi canfod bod y polisi rhent yng Nghymru, ar y cyfan, yn cyflawni ei amcanion, tynnodd sylw hefyd at rai tensiynau yn y system bresennol, gan gynnwys cyfle i ymgysylltu’n well ac mewn modd mwy ystyrlon â thenantiaid. Mae'r sylwadau hynny ynghylch ymgysylltu â thenantiaid yn cyd-fynd â gwaith a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn 2016-17 ac ymrwymiadau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Llywodraeth Cymru i roi tenantiaid wrth wraidd y broses o reoleiddio cymdeithasau tai.

Oes newydd ar gyfer tai cyngor?

Mae gallu awdurdodau lleol i ddechrau adeiladu nifer sylweddol o gartrefi newydd yn symlach yn awr gan fod cyfyngiad benthyca’r Cyfrif Refeniw Tai bellach wedi’i godi. Mae'r Adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r hyblygrwydd newydd hwn, ac y dylai gynnig cymorth ariannol lle y bo angen.

O ran gwneud y defnydd gorau o dir y sector cyhoeddus, mae'r Adolygiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu corff hyd braich a allai weithredu fel canolfan ar gyfer rheoli tir y sector cyhoeddus a gwasanaethau proffesiynol. Mae'r Adolygiad yn awgrymu y gellid rhoi pwerau prynu gorfodol hefyd i'r corff newydd hwn gyflawni ei amcanion.

Ariannu cartrefi fforddiadwy

Mae argymhellion adroddiad terfynol yr Adolygiad sy’n ymwneud ag ariannu tai fforddiadwy yn canolbwyntio ar fodelau ariannu tymor hwy. Cynigir model Partneriaethau Cyflenwi Tai Fforddiadwy pum mlynedd hyblyg newydd yn seiliedig ar egwyddorion tegwch, ansawdd a sicrhau bod tryloywder ar grantiau er mwyn sicrhau gwerth am arian. Byddai cyfuno ffrydiau cyllido presennol a hwyluso’r defnydd o gyllid preifat, yn ogystal ag atebion ariannu eraill, yn rhan o'r model newydd arfaethedig.

Yn olaf, mae'r Adolygiad yn argymell y dylid adolygu'r cyllid a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol sydd â stoc dai (Lwfans Atgyweiriadau Mawr) ac i gymdeithasau tai a sefydlwyd yn dilyn trosglwyddo stoc taliadau gwaddoli neu gyllid llenwi bwlch. Mae’r Adolygiad yn awgrymu y dylai hyn ddigwydd “cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn” , ac y dylai cyllid yn y dyfodol fod yn gysylltiedig â datgarboneiddio a sicrhau gwerth am arian.

Y camau nesaf

Gall gweithredu unrhyw argymhellion a dderbynnir gymryd amser. Mewn rhai achosion, bydd angen gwneud rhagor o waith ac adolygiadau, a bydd hyn yn siŵr o greu llwythi gwaith ychwanegol i randdeiliaid, gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol a Llywodraeth Cymru, ar adeg pan fo adnoddau eisoes dan bwysau. Mae'r panel yn nodi ei fod “…wedi ystyried y costau gweithredu tebygol yn erbyn buddiannau unrhyw gamau gweithredu.…” ond ei fod yn ystyried y bydd y buddiannau a geir yn sgil gweithredu'r argymhellion yn drech na'r costau trosiannol.

Fel unrhyw adolygiad eang, bydd yn cymryd amser i benderfynu a yw bwrw ymlaen â’r argymhellion hyn wedi bod yn llwyddiannus wrth gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy. Mae’r llwyddiant yn dibynnu ar Lywodraeth Cymru, yn ogystal â’r rhanddeiliaid o'r sectorau cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector yn cydweithio i ddarparu cartrefi fforddiadwy.

Gall unrhyw un sy'n chwilio am ystadegau ar dai fforddiadwy yng Nghymru edrych ar ddatganiad ystadegol diweddaraf Llywodraeth Cymru ar y pwnc, Darpariaeth Tai Fforddiadwy, Hydref 2018. Mae rhagor o fanylion ystadegol ar wefan Stats Cymru.


Erthygl gan Jonathan Baxter, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru