Cyhoeddiad Newydd: Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru

Cyhoeddwyd 18/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/06/2021   |   Amser darllen munudau

Y prif ddull o ddiogelu’r amgylchedd morol yng Nghymru yw drwy greu Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae’r rhan helaeth o’r ardal warchodedig sydd wedi'i chynnwys yn rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru wedi’i dynodi o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd.

Mae ein cyhoeddiad newydd yn rhoi cefndir Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru. Mae'n disgrifio’r gwahanol fathau o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sydd i’w cael, cyflwr y safleoedd a'r drefn reoli sydd ar waith ar gyfer y rhwydwaith. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am y newidiadau posibl sy'n deillio o Brexit.

Cyhoeddiad Newydd: Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
(PDF, 1513KB)


Erthygl gan Emily Williams a Lorna Scurlock, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru