Amserlen Brexit

Cyhoeddwyd 11/07/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ym mis Ebrill 2017, cyhoeddodd y Gwasanaeth Ymchwil ei linell amser Brexit gyntaf, gan nodi'r prif ddigwyddiadau o ran ymadawiad y DU â'r UE, Wrth gyhoeddi'r llinell amser gyntaf honno, gwnaethom ymrwymo i ddiweddaru'r amserlen a'i datblygu wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt. Cyhoeddasom y bedwaredd fersiwn ym mis Hydref 2018. Mae pumed fersiwn o'r llinell amser isod. Mae'r llinell amser yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae'n debygol o gael ei diwygio i gynnwys datblygiadau yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Ers y fersiwn ddiwethaf, mae Llywodraeth y DU a'r UE wedi dod i'r cwblhau'r Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol yn nodi'r telerau ar gyfer ymadawiad y DU â'r UE ac yn amlinellu'r prif ddyheadau ar gyfer eu perthynas yn y dyfodol. Mae angen i Senedd y DU gymeradwyo'r Cytundeb Ymadael, ond hyd yn hyn y mae wedi cael ei wrthod mewn tair pleidlais ar wahân. Ar 10 Ebrill, cytunodd yr UE27 a'r DU ar estyniad pellach i Erthygl 50 tan 31 Hydref 2019. Ar 24 Mai, cyhoeddodd Theresa May, Prif Weinidog y DU, y byddai'n ymddiswyddo ddydd Gwener 7 Mehefin. Cychwynnodd y Blaid Geidwadol y broses i ethol arweinydd ddydd Llun 10 Mehefin. Cyhoeddir y Prif Weinidog newydd ar 23 Gorffennaf.

Yn niffyg trefniant arall, y sefyllfa gyfreithiol yw y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb os nad yw Senedd y DU yn cymeradwyo'r Cytundeb Ymadael ac os na sicrheir estyniad i Erthygl 50 erbyn 31 Hydref 2019. Er mwyn i'r Cytundeb Ymadael gael ei weithredu mewn cyfraith ddomestig, rhaid i ddeddfwriaeth i'r perwyl hwnnw gael ei phasio cyn 31 Hydref.

Os bydd y DU yn gadael gyda chytundeb ar waith, bydd mewn cyfnod pontio. Ar hyn o bryd, bydd y cyfnod hwnnw yn para o 31 Hydref 2019 tan 31 Rhagfyr 2020. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd angen negodi a chytuno ar berthynas y DU a'r UE ar gyfer y dyfodol. Bydd cyfraith yr UE yn parhau i fod yn gymwys yn ystod y cyfnod pontio, ond ni fydd y DU bellach yn rhan o broses yr UE ar gyfer penderfyniadau, sy'n golygu na fydd ganddi gynrychiolaeth yn sefydliadau, asiantaethau a chyrff yr UE mwyach.

Gallwch chi gael y newyddion diweddaraf am Brexit yng Nghymru o'n Diweddariadau Brexit rheolaidd ac o'n Hadroddiad Monitro Trafodaethau Brexit. Hefyd, mae'r diweddaraf am weithgareddau pob rhan o'r Cynulliad o ran Brexit ar ein gwefan: Brexit yng Nghymru.


Erthygl gan Sara Moran a Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru