Yr heriau sy’n wynebu Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru
Canser y coluddyn yw’r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yng Nghymru. Yn ôl Bowel Cancer UK, mae oddeutu 2,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser y coluddyn yng Nghymru bob blwyddyn ac mae dros 900 o bobl yn marw o’r afiechyd, ac mae hynny’n ei wneud yr ail laddwr mwyaf o ran canser. Mae’r canlyniadau canser y coluddyn yng Nghymru ymysg y gwaethaf yn Ewrop, gan bod Cymru yn y pumed safle ar hugain allan o 29 gwlad yn Ewrop o ran cyfraddau goroesi pum mlynedd.
Gellir trin a gwella canser y coluddyn os ceir diagnosis ohono’n gynnar. Sgrinio yw un o’r ffyrdd gorau o ganfod canser yn gynnar; gall helpu i adnabod cleifion y dylid eu cyfeirio am brofion diagnostig fel endosgopi.
Mae endosgopi yn weithdrefn sy’n archwilio tu mewn i’r stumog neu’r coluddyn ac fe’i defnyddir i ymchwilio i amrywiaeth eang o gyflyrau meddygol posibl, gan gynnwys canser y coluddyn. Canolbwyntiodd y Pwyllgor ar edrych ar gapasiti gwasanaethau endosgopi yng Nghymru yng nghyd-destun newidiadau i arferion sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru, a wnaiff arwain at fod rhagor o gleifion yn cael eu cyfeirio am brofion endosgopi diagnostig.
Ym mis Tachwedd 2018, cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ymchwiliad i wasanaethau endosgopi yng Nghymru, gan gydnabod y gall gwneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar sicrhau gwell canlyniadau goroesi i gleifion.
Mae sgrinio canser y coluddyn yng Nghymru yn newid
Clywodd y Pwyllgor nad oes gan y gwasanaethau endosgopi yng Nghymru y capasiti sydd ei angen arnynt i gyflawni newidiadau i’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn, a’r pwysau cynyddol y mae disgwyl i hyn ei roi ar wasanaethau.
Bydd rhaglen sgrinio canser y coluddyn wedi’i defnyddio’n llawn yn cynnwys gostwng yr oedran sgrinio o 60 - 74 mlwydd oed i 50 - 74 mlwydd oed erbyn 2023, gan ddefnyddio prawf sgrinio newydd, mwy cywir a haws ei ddefnyddio, sef y prawf Imiwnogemegol Ysgarthion (FIT). Nodwedd allweddol o’r prawf hwn yw y gellir addasu ei sensitifrwydd. Po isaf yw’r trothwy, y mwyaf sensitif yw’r prawf i waed mewn ysgarthion a pho fwyaf o ganserau a pholypau cyn-ganseraidd a ganfyddir.
Mae gwella’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn yn sicr yn beth da i gleifion yng Nghymru. Dim ond hanner y rhai sy’n cael cynnig y prawf sgrinio ar hyn o bryd sy’n manteisio ar y cynnig. Disgwylir i FIT arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn y sgrinio, yn syml, oherwydd bod y prawf yn haws ei gynnal.
Gyda chynnydd yn nifer y bobl sy’n cymryd rhan, po fwyaf o bobl a gaiff eu cyfeirio am brofion endosgopi diagnostig. Amlygwyd pryderon difrifol yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor ynghylch pa mor barod yw byrddau iechyd yng Nghymru i ateb y galw cynyddol hwn am wasanaethau. Cyfeiriodd Bowel Cancer UK at ‘yr argyfwng endosgopi cynyddol’ yn hyn o beth.
Ar adeg yr Ymchwiliad, clywodd y Pwyllgor fod mwyafrif y byrddau iechyd yng Nghymru yn methu â chyrraedd targedau amser aros ar gyfer profion a all wneud diagnosis o ganser y coluddyn yn gynnar, a bod unedau endosgopi yn ysbytai Cymru yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r galw. Dywedwyd bod y rheswm dros y pwysau difrifol ar unedau diagnostig yn ymwneud, yn syml, â pheidio â chael y gweithlu i ateb y galw cynyddol am wasanaethau.
Daeth darlun i’r amlwg o Wasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd i ateb y galw cyfredol, ac y bydd newidiadau y mae mawr eu hangen i’r rhaglen sgrinio canser y coluddyn yn ychwanegu rhagor o bwysau at system sydd eisoes wedi’i gorymestyn.
Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Endosgopi yng Nghymru
Yn 2014, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endosgopi gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau a nodwyd o ran capasiti diagnostig. Gwnaeth y Grŵp argymhellion penodol i fyrddau iechyd unigol eu cyflawni a oedd yn cynnwys amseroedd aros endosgopi a materion capasiti.
Erbyn i’r Pwyllgor gynnal ei ymchwiliad, ychydig o gynnydd a wnaed o ran gweithredu’r argymhellion. Er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau yn gyflymach, gwnaeth y Pwyllgor un argymhelliad cyffredinol:
- Erbyn mis Hydref 2019, dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r rhaglen gwella endosgopi genedlaethol i greu a chyhoeddi cynllun gweithredu endosgopi cenedlaethol sy’n mynd i’r afael â’r galw nawr ac yn y dyfodol am wasanaethau sydd ag amserlenni a thargedau clir ar gyfer gwella.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad.
Bydd aelodau’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn monitro Llywodraeth Cymru yn agos, i sicrhau bod y cynllun gweithredu ar gyfer gwasanaethau endosgopi yn cael ei gyhoeddi o fewn yr amserlen chwe mis a nodwyd, a’i fod yn mynd i’r afael â’r materion penodol a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor, gan gynnwys:
- gwelliannau i’r rhaglen sgrinio’r coluddyn
- perfformiad o ran amser aros
- hyfforddi a datblygu’r gweithlu
- cyfleusterau a seilwaith, a
- chynllunio’r Gwasanaeth.
Bydd y Pwyllgor eisiau sicrwydd bod gwasanaethau endosgopi yng Nghymru yn addas ar gyfer y dyfodol, i helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis cynnar ac yn goroesi canser y coluddyn.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ei adroddiad ar Wasanaethau Endosgopi yng Nghymru (PDF, 451KB) ar 8 Ebrill 2019. Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor, a chynhelir dadl ar y mater yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Medi 2019.
Erthygl gan Sarah Hatherley, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru