Strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru - gweledigaeth fyd-eang newydd ar gyfer Cymru?

Cyhoeddwyd 22/08/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Ryngwladol ddrafft ar gyfer ymgynghoriad, gan nodi ei blaenoriaethau a'i nodau mewn amgylchedd ar ôl Brexit. Mae wedi dweud bod y newid sylweddol yn y dirwedd ryngwladol a achosir gan Brexit yn golygu ei bod yn amser gosod gweledigaeth ryngwladol newydd ar gyfer Cymru.

Beth yw elfennau allweddol y strategaeth ryngwladol ddrafft?

Mae'r ymgynghoriad ar y strategaeth yn gofyn pedwar cwestiwn ynghylch nodau ac uchelgeisiau Llywodraeth Cymru, a bydd yn cau ar 23 Hydref. Mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi nodi y bydd angen i'r strategaeth derfynol fod â digon o hyblygrwydd i ymateb i ba bynnag senario Brexit a ddaw.

Mae gan y strategaeth ddrafft dri nod allweddol:

  • Codi proffil rhyngwladol Cymru;
  • Cynyddu allforion a mewnfuddsoddiad; ac
  • Arddangos Cymru fel cenedl sy'n gyfrifol yn fyd-eang.

Bydd y strategaeth yn ceisio dal creadigrwydd; harneisio technoleg; a nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynaliadwyedd.

Fel rhan o'i dull gweithredu, mae Llywodraeth Cymru yn cynnig:

  • Hyrwyddo tri diwydiant y cred fod Cymru yn gartref i 'ganolfannau rhagoriaeth' - lled-ddargludyddion cyfansawdd; y diwydiannau creadigol; a seiberddiogelwch.
  • Gweithio i ddatblygu'r brand 'This is Wales' presennol i gynyddu ei effaith.
  • Mentrau yn y sectorau addysg ac iechyd i hyrwyddo Cymru fel lle i astudio a gweithio.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o Gymru fel cenedl ddwyieithog, ac annog plant i ddysgu ieithoedd modern.
  • Tyfu economi Cymru drwy gynyddu allforion; blaenoriaethu marchnadoedd presennol yn Ewrop a Gogledd America a datblygu cyfleoedd newydd yn y Dwyrain Canol ac Asia; a denu mewnfuddsoddiad o safon i Gymru.
  • Buddsoddi mewn marchnata twristiaeth, sicrhau digwyddiadau mawr, a hyrwyddo enw da diwylliannol a chwaraeon Cymru i gynyddu proffil byd-eang Cymru.
  • Rhoi ffocws newydd i'r rhaglen 'Cymru o Blaid Affrica' i ganolbwyntio ar gynaliadwyedd, a'i hailenwi y rhaglen 'Cymru ac Affrica'.

Sut y mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft yn cymharu ag argymhellion y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol?

Ym mis Chwefror 2019, gwnaeth adroddiad Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad ar Perthynas Cymru ag Ewrop a’r byd yn y dyfodol nifer o argymhellion ar feysydd i'w cynnwys yn strategaeth ryngwladol Llywodraeth Cymru.

Roedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn nodi maint ei huchelgais o ran ymgysylltiad rhyngwladol Cymru a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer cyhoeddi’r strategaeth. Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad a nodi ei bod yn bwriadu cyhoeddi'r strategaeth derfynol cyn haf 2019. Wedi hynny, amlygodd y Prif Weinidog, oherwydd lefel y diddordeb yn y strategaeth, y cynhelir ymgynghoriad ac y byddai'r strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd 2019.

Galwodd y Pwyllgor hefyd am ddangosyddion perfformiad allweddol i gyd-fynd â'r strategaeth ryngwladol. Roedd ymateb Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad, gan nodi y byddai'r strategaeth yn nodi dangosyddion perfformiad allweddol, gyda rhai uchelgeisiau lefel uchel mesuradwy. Fodd bynnag, yn ei datganiad ysgrifenedig i gyd-fynd â'r strategaeth ryngwladol ddrafft, nododd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol fod yr ansicrwydd cyfredol ynghylch y senarios Brexit posibl yn golygu nad yw’n bosibl cynnwys targedau ar hyn o bryd, ac y bydd y rhain yn cael eu cynnwys mewn cynllun cyflawni dilynol.

Roedd y Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei pherthnasau dwyochrog presennol er mwyn asesu pa rai o’r perthnasau hyn y gellir eu cryfhau a’u dyfnhau yn y dyfodol, yn unol â blaenoriaethau strategol. Derbyniodd y Llywodraeth yr argymhelliad hwn, ac mae'r strategaeth ryngwladol ddrafft yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu perthnasoedd â Llydaw, Gwlad y Basg a Fflandrys.

Roedd y Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer ymgysylltu â Chymry alltud, gan gynnwys pa wledydd fydd yn cael eu blaenoriaethu. Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Yn y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n cynnig gweithio gyda Chymry alltud a chydweithredu â sefydliadau partner. Yn y flwyddyn gyntaf, bydd yn canolbwyntio ar UDA, a hefyd ar nodi pobl ddylanwadol o Gymru ledled y byd. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn mapio'r pobl ar wasgar ledled y byd, gan ddechrau gydag UDA a Japan, ac yn mapio gweithgarwch rhyngwladol Cymru i ddatblygu cronfa ddata o gysylltiadau.

Beth y mae'r rhai yn y maes wedi galw am i'r strategaeth ei gynnwys?

Cyn cyhoeddi'r strategaeth ddrafft, cododd nifer o academyddion a chynrychiolwyr sefydliadol themâu allweddol i'w hystyried.

Roedd Susie Ventris-Field, Prif Weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, yn galw ar y strategaeth ryngwladol i ddatblygu Cymru sy'n gyfrifol yn fyd-eang. Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru arddangos ei pholisïau o ran cyfrifoldeb byd-eang (sy'n un o dair nod y strategaeth ddrafft); dylai adeiladu ar ymrwymiadau i liniaru tlodi drwy'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica; ac y dylai gwerthoedd Llywodraeth Cymru fod yn sail i'r strategaeth. Mae Atodiad D i'r strategaeth ddrafft yn nodi'r rhain.

Awgrymodd Dr Rachel Minto a'r Athro Kevin Morgan fod angen i ymgysylltiad rhyngwladol Cymru gael ei wneud mewn partneriaeth, yn hytrach na dim ond gan Lywodraeth Cymru. Galwyd hefyd ar Lywodraeth Cymru i hybu cynrychiolaeth ym Mrwsel, a sicrhau bod ganddi gapasiti digonol i gynhyrchu buddion clir o berthnasoedd dwyochrog, o ran arbenigedd ac adnoddau ariannol.

Nododd Dr Elin Royles fod angen i drefniadau ar gyfer cysylltiadau rhynglywodraethol yn y dyfodol fod ar sail statudol i sicrhau bod adrannau ac asiantaethau Llywodraeth y DU yn cyflawni disgwyliadau Cymru. Tynnodd sylw hefyd at yr her i Lywodraeth Cymru, sef llywio cysylltiadau rhyngwladol Cymru drwy 'diriogaeth ddigymar' tirwedd ar ôl Brexit.

Bydd telerau Brexit a pherthynas y DU â'r UE yn y dyfodol yn hanfodol i ddrafftio'r strategaeth derfynol. Bydd ymateb Llywodraeth Cymru i'r digwyddiadau hyn yn allweddol i'w chyflawni. Fodd bynnag, rhaid aros i weld faint o eglurder ar Brexit a geir erbyn i'r strategaeth derfynol gael ei chyhoeddi.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru