Cylch Gwariant 2019 y DU: Beth mae'n ei olygu i Gymru?

Cyhoeddwyd 10/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ar 4 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Chylch Gwariant ar gyfer 2019, gan nodi ei chynlluniau gwariant refeniw (gwariant o ddydd i ddydd megis costau staff) ar gyfer adrannau Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21. Mae'r cylch gwariant am un flwyddyn ariannol oherwydd yr ansicrwydd ynghylch Brexit, yn hytrach na'r setliad aml-flwyddyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Bydd adolygiad gwariant aml-flwyddyn yn dilyn yn 2020.

Mae Llywodraeth y DU yn nodi y bydd y cylch gwariant yn sicrhau'r twf cyflymaf a gynlluniwyd yn y DU mewn gwariant refeniw ers 15 mlynedd, sef cynnydd o 4.1 y cant mewn termau real (unwaith y bydd chwyddiant wedi'i ystyried) rhwng 2019-20 a 2020-21. Ymhlith y dyraniadau mae £2 biliwn ychwanegol er mwyn helpu’r DU i sefydlu perthynas newydd gyda’r UE, a manteisio ar y cyfleoedd a grëir yn sgil Brexit, a gwariant ychwanegol yn Lloegr ar feysydd datganoledig fel iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg.

Pa oblygiadau sydd gan hyn i gyllideb Llywodraeth Cymru, a sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r cyhoeddiad?

Faint o gyllid ychwanegol y bydd Cymru yn ei gael, a sut y mae hyn wedi'i gyfrifo?

Cyn addasiadau grant bloc, byddai dyraniad refeniw cyllidol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 yn cynyddu £593 miliwn, neu 2.3 y cant mewn termau real. Mae hyn yn is na'r cynnydd o 4.1 y cant mewn termau real ledled y DU, ond yn uwch na'r codiadau canrannol gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill.

Mae Dadansoddi Cyllid Cymru yn nodi, mewn termau real, y bydd cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru yn 2020-21 oddeutu 1 y cant yn is na'i hanterth yn 2010-11, a 5 y cant yn is y pen nag yn 2010-11.

Ffigur 1: Newid mewn termau real yng nghyllideb refeniw Llywodraeth Cymru o gymharu â 2010-11

Ffynhonnell: Dadansoddi Cyllid Cymru, Adolygiad o Wariant y DU ar gyfer 2019: y goblygiadau i Gymru

Y cynnydd cyn addasiadau grant bloc yw'r ffigur a ddyfynnir yn araith y Canghellor a'r sylw yn y wasg, sef y cynnydd yn yr arian a ddyrannwyd i Gymru. Mae hyn yn deillio o ddyraniadau refeniw cynyddol Llywodraeth y DU i feysydd datganoledig fel iechyd ac addysg yn Lloegr. Gan fod y meysydd hyn wedi'u datganoli, mae Llywodraeth Cymru yn derbyn symiau canlyniadol Barnett, y gall eu gwario yn ôl ei blaenoriaethau, fel y nodir yn y graffig isod.

Fodd bynnag, yn ymarferol bydd cyllid Llywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU yn cael ei addasu i gyfrif am ddatganoli treth, fel y cytunwyd yn y Fframwaith Cyllidol.

Caiff grant bloc terfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ei gyfrifo unwaith y bydd cyfraddau treth perthnasol y DU yn cael eu gosod yn ddiweddarach eleni yng Nghyllideb y DU ar gyfer 2019 a bod yr addasiad grant bloc wedi'i gymhwyso. Mae dogfennaeth y Cylch Gwariant yn awgrymu y bydd refeniw cyllidol Llywodraeth Cymru yn cynyddu o £11.9 biliwn yn 2019-20 i £12.4 biliwn yn 2020-21, sef cynnydd o 2.1 y cant mewn termau real.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y cynyddodd ei chyllideb gyfalaf ar gyfer 2020-21 gan £18 miliwn o ganlyniad i'r Cylch Gwariant. Yn 2020-21 bydd yn cynyddu i £2.3 biliwn o £2.2 biliwn yn 2019-20.

Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r Cylch Gwariant?

Ar 4 Medi, ymatebodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i'r Cylch Gwariant. Dywedodd:

  • Yn dilyn y Cylch Gwariant, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 2 y cant yn is mewn termau real nag yn 2010-11;
  • Bydd angen llawer mwy o wariant cyhoeddus ar y gefnogaeth i fynd i’r afael â hyd yn oed cyfran o effaith Brexit na'r hyn a gyhoeddwyd gan Ganghellor y Trysorlys. Mae'r Gweinidog wedi codi hyn gyda Llywodraeth y DU, ond dywedodd nad oedd wedi cael unrhyw sicrwydd y bydd yr arian ychwanegol angenrheidiol yn dod i Gymru;
  • Mynegodd y Gweinidog ei siom na chyhoeddodd Canghellor y Trysorlys fanylion am yr hyn a fydd yn disodli cyllid yr UE; ac
  • Amlygodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi’r gyllideb ar gyfer 2020-21 yn gynharach nag yr oedd wedi'i awgrymu yn wreiddiol, i roi sicrwydd i randdeiliaid.

Roedd y Gweinidog hefyd wedi amlinellu'n flaenorol ei phryderon na fyddai'r Cylch Gwariant yn rhoi sicrwydd i wasanaethau cyhoeddus Cymru gynllunio ar gyfer trefniadau ariannol dros gyfnod o dair blynedd.

Bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Medi, lle bydd yn darparu rhagor o fanylion am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ymateb i'r Cylch Gwariant ac ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at gyllid cyhoeddus.

Bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn nodi cynlluniau gwariant, trethiant a benthyca Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Cyn hyn, mae cyhoeddiad ‘Dadansoddi Cyllid Cymru’ ar Adolygiad o Wariant y DU ar gyfer 2019: y goblygiadau i Gymru yn nodi manylion am rai o'r dewisiadau y bydd angen i Lywodraeth Cymru eu gwneud yn ei chyllideb yn dilyn y setliad gan Lywodraeth y DU.


Erthygl gan Gareth Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru