Aelodau’r Cynulliad i drafod os na ddylai bellach fod yn gyfreithlon i blant gael eu cosbi’n gorfforol yng Nghymru

Cyhoeddwyd 12/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddydd Mawrth 17 Medi, bydd Aelodau'r Cynulliad yn trafod egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol (Cymru) ac yn pleidleisio ynghylch a ddylid caniatáu i’r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfwriaethol y Cynulliad.

Mae'r ddadl hon yn dilyn gwaith craffu’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar egwyddorion cyffredinol y ddeddfwriaeth a’r adroddiad a gyhoeddwyd wedi hynny ar 2 Awst 2019. Er mai dim ond un tudalen A4 yw hyd testun y Bil hwn, mae adroddiad y Pwyllgor yn 217 tudalen, sy’n arwydd o’r safbwyntiau eang a gafwyd ynghylch p’un a ddylai ddod yn gyfraith yng Nghymru.

Beth fyddai'r Bil hwn yn ei wneud?

Cyflwynwyd y Bil gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2019 i gynnig diddymu’r amddiffyniad yn y gyfraith gyffredin o gosb resymol ar gyfer unrhyw riant (neu unrhyw oedolyn sy'n gweithredu fel rhiant) a gyhuddir o ymosod ar blentyn neu guro plentyn. Os caiff ei phasio, bydd y gyfraith hon yn golygu na fyddai’n gyfreithlon mwyach i blant yng Nghymru gael eu cosbi’n gorfforol.

Beth y mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi’i ddweud am y Bil?

Mae’r rhan fwyaf o aelodau'r Pwyllgor yn cefnogi'r Bil hwn. Dywed yr adroddiad:

Ar y cyfan, mae’r rhan fwyaf o’n Pwyllgor yn credu bod dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau’r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc.

Fodd bynnag, gwnaed 20 o argymhellion gan y rhai o blith aelodau’r Pwyllgor a oedd yn cefnogi’r Bil. Nodwyd bod dau o'r argymhellion yn 'hanfodol’ er mwyn ‘sicrhau bod y Bil hwn yn gweithio er budd plant a’u teuluoedd’. Dywed yr adroddiad:

Yn gyntaf, mae ymgyrch codi ymwybyddiaeth eang yn hanfodol. Mae hyn yn sylfaenol i lwyddiant y ddeddfwriaeth hon ac felly, yn ein barn ni, mae’n rhaid i ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyflawni hyn gael ei gosod yn glir ar wyneb y Bil.

Yn ail, mae’n rhaid bod cymorth cyffredinol ar gael i rieni ar draws Cymru. Mae’n rhaid gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd gyda’r heriau anochel a wynebir wrth fagu plant.

Nid yw Suzy Davies AC na Janet Finch-Saunders AC, sy’n aelodau o’r pwyllgor, yn cefnogi’r Bil.

Cafodd y Pwyllgor 650 o ymatebion yn sgil yr ymgynghoriad ysgrifenedig. Yn ôl yr adroddiad, bu Campws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dadansoddi’r ymatebion testun rhydd er mwyn ategu dadansoddiad y Pwyllgor ei hun. Mae rhagor o wybodaeth am ddadansoddiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i'w gweld mewn blog a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

O'r 650 o ymatebion:

  • Nid oedd 67.8 y cant o’r unigolion a ymatebodd yn bersonol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil (381 o'r 562 o ymatebion).
  • Roedd 86.2 y cant o’r unigolion a ymatebodd mewn rôl broffesiynol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil (25 o'r 29 o ymatebion).
  • Roedd 88.1% o'r sefydliadau a ymatebodd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil (52 o'r 59 ymateb).

Yn ôl adroddiad y Pwyllgor:

Mae mwyafrif yr ymatebion gan unigolion wedi canolbwyntio ar sut y bydd dileu’r amddiffyniad cosb resymol yn effeithio ar rieni. Mae’n rhaid i ni fod yn glir iawn mai ein prif bryder, fel Pwyllgor, yw pwyso a mesur yr hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am yr effaith y gallai’r Bil hwn ei chael ar blant, neu y bydd yn ei chael arnynt, ac a fydd yn gwella’r amddiffyniad y mae’r gyfraith yn ei roi iddynt.

Beth nesaf?

Yn ystod y ddadl hon, bydd cyfle i holl Aelodau'r Cynulliad drafod egwyddorion cyffredinol y Bil. Ar ôl y ddadl, gofynnir i Aelodau'r Cynulliad bleidleisio er mwyn penderfynu a ddylai'r Bil symud ymlaen i'r cyfnod nesaf. Bydd angen i'r Bil fynd drwy sawl cyfnod pellach cyn iddo ddod yn gyfraith, a bydd y penderfyniad terfynol yn nwylo’r 60 o Aelodau’r Cynulliad. Mae rhagor o wybodaeth am gamau'r broses ddeddfwriaethol i'w gweld yng nghanllaw’r Cynulliad i’r cyfnodau craffu ar gyfer Biliau cyhoeddus.

Rhagor o wybodaeth gefndirol am y ddadl ddydd Mawrth:

Sut i ddilyn y ddadl

Mae'r Ddadl Aelodau wedi'i threfnu ar gyfer dydd Mawrth 17 Medi 2019 tua 18:00. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Sian Thomas, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru