Ydy’r llwyfan yn barod…? Y diwydiannau sgrin yn aros am greu Cymru Greadigol

Cyhoeddwyd 08/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dros y degawd diwethaf, mae gwerth cynyrchiadau ffilm a theledu yng Nghymru wedi mwy na dyblu, gyda thwf yn y sector hwn yn llawer mwy na’r hyn a welir yn y DU gyfan. Roedd ymchwiliad diweddar i Gynyrchiadau ffilm a theledu mawr yng Nghymru gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn dathlu’r twf, tra’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth i dyfu’r sector ymhellach, yn arbennig y diwydiant ffilmiau Cymreig cynhenid.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y rhan fwyaf o argymhellion y Pwyllgor. Fodd bynnag, y cyfrwng y mae’r Llywodraeth wedi’i nodi ar gyfer gweithredu’r argymhellion hyn yw Cymru Greadigol, corff arfaethedig gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi’r diwydiannau creadigol. Ers iddo gael ei grybwyll mewn dogfen strategaeth gan Lywodraeth Cymru yn 2016, mae Cymru Greadigol yn dal heb ei sefydlu.

Tyfiant mawr, o sylfaen isel

Ers 2007, mae twf yn y diwydiannau sgrin wedi bod yn sylweddol gyflymach yng Nghymru nag ar draws y DU; er ei fod o sylfaen sylweddol is. Fodd bynnag, mae cyfran y sector yng Nghymru yn gymharol fach o hyd o sector y DU gyfan o ystyried maint y boblogaeth.

  • Ers 2007, mae Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y sector cynyrchiadau ffilm, fideo a rhaglenni teledu yng Nghymru wedi tyfu o £62 miliwn i £200 miliwn yn 2017. Mae hyn yn gynnydd o 223%.
  • Yn y DU gyfan, mae gwerth ychwanegol gros yn y maes hwn wedi cynyddu o £7biliwn yn 2007 i £12.2 biliwn yn 2017. Mae hyn yn gynnydd o 73%.
  • Rhwng 2007 a 2017, mae gwerth ychwanegol gros Cymru yn y maes hwn wedi cynyddu o 0.9% o gyfanswm y DU i 1.6%.

Yr angen am “etifeddiaeth gynaliadwy hirdymor i Gymru”

Yn ystod y degawd hwn o dwf, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu nifer o fentrau i hybu’r sector. Mae wedi buddsoddi mewn stiwdios ffilm, fel Pinewood a Wolf Studios yng Nghaerdydd, ac roedd ganddi Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau i fuddsoddi mewn prosiectau ffilm a theledu unigol.

Ond roedd rhanddeiliaid yn teimlo bod diffyg ffocws. Dywedodd Screen Alliance Wales (asiantaeth ddatblygu ar gyfer y diwydiant sgrin a sefydlwyd gan y cwmni cynhyrchu Bad Wolf) wrth y Pwyllgor fod prosiectau yn cael eu hariannu ar hap yn seiliedig ar broffil y cwmni ond heb edrych ar etifeddiaeth gynaliadwy hirdymor i Gymru.

Felly galwodd y Pwyllgor ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth sgrin yn nodi sut y gall y diwydiant yng Nghymru:

  • fod yn ddiogel yn ariannol;
  • datblygu busnesau bach i fanteisio ar gynyrchiadau ar raddfa fwy;
  • denu cynyrchiadau gydag ystod o werthoedd ac amrywiaeth ddiwylliannol;
  • cefnogi cynyrchiadau Cymraeg a chynyrchiadau Cymreig amlwg eraill gyda’r bwriad o gynyddu amlygrwydd y Gymraeg a’i diwylliant ar y llwyfan rhyngwladol; a
  • chymryd cyfrifoldeb am nodi a lliniaru bylchau sgiliau drwy ddysgu ffurfiol ac anffurfiol; a sut y caiff cyfleoedd gwaith a dysgu eu hyrwyddo er mwyn sicrhau bod cronfa dalent amrywiol ar gael.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ar gyfer strategaeth sgrin, ynghyd â 12 argymhelliad arall o’r 17 yn yr adroddiad. Fodd bynnag, gwnaeth hynny – fel y gwnaeth gyda’r 8 argymhelliad arall – drwy gyfeirio at Gymru Greadigol, gan ddweud “Bydd strategaeth gadarn i gefnogi ein diwydiant sgrin yn rhan hanfodol o gynlluniau ehangach Cymru Greadigol”.

Cymru Greadigol: a yw’r llwyfan yn barod?

Mae hanes Cymru Greadigol yn mynd yn ôl i o leiaf 2016, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru Golau yn y Gwyll: Gweledigaeth ar gyfer Diwylliant yng Nghymru. Roedd yn cyhoeddi cynllun Ysgrifennydd y Cabinet “i sefydlu ‘Cymru Greadigol’ i gefnogi’r diwydiannau creadigol”. “Bydd y corff newydd hwn”, dywedodd, “yn cynnal o leiaf 850 o swyddi a £40 miliwn y flwyddyn o wariant”.

Ym mis Tachwedd 2018, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wrth y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y byddai Cymru Greadigol yn cael ei sefydlu yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf. Ym mis Ebrill 2019, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog ddatganiad llafar yn rhoi diweddariad ar gynigion Cymru Greadigol, gan ddatgan y byddai “wedi'i sefydlu'n glir o fewn y Llywodraeth yn ystod y ddeufis nesaf.”

Er gwaethaf adroddiadau bod swyddogion y Llywodraeth wedi bod yn cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant i drafod y corff newydd, mae Cymru Greadigol yn dal heb ei sefydlu.

Llywodraeth Cymru a Pinewood: perthynas “nad oedd yn cynrychioli gwerth da am arian”

Pan ddechreuodd y Pwyllgor ei ymchwiliad yng ngwanwyn 2018, roedd Llywodraeth Cymru newydd ddechrau perthynas â Stiwdios Pinewood, ac nid oedd llawer amdano yn hysbys i’r cyhoedd. Roedd y berthynas hon yn cynnwys Pinewood yn gweithredu stiwdio yng Ngwynllŵg, y tu allan i Gaerdydd, ac yn rheoli cronfa buddsoddi sgrin – y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau – ar ran Llywodraeth Cymru.

Yn ystod yr ymchwiliad, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad a oedd yn rhoi goleuni anghyfforddus ar y berthynas hon (ac yn dilyn hynny roedd hefyd yn destun adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus). Datgelodd yr archwilwyr fod Llywodraeth Cymru wedi talu Pinewood i redeg y stiwdio, mewn perthynas y byddai swyddogion yn cyfaddef nad oedd yn cynrychioli gwerth da am arian. Roedd Llywodraeth Cymru yn ei chael hi’n anodd gwario o’i Chyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau, ac nid oedd ei hamcangyfrifon adennill cychwynnol wedi’u cyflawni.

Cyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau: heb gyflawni ei photensial masnachol eto

Roedd y Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau (MIB), a lansiwyd yn 2014, yn gronfa gwerth £30 miliwn, a fyddai ar gael dros bum mlynedd ar gyfer buddsoddi ym maes datblygu, cynhyrchu a dosbarthu ffilm a theledu. Ar ôl i swyddogion Llywodraeth Cymru nodi pryderon am wrthdaro buddiannau, daeth rhan Pinewood yn y gronfa i ben yn 2017.

Roedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu adennill ei buddsoddiadau drwy ad-daliadau benthyciadau ac adenillion ar ecwiti, ac i ail-fuddsoddi'r ffrydiau incwm hynny mewn prosiectau cynhyrchu pellach. Gallai hyn greu cronfa hunan-adnewyddu neu ‘fytholwyrdd’. Roedd swyddogion yn rhagweld y byddai’r MIB yn buddsoddi rhwng £12 miliwn a £15 miliwn y flwyddyn.

Yn ogystal â chreu elw ar ei fuddsoddiad, roedd yr MIB yn cynnwys meini prawf i sicrhau bod cynyrchiadau’n cael eu saethu yng Nghymru (o leiaf 50% o gynyrchiadau unigol) ac yn gwario arian yng Nghymru (o leiaf 35% o wariant nad yw’n greadigol).

Yn ei hymateb i adroddiad y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion pellach am berfformiad yr MIB. O fis Mehefin 2019, roedd £15 miliwn wedi’i fuddsoddi drwy’r gronfa, gyda dim ond £4.7 miliwn wedi’i adennill hyd yma. Roedd y prosiectau yr oedd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddynt wedi gwario o leiaf £25 miliwn yng Nghymru: heb wybod cyfanswm cyllidebau anghreadigol y cynyrchiadau hyn, mae'n amhosibl dweud a yw targed gwario yng Nghymru o 35% wedi’i gyflawni.

Er bod y ffigurau hyn yn dangos colled net o dros £10 miliwn, mae Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw llawer o’r prosiectau wedi gwireddu eu potensial masnachol eto – mae rhai yn dal i ffilmio, ac mae eraill newydd orffen cynhyrchu.

Mae’r gronfa bellach yn segur, yn aros i Cymru Greadigol gael ei lansio. Mae natur buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y dyfodol mewn cynyrchiadau sgrin – fel gyda chymaint o gymorth gan Lywodraeth Cymru i’r sector – yn aros i Cymru Greadigol gael ei greu.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru