Blog Cymwysterau Cymru: Arholiadau Haf 2019

Cyhoeddwyd 08/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Dyma erthygl blog gwadd gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Gweithredol Rheoleiddio Cymwysterau Cymru. Cyhoeddwyd erthygl debyg y llynedd.

Mae Cyfarwyddwr Rheoleiddio Cymwysterau Cymru, JO RICHARDS, yn cymryd golwg fanylach ar rai o’r cymwysterau TGAU sydd wedi’u sefyll gan fyfyrwyr yng Nghymru eleni.

Pa bryd bynnag y caiff canlyniadau TGAU eu cyhoeddi, mae yna ddiddordeb mawr ym mherfformiad y disgyblion ym Mathemateg, Cymraeg a Saesneg bob tro - a dwi’n siŵr na fydd eleni’n eithriad.

Tra bydd yn rhaid i ni aros nes y cyhoeddir y canlyniadau ym mis Awst, mae’n ddiddorol nodi’r cynnydd yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer pob cymhwyster.

Mae’r cyfanswm o ymgeiswyr ar gyfer TGAU iaith a llenyddiaeth yn y Saesneg a’r Gymraeg a’r ddau TGAU Mathemateg oll wedi cynyddu eleni, o’u cymharu â haf 2018.

Felly pam bod hyn?

Mae yna nifer o ffactorau, gan gynnwys cynnydd ym mhoblogaeth myfyrwyr 16 mlwydd oed a newidiadau i fesuriadau perfformiad ysgol.

Faint o fyfyrwyr sy’n sefyll yr arholiadau eleni, a beth all hyn ei olygu i’r canlyniadau pan gânt eu cyhoeddi fis Awst?

Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg - Rhifedd. Mae cyfanswm y ceisiadau ar gyfer y ddau arholiad wedi gweld cynnydd o 5,005 eleni gyda’r cyfanswm yn 34,570 ar gyfer TGAU Mathemateg ac wedi cynyddu 1,695 i 24,695 ar gyfer TGAU Mathemateg - Rhifedd. Mae’r cynnydd yn digwydd o ganlyniad i fwy o ddysgwyr yn sefyll eu harholiad ar ddiwedd Blwyddyn 11 yn hytrach na’u sefyll ynghynt.

Fodd bynnag, mae hefyd yn werth cofio bod rhai o’r dysgwyr wedi sefyll yr arholiad yn gynnar ac wedi cyflawni eu graddau’r haf diwethaf neu ym mis Tachwedd 2018 ac felly ni fyddant yn sefyll yr arholiad yr haf hwn.

Mae’r patrymau mynediad gwahanol yn debygol o gael effaith ar ganlyniadau terfynol Cymru gyfan yr haf hwn, felly mae angen cymryd fwy o ofal wrth wneud unrhyw gymariaethau arwyddocaol o un flwyddyn i’r llall.

Bydd ein cymariaethau ni yn cael eu seilio ar y canlyniadau gorau a gafwyd gan fyfyrwyr sy’n gorffen Blwyddyn 11 haf eleni. Ystyr hyn yw os cafodd myfyriwr radd well ynghynt yn y cwrs, neu ei fod wedi sefyll mewn cyfres gynharach, a heb ddychwelyd haf eleni, dyna’r radd y byddwn ni’n ei defnyddio ar gyfer ei chymharu a chanlyniadau Blwyddyn 11 o flynyddoedd blaenorol. Bydd hyn yn sicrhau fod y gymhariaeth mor deg ac mor ddilys a phosib.

Mae’r stori’n debyg ar gyfer TGAU Saesneg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Saesneg.

Mae’r niferoedd sydd wedi sefyll TGAU Saesneg Iaith wedi gweld cynnydd o 8,800 i 36,270, tra bod y rheiny sydd wedi sefyll TGAU Llenyddiaeth Saesneg wedi codi 5,220 i 29,055.

Mae’r cynnydd yma wedi’i achosi gan gynnydd yn y ceisiadau Blwyddyn 11 am TGAU Saesneg Iaith a cheisiadau Blwyddyn 10 yn TGAU Llenyddiaeth Saesneg - eto’n debygol o fod yn ymateb i’r newidiadau mewn mesuriadau perfformiad ysgol.

Mae’r newidiadau yn debygol o effeithio ar yr holl ganlyniadau eleni, felly er mwyn egluro sut y maen nhw’n cymharu gyda blynyddoedd blaenorol, byddwn yn canolbwyntio ar y plant 16 mlwydd oed, hynny yw dysgwyr Blwyddyn 11.

Mae TGAU Cymraeg Iaith a TGAU Llenyddiaeth Gymraeg hefyd wedi gweld cynnydd, er nid ar yr un raddfa. Mae cofrestriadau ar gyfer TGAU Cymraeg Iaith wedi codi 355 i 5,220, tra bod TGAU Llenyddiaeth Gymraeg wedi gweld cynnydd o 365 o ymgeiswyr i 3,695.

Stori wahanol yw hi ar gyfer y TGAU Cymraeg Ail Iaith newydd. Mae’r cymhwyster newydd hwn yn cael ei ddyfarnu am y tro cyntaf yr haf hwn, ac mae’n cymryd lle’r hen gwrs TGAU llawn a byr a’r cwrs TGAU Cymhwysol.

Mae gan y cymhwyster newydd ddwy uned llafaredd o’i gymharu ag un uned a oedd yn werth 25% yn yr hen gymhwyster. Mae’r unedau newydd hyn yn canolbwyntio’n llawer mwy ar sgiliau siarad a gwrando myfyrwyr nag a welid yn yr hen uned ar lafaredd, gan gynnwys eu gallu i ymateb yn ddigymell i sgwrs.

O ganlyniad, mae newid mawr yn nifer yr ymgeiswyr ar gyfer y TGAU Cymraeg Ail Iaith llawn eleni, o’i gymharu â 2018.

Yr haf hwn, mae cyfanswm o 19,670 o geisiadau ar gyfer y cymhwyster TGAU Cymraeg Ail Iaith eleni o’i gymharu gyda 12,115 a gwblhaodd hen gwrs llawn TGAU Cymraeg Ail Iaith yn Haf 2018.

O ystyried y gwahaniaeth mawr yn y cyfanswm a’r math o gohort sy’n ymgeisio ar gyfer y cymhwyster, ynghyd ag ystyried y newidiadau i’r asesiadau o fewn y TGAU newydd, byddwn yn disgwyl gweld newid yn y canlyniadau terfynol eleni, o’u cymharu gyda haf 2018. Mae’n bosibl y bydd ysgolion yn gweld mwy o amrywiaeth yn eu canlyniadau'r haf hwn o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol.

Gellir dod o hyd i fanylion pellach am y pwnc hwn, ac ystod o bynciau perthnasol i arholiadau eraill, yn yr adran Arholiadau 360 ar Gwefan Cymwysterau Cymru.


Erthygl gan Jo Richards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio, Cymwysterau Cymru