Cymunedau Economi

Tasglu’r Cymoedd: Cynnydd a chamau nesaf

Ddydd Mawrth, 17 Medi, bydd trafodaeth gan Lywodraeth Cymru yn y Siambr am Dasglu’r Cymoedd.

Estimated reading time: 3 Minutes

13 Medi 2019

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mawrth, 17 Medi, bydd trafodaeth gan Lywodraeth Cymru yn y Siambr am Dasglu’r Cymoedd.

Sefydlwyd y Tasglu ym mis Gorffennaf 2016, a chyhoeddwyd ei gynllun – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol – ym mis Gorffennaf 2017. Dilynwyd hyn gan gynllun cyflawni – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni – ym mis Tachwedd 2017.  

Bydd yr erthygl blog hon yn rhoi diweddariad am waith y Tasglu ers mis Tachwedd 2017. Os ydych chi am ddarllen rhagor am waith cynnar y Tasglu, darllenwch ein herthygl blog o fis Ionawr 2018

Blwyddyn yn ddiweddarach – Adroddiad cynnydd

Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd y Tasglu Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Blwyddyn yn Ddiweddarach – Adroddiad Cynnydd 2018, sy’n rhoi trosolwg o’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth geisio cyflawni targedau’r Tasglu ar gyfer 2021. Mae’r trosolwg hwn wedi’i drefnu yn ôl y tri prif flaenoriaeth a nodwyd yng nghynllun gwreiddiol y Tasglu:

  • Swyddi o ansawdd da a’r sgiliau i’w cyflawni;
  • Gwell gwasanaethau cyhoeddus; a
  • Fy nghymuned leol.

Mae’r gwaith sydd wedi’i nodi yn yr adroddiad cynnydd yn cynnwys:

  • Ers mis Medi 2016, mae mwy na 1,000 o bobl economaidd anweithgar sy’n byw yn ardal Tasglu’r Cymoedd wedi dechrau gweithio trwy raglenni cyflogaeth sy’n cael eu harwain gan Lywodraeth Cymru;
  • Bron i 1,000 o bobl a busnesau bychan wedi cael cymorth trwy dderbyn cyngor a chefnogaeth busnes, ac mae mwy na 100 o fentrau newydd wedi eu creu yn ardal Tasglu’r Cymoedd yn ystod 2017-18;
  • Dechreuodd mwy na 5,000 o bobl ar raglenni prentisiaeth yn ardal Tasglu’r Cymoedd yn y flwyddyn academaidd 2017-18;
  • Rhwng Mai 2017 a Mai 2018, derbyniodd busnesau yn ardal Tasglu’r Cymoedd 21 cynnig o gymorth gan Gyllid Busnes; a
  • Rhwng Ebrill 2017 a Mai 2018, mae gwasanaethau cynghori a chyflymu twf Busnes Cymru wedi:
    • Helpu 996 o unigolion a busnesau bychan;
    • Creu 112 o fentrau newydd; a
    • Buddsoddi £10,639,222 mewn mentrau.

Cynllun cyflawni wedi’i ddiweddaru

Ym mis Tachwedd 2018, cyhoeddodd y Tasglu gynllun cyflawni wedi’i ddiweddaru, sy’n pwysleisio y bydd y cynllun yn canolbwyntio ar weithgarwch sy’n ymwneud ag ardal Tasglu’r Cymoedd yn unig. O hyn ymlaen, ni fydd y cynllun cyflawni yn cynnwys gweithgarwch sy’n ymwneud â phrosiectau neu gynlluniau ar gyfer Cymru gyfan.  

Mae’r cynllun cyflawni hefyd yn ailadrodd tri prif flaenoriaeth y Tasglu, ynghyd â phwysleisio tri maes ble bydd y Tasglu yn canolbwyntio ei ymdrechion – canolfannau strategol, yr economi sylfaenol a chanolfannau cymunedol. Y tri maes yma, ynghyd â chynnydd busnes, cyflogadwyedd, Parc Tirweddau’r Cymoedd a digidol, yw saith maes gwaith unigol y cynllun cyflawni.

Saith blaenoriaeth

Ym mis Gorffennaf 2019, cyhoeddodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters AC, er y bydd y Tasglu’n parhau i weithio i gyflawni’r holl gamau gweithredu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni, bydd ymdrechion y Tasglu yn canolbwyntio’n benodol ar saith blaenoriaeth:

  • Tai;
  • Yr economi sylfaenol;
  • Entrepreneuriaeth a chymorth busnes;
  • Trafnidiaeth;
  • Canolfannau strategol;
  • Cronfa arloesi Tasglu’r Cymoedd; a
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd.

Roedd y datganiad hefyd yn nodi y bydd ffiniau ardal Tasglu’r Cymoedd yn cael eu hymestyn i gynnwys Cwm Gwendraeth a Chwm Aman. Dywedodd y Dirprwy Weinidog:

[mae’r] ardaloedd hyn yn rhan ddiwylliannol o faes glo De Cymru, gyda’u treftadaeth unigryw o ran mwyngloddio glo carreg, a rennir gyda’r Cymoedd cyfagos i’r dwyrain.

Cymoedd Llewyrchus, Cymunedau Gwydn

Yn hwyrach yr un mis, cyhoeddodd Sefydliad Bevan yr adroddiad – Prosperous Valleys, Resilient Communities – sy’n ystyried gwaith Tasglu’r Cymoedd hyd yn hyn. Mae’r adroddiad yn argymell y dylai’r Tasglu ddefnyddio Strategaeth Gwydnwch Economaidd fel sail ar gyfer ei waith. Dylai’r strategaeth ymwneud ag amgylchiadau penodol sectorau, gofod a marchnad lafur y Cymoedd. Mae’r sefydliad yn credu y dylai’r strategaeth gynnwys:  

  • Datblygu Canolfannau Strategol i fod yn ‘Drefi Angor’, fydd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer sbarduno’r economi sylfaenol leol, ynghyd â pharhau i fod yn ganolbwynt ar gyfer adfywio ehangach;
  • Mabwysiadu dull aml-sector sydd ddim yn dibynnu ar un ateb yn unig;
  • Gwneud y mwyaf o botensial ffordd yr A465 i atgyfnerthu y gweithgarwch economaidd sylweddol sy’n digwydd ar hyd y ffordd hon;
  • Canolbwyntio gweithgarwch ac adnoddau ar yr ardaloedd sydd eu hangen fwyaf, gan gynnwys blaenau a ‘chalon’ y Cymoedd; ac
  • Adeiladu ar gryfderau’r Cymoedd a mynd i’r afael ag ystrydebau negyddol a hen ffasiwn.

Ffyrdd o weithio

Mae adroddiad Sefydliad Bevan hefyd yn argymell y dylai’r Tasglu barhau i ddatblygu’i ffyrdd o weithio, gan sicrhau ei fod yn:

  • Ehangu ac ymestyn gweithgarwch llwyddiannus i fynd i’r afael â’r her, gan sicrhau ei fod wedi’i deilwra ar gyfer amgylchiadau lleol ac wedi’i ddylunio ar gyfer yr hir dymor;
  • Sicrhau bod y drefn lywodraethol yn dryloyw ac atebol;
  • Cydweithio gyda mudiadau lleol a’u grymuso i chwarae rhan gref a rhagweithiol; a
  • Mabwysiadu dull cyson, hir-dymor sy’n cyflawni drwy gydol y cynllun.

Mae disgwyl i’r Dirprwy Weinidog roi diweddariad arall ynglŷn â gwaith Tasglu’r Cymoedd, a’i flaenoriaethau, yn ystod y drafodaeth yn y Siambr ar 17 Medi.


Erthygl gan Megan Jones, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru