Data diweddaraf UCAS: Negeseuon allweddol ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru

Cyhoeddwyd 19/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Cyflwyniad

Mae UCAS yn cyhoeddi data ceisiadau addysg uwch drwy gydol y flwyddyn i gyd-fynd â'i dri phrif ddyddiad cau ar gyfer ceisiadau, a phob diwrnod yn ystod y broses glirio. Mae'r erthygl hon, a luniwyd ar ddiwrnod cyntaf proses glirio 2019, yn cyflwyno tri chanfyddiad cynnar allweddol ar gyfer y sector addysg uwch yng Nghymru.

  1. Gostyngodd y galw i astudio gyda darparwyr Cymru (fel y'i mesurir yn ôl nifer y ceisiadau) eto yn 2019 o'i gymharu â 2018 (4 y cant yn is ar adeg ysgrifennu’r erthygl). Gall hyn olygu gostyngiad yn nifer y myfyrwyr gyda darparwyr Cymru ddechrau blwyddyn academaidd 2019/20.
  2. Yn gysylltiedig â'r uchod yn ôl pob tebyg, ac efallai'n cyfrannu at y gostyngiad, y mae'r galw cynyddol ymhlith ymgeiswyr yng Nghymru i astudio y tu allan i Gymru.
  3. Mae’n debyg bod tuedd ledled y DU o alw cynyddol i astudio gyda darparwyr tariff uwch, fel y'u gelwir, a gostyngiad yn y galw am ddarparwyr tariff is yn cynyddu. Gall y duedd hon effeithio ar ddarparwyr yng Nghymru oherwydd maint a strwythur y sector. Mae hyn yn golygu y gallai unrhyw ostyngiad mewn cofrestriadau gael effaith anghymesur ar rai darparwyr.

Trafodir y canfyddiadau hyn yn fanylach isod.

Mae ceisiadau i ddarparwyr yng Nghymru wedi gostwng am y drydedd flwyddyn yn olynol, a derbyniadau hefyd

Mae nifer y ceisiadau i ddarparwyr yng Nghymru wedi gostwng 15 y cant yn raddol rhwng 2016 a 2019, o'i gymharu â gostyngiad 6 y cant yn gyffredinol yn y DU ar gyfer yr un cyfnod.

Dangosir isod nifer y ceisiadau i brifysgolion Cymru rhwng 2010 a 2019:

Yn y gorffennol, weithiau bu cydberthynas rhwng nifer ceisiadau UCAS a nifer y cofrestriadau ar gyfer gradd amser llawn gyntaf yn ystod y flwyddyn academaidd berthnasol.

Ar adeg llunio’r erthygl hon, ar ddiwrnod cyntaf y broses glirio (diwrnod canlyniadau Safon Uwch), mae data UCAS yn dangos y bu gostyngiad 4 y cant yn nifer y bobl sydd wedi sicrhau lle gyda darparwr yng Nghymru hyd yn hyn. Mae hyn yn cyfateb i'r gostyngiad 4 y cant yn nifer y ceisiadau eleni.

Os ailadroddir y gydberthynas y flwyddyn academaidd hon (ac wrth gwrs, mae’n bosibl na fydd hynny’n digwydd am resymau amrywiol), gall y sector ddisgwyl ychydig llai o gofrestriadau ac, o ganlyniad i hynny, ychydig llai o incwm o ffioedd israddedigion amser llawn.

Mae darparwyr yng Nghymru yn elwa ar y galw trawsffiniol gan bobl yn Lloegr sy'n dod i Gymru i astudio.

Mae cyfran y ceisiadau a wneir i brifysgolion Cymru o’r tu allan i Gymru i'w gweld isod, yn ogystal â sut y mae hyn wedi newid ers 2010:

Mae'r drafodaeth hon yn dangos yr ansicrwydd mawr y mae'n rhaid i ddarparwyr yng Nghymru weithio gydag ef wrth iddynt geisio pennu cyllidebau realistig/cytbwys bob blwyddyn.

Draen dawn? Mae cyfran gynyddol o geisiadau gan bobl yng Nghymru i ddarparwyr yn Lloegr

Mae'r diagram isod yn dangos bod cyfran y ceisiadau gan bobl yng Nghymru i ddarparwyr yn Lloegr wedi cynyddu ers 2010 – gan ddangos bod galw cynyddol i astudio yn Lloegr.

Unwaith eto, gan ddefnyddio data diweddaraf oll UCAS ar leoedd wedi’u sicrhau sydd ar gael ar 15 Awst, mae 45 y cant o gyfanswm y bobl yng Nghymru sydd wedi sicrhau lle mewn prifysgol wedi sicrhau’r lle hwnnw yn Lloegr.

Mae rhai’n dadlau bod y llif trawsffiniol hwn o fyfyrwyr yn cynyddu'r pwysau ariannol ar ddarparwyr Cymru gan fod cryn dipyn o ffioedd yn dilyn myfyrwyr o Gymru i'w darparwyr yn Lloegr.

Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi mai ei pholisi yw cefnogi'r myfyriwr unigol lle bynnag y mae'n dewis astudio yn y DU.

Mae mwy o bobl am astudio gyda darparwyr tariff uwch yn y DU, a llai gyda darparwyr tariff isel. Gallai hyn fod â goblygiadau i'r sector.

Mae data UCAS yn dangos tuedd ledled y DU o alw cynyddol i astudio gyda darparwyr tariff uwch, a gostyngiad yn y galw am ddarparwyr tariff is.

Mae'r siart isod yn dangos bod y newid wedi dod yn arbennig o amlwg ers 2015. Darparwyr tariff uchel yw'r rhai lle y mae angen graddau uwch ar ymgeiswyr i sicrhau cynnig neu le.

Mae data UCAS yn dangos bod y patrwm galw hwn wedi golygu bod darparwyr tariff is â llai o ymgeiswyr hyd yn hyn yn 2019 o gymharu hynny â’r un cyfnod yn 2010 (143,650 i 138,570) a bod darparwyr tariff canolig ac uwch wedi cynyddu eu niferoedd a’u cyfran dros yr un cyfnod.

I ddarparwyr Cymru, mae'n golygu y gall y gostyngiad (a drafodwyd o’r blaen) yn nifer y ceisiadau a nifer y lleoedd wedi’u sicrhau gael effaith anghymesur ar nifer fach o ddarparwyr Cymru. Nes y bydd UCAS yn cyhoeddi data lefel darparwr y flwyddyn nesaf, nid yw'n bosibl dod i gasgliad cadarn, dim ond nodi tuedd y DU ar hyn o bryd a'r posibilrwydd y bydd yr un peth yn digwydd yng Nghymru.

Casgliad

Nid yw data ceisiadau a derbyniadau UCAS yn cynrychioli’r stori gyfan ar gyfer y sector yng Nghymru – mae mathau eraill o fyfyrwyr a ffynonellau incwm eraill. Ymhellach, am resymau amrywiol, mae’n bosibl y bydd y niferoedd yn adfer erbyn i'r flwyddyn academaidd ddechrau, a bydd darparwyr yn gallu cadw mwy o'r rhai sy'n cofrestru.

Fodd bynnag, gall tuedd o alw gostyngol ar gyfer astudio yng Nghymru, llai o alw yn gyfatebol ymhlith pobl yng Nghymru i aros ac astudio yng Nghymru, a thuedd ehangach ar lefel y DU o ran grwpiau tariff, olygu y bydd gostyngiad o ran recriwtio israddedigion amser llawn yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd darlun llawnach yn dechrau dod i'r amlwg ar ôl y broses glirio ac eto ym mis Ionawr 2020, pan fydd UCAS yn cyhoeddi data ar lefel darparwr, a fydd yn dangos data prifysgolion unigol Cymru.

TROEDNODYN

Gall data UCAS roi arwydd cynnar o dueddiadau eang i brifysgolion Cymru a darpar fyfyrwyr israddedig. Dyma'r prif lwybr i’r mwyafrif helaeth o fyfyrwyr israddedig amser llawn fynd i’r brifysgol yn y DU. Fodd bynnag, dylid dehongli hyn yn ofalus am y rhesymau a ganlyn:

  • Nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yr Alban wedi'u cynnwys yn nata UCAS;
  • Nid yw data UCAS yn cynnwys nifer fawr o fyfyrwyr yr UE a myfyrwyr rhyngwladol;
  • Nid ydynt chwaith yn cynnwys myfyrwyr ôl-raddedig ac ymchwil sy'n gwneud cais y tu allan i gynllun UCAS.
  • Nid yw ffigurau ceisiadau a data lleoliadau o reidrwydd yn adlewyrchu ffigurau cofrestru terfynol oherwydd y bydd rhai ymgeiswyr llwyddiannus, am resymau amrywiol, yn gohirio eu lle neu ni fyddant yn ei dderbyn.

Erthygl gan Phil Boshier, Sara Moran & Joe Wilkes, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru