Brexit

Cymru a diwedd rhyddid i symud

Mae Brexit yn achosi’r newidiadau mwyaf yn system fewnfudo'r DU ers degawdau. Bydd angen system newydd pan ddaw’r rhyddid i symud i ben i ddinasyddion yr UE. Nid yw mewnfudo yn fater datganoledig, ond mae 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw yng Nghymru, ac mae rhai sectorau (fel gweithgynhyrchu, gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd) yn dibynnu ar lafur yr UE. Mae'r erthygl hon yn ystyried y system fewnfudo gyfredol, cynigion ar gyfer system newydd, yr effaith ar Gymru, y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a hawliau dinasyddion yr UE mewn sefyllfa o adael heb gytundeb.

Amcangyfrif o amser darllen: 9 Munud

20 September 2019

Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg | View this post in Welsh

Mae Brexit yn achosi’r newidiadau mwyaf yn system fewnfudo’r DU ers degawdau. Bydd angen system newydd pan ddaw’r rhyddid i symud i ben i ddinasyddion yr UE.

Nid yw mewnfudo yn fater datganoledig, ond mae 80,000 o ddinasyddion yr UE yn byw yng Nghymru, ac mae rhai sectorau (fel gweithgynhyrchu, gofal cymdeithasol, addysg ac iechyd) yn dibynnu ar lafur yr UE.

Mae’r erthygl hon yn ystyried y system fewnfudo gyfredol, cynigion ar gyfer system newydd, yr effaith ar Gymru, y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE a hawliau dinasyddion yr UE mewn sefyllfa o adael heb gytundeb.

System fewnfudo gyfredol y DU

Mae yna ddwy system fewnfudo ar wahân yn y DU: un ar gyfer dinasyddion yr UE, yr AEE a’r Swistir, (er hwylustod, cyfeirir at y rhain i gyd fel dinasyddion yr ‘UE’ yn yr erthygl hon) a system ar wahân ar gyfer gwladolion nad ydynt yn rhan o’r UE.

Ar hyn o bryd mae gan ddinasyddion yr UE yr hawl i fyw yn y DU am hyd at dri mis heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau. Ar ôl tri mis, mae ganddyn nhw’r hawl i breswylio os ydyn nhw’n weithwyr, yn chwilio am waith yn y DU neu os oes ganddyn nhw ddigon o adnoddau i breswylio.

Ar gyfer dinasyddion y tu allan i’r UE, mae gwahanol fisâu gwaith ar gael at wahanol ddibenion. Mae’r rhan fwyaf o fisâu gwaith yn rhan o ‘system bwyntiau’ y DU. Mae gan y system bum haen,pob un ag is-gategorïau:

  • Haen 1 ar gyfer unigolion medrus iawn;
  • Haen 2 ar gyfer gweithwyr medrus sydd â chynnig swydd i lenwi bylchau yn y gweithlu (mae hyn yn cynnwys trothwy cyflog o £30,000 ac mae wedi’i gyfyngu i weithwyr â sgiliau uwch);
  • Haen 3 ar gyfer gweithwyr â sgiliau isel er mwyn llenwi prinder llafur dros dro (ni ddefnyddiwyd yr Haen hon erioed gan y tybir ar hyn o bryd bod bylchau yn cael eu llenwi gan wladolion yr UE);
  • Haen 4 ar gyfer myfyrwyr, a
  • Haen 5 ar gyfer gweithwyr dros dro a phobl ifanc sy’n dod o dan y Cynllun Symudedd Ieuenctid

Haen 2 (Cyffredinol) yw’r prif gategori fisa ar gyfer dod â gweithwyr medrus o’r tu allan i’r UE i’r DU. Bu cyfyngiad o 20,700 o fisâu y flwyddyn ers 2017. Cafodd meddygon a nyrsys eu heithrio o’r cyfyngiad yn 2018, ar ôl i’r galw am ganiatâd i noddi gweithwyr medrus fod yn fwy na’r cyflenwad yn aml.

Rhaid i gyflogwyr sy’n gwneud cais am nawdd ar gyfer fisâu Haen 2 (Cyffredinol) brofi eu bod wedi ceisio recriwtio o’r gweithlu preswyl (a elwir yn prawf marchnad lafur breswyl).

Mae’r rhestr prinder galwedigaethol (SOL) yn rhestr swyddogol o alwedigaethau lle nad oes digon o weithwyr preswyl ar eu cyfer(gan gynnwys gwladolion yr UE) i lenwi swyddi gwag. Mae mwyafrif y swyddi ar y SOL ym maes iechyd a pheirianneg. Ategir rhestr y DU gan restr ar wahân ar gyfer yr Alban. Nid yw’n ofynnol i gyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr ar gyfer swyddi ar y rhestr hon gynnal prawf marchnad lafur breswyl.

Er mwyn cyflogi gwladolion o’r tu allan i’r UE yn Haen 2, mae’n rhaid i gyflogwyr dalu a Tâl Sgiliau Mewnfudo i Lywodraeth y DU, sef £1,000 y flwyddyn i bob gweithiwr yn gyffredinol. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ymfudwyr dalu Gordal Iechyd Mewnfudwyr (IHS) hefyd i allu defnyddio’r GIG.

Mae’r system bwyntiau gyfredol ar gyfer gwladolion o’r tu allan i’r UE wedi’i beirniadu am fod yn rhy gymhleth, beichus, costus ac anaddas i anghenion ei defnyddwyr(gweler tudalen 11 o’r briff Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin hwn am fanylion).

Cynigion ar gyfer mewnfudo ar ôl Brexit

Ar ôl Brexit, bydd angen system fewnfudo newydd. Ymrwymodd Llywodraeth flaenorol a phresennol y DU i ddod â’r rhyddid i symud i ben.

Yn dilyn argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo (a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018), cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol y DU o dan Theresa May eiPhapur Gwyn ar fewnfudo ym mis Rhagfyr 2018, gyda chyfnod ymgynghori o 12 mis.

Cynigiodd Papur Gwyn y Llywodraeth flaenorol:

  • ychwanegu dinasyddion yr UE yn uniongyrchol at y system bwyntiau gyfredol o dan Haen 2 ar gyfer gweithwyr medrus sydd â chynigion swydd, heb unrhyw driniaeth ffafriol;
  • ehangu Haen 2 trwy: gael gwared ar y cyfyngiad fisa o 20,700 a’r prawf marchnad lafur breswyl; gostwng y trothwy sgiliau i RQF+ lefel 3 (Safon Uwch neu gyfwerth); cadw trothwy cyflog (ond ymgynghori ar y £30,000 cyfredol – mae’r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo yn archwilio opsiynau ar hyn o bryd), ac ystyried rhestr prinder galwedigaethol (SOL) ar gyfer Cymru, a
  • pheidio â darparu llwybr penodol ar gyfer gweithwyr â sgiliau isel, ond cyflwyno amrywiaeth o fesurau trosiannol. Mae hefyd yn cynnig rhai newidiadau cymedrol i waith ôl-astudio, a chadw ond adolygu’r Tâl Sgiliau Mewnfudo.

Ond, yn ddiweddar, nododd Llywodraeth newydd y DU o dan Boris Johnson fod gwelliannau i gynlluniau’r llywodraeth flaenorol ar gyfer system fewnfudo newydd yn cael eu datblygu. Gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo ddatblygu cynlluniau ar gyfer system bwyntiau ar gyfer mewnfudo fel yn Awstralia, ond nid yw’n glir eto beth allai hyn ei olygu.

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth y DU newidiadau i fisâu gwaith ôl-astudio a fyddai’n caniatáu i fyfyrwyr rhyngwladol aros yn y DU am ddwy flynedd ar ôl graddio. Ar hyn o bryd mae gan raddedigion bedwar mis i ddod o hyd i swydd cyn gorfod dychwelyd i’w gwlad eu hunain.

Hefyd, cyhoeddodd y Llywodraeth gynlluniau i: gyflwyno trothwyon troseddoldeb llymach yn y DU, dileu sianel tollau’r UE ar ffiniau’r DU, dileu hawliau i bobl sy’n cyrraedd ar ôl gadael gael byw yn barhaol o dan gyfraith yr UE a gedwir, a hawliau i wladolion y DU sy’n symud i’r UE ar ôl ymadael i ddychwelyd gydag aelodau eu teulu heb fodloni rheolau mewnfudo teulu y DU, a chyflwyno pasbortau glas.

Effaith cynigion y Papur Gwyn ar Gymru

Amcangyfrifodd papur a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru o fis Mawrth 2019 gan yr Athro Jonathan Portes effaith cynigion y Papur Gwyn ar Gymru.

Canfu’r ymchwil bod heriau’r boblogaeth sy’n heneiddio yn fwy difrifol yng Nghymru nag mewn mannau eraill yn y DU, gyda thwf arafach yn y boblogaeth gyffredinol ond twf cyflymach ymhlith pobl dros 65 oed. Yn y cyfamser, rhagwelir y bydd y boblogaeth 16-64 yn gostwng 5% erbyn 2039. Dadleuodd y gallai mudo is na’r rhagamcan waethygu’r materion hyn.

Amcangyfrifodd yr Athro Portes, o dan gynigion y Papur Gwyn, na fyddai bron i ddwy ran o dair o weithwyr yr UE sydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn gymwys i gael fisa Haen 2 â throthwy cyflog o £30,000, gan arwain at ostyngiad o 57% mewn mewnfudo o’r UE i Gymru dros 10 mlynedd.

Amcangyfrifodd y byddai’n arwain at “ergyd i GDP rhwng tua 1 a 1.5% o GDP dros gyfnod o ddeng mlynedd [yng Nghymru], o’i gymharu â 1.5 i 2% ar gyfer y DU gyfan.”

Y sectorau gweithgynhyrchu, gofal cymdeithasol, lletygarwch, iechyd ac addysg yng Nghymru yw’r rhai mwyaf tebygol o weld effaith cynigion y Papur Gwyn gan eu bod yn dibynnu’n fawr ar fewnfudo o’r UE, ond mae llawer o swyddi yn dod o dan y trothwy cyflog o £30,000.

Daeth Portes i’r casgliad ei bod yn anodd cyflwyno achos dros system fudo ranbarthol, gan nad yw mudo yng Nghymru yn sylweddol wahanol i weddill y DU. Argymhellodd y dylai ymateb Llywodraeth Cymru i’r Papur Gwyn ganolbwyntio ar bwyso am drothwy cyflog is i’r DU gyfan.

Polisi Llywodraeth Cymru

Nododd Llywodraeth Cymru ei dull manwl o fewnfudo yn 2017. Galwodd am system fewnfudo ffafriol i ddinasyddion yr UE, a dywedodd “Os bydd Llywodraeth y DU yn dilyn polisi mewnfudo cyfyngol a fyddai’n niweidiol i Gymru, [byddai’n] edrych ar opsiynau am ddulliau gweithredu gwahanol mewn gwahanol ardaloedd a fyddai’n fwy priodol ar gyfer anghenion a buddiannau Cymru”. Galwodd hefyd i beidio â gosod rhagor o gyfyngiadau ar fyfyrwyr yr UE.

Mewn ymateb i gynigion y Papur Gwyn ym mis Mehefin 2019, dywedodd y Gweinidog Brexit, Jeremy Miles ei fod yn hynod bryderus y byddai system fewnfudo mor gyfyngol ar ôl Brexit yn arwain at brinder gwirioneddol o ran sgiliau yn ein sectorau economaidd allweddol, a galwodd ar Lywodraeth y DU i ostwng y trothwy cyflog o £30,000.

Mae Cynllun Grant i Ddinasyddion yr UE Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid tymor byr ar gyfer prosiectau yn Abertawe, Merthyr, Casnewydd a gogledd Cymru i helpu dinasyddion yr UE i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.

Cyhoeddodd hefyd becyn cymorth i ddinasyddion yr UE yng Nghymru i’w helpu i wneud cais preswylio, gan gynnwys gwefan newydd.

Mae cynllun gweithredu ar gyfer Brexit heb gytundeb diweddar Llywodraeth Cymru yn trafod risgiau strategol fel effeithiau’r gweithlu ar y sector cyhoeddus a busnesau, ansicrwydd cyfreithiol i ddinasyddion yr UE, a’r risg y bydd dinasyddion y DU yn dychwelyd o’r UE mewn heidiau.

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Sefydlodd Llywodraeth y DU y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) oherwydd, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gan ddinasyddion yr UE sy’n byw yn y DU hawl gyfreithiol i breswylio yn y DU pan fydd yn gadael yr UE a daw’r rhyddid i symud i ben. Nid yw’n ofynnol i ddinasyddion Iwerddon wneud cais i’r EUSS, a gallant fyw yn y DU am gyfnod amhenodol o dan drefniant ar wahân.

Bydd ymgeiswyr i’r EUSS naill ai’n cael statws ‘sefydlog’ neu ‘cyn-sefydlog’, yn dibynnu ar ba mor hir y maent wedi byw yn y DU.

Mae statws sefydlog ar gael i’r rhai sydd wedi byw yn y DU yn barhaus ers pum mlynedd erbyn 31 Rhagfyr 2020 (neu erbyn y dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb). Mae’n caniatáu i bobl aros am gyfnod amhenodol, oni bai eu bod yn gadael y DU am fwy na phum mlynedd.

Gellir rhoi statws cyn-sefydlog i bobl a ddechreuodd fyw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 (neu erbyn y dyddiad y bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb) ond nad ydynt eto wedi byw yn y DU yn barhaus ers pum mlynedd. Mae’n caniatáu iddynt aros yn y DU am bum mlynedd arall.

Codwyd pryderon ym mis Chwefror 2019 gan is-bwyllgor Cyfiawnder yr UE Tŷ’r Arglwyddi, bod y cynllun yn or-ddibynnol ar lwyfannau digidol ac ar-lein, a rhybuddiodd fod y diffyg dogfennau ffisegol sydd ar gael i ddinasyddion yn cynnwys tebygrwydd clir i sgandal Windrush.

Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yr EUSS yn parhau i weithredu os bydd y DU yn gadael heb gytundeb. Mae’n nodi mai’r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais fydd 30 Mehefin 2021, neu 31 Rhagfyr 2020, os bydd y DU yn gadael yr UE heb gytundeb.

Ar Awst 2019, roedd 20,600 o ddinasyddion yr UE yng Nghymru wedi gwneud cais i’r EUSS, sef oddeutu 29% o ddinasyddion yr UE (ac eithrio’r Gwyddelod) sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd. Dyma’r gyfran isaf o holl wledydd y DU, yn ôl dadansoddiad Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin:

Ffynhonnell: Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin

Dim Cytundeb

Ar 4 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur polisi newydd, Trefniadau mewnfudo mewn sefyllfa o adael heb gytundeb ar gyfer dinasyddion yr UE sy’n cyrraedd ar ôl Brexit. Mae’n nodi:

“free movement as it currently stands under EU law will end on 31 October 2019. However, Parliament has provided that much of the free movement framework will remain in place under the EU (Withdrawal) Act 2018 until Parliament passes primary legislation to repeal it.”

Nid yw’n glir pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r brif ddeddfwriaeth.

Mae dadansoddiad Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin yn nodi bod hyn yn golygu y gallai gwladolion yr UE barhau i ddod i’r DU o dan yr hyn sydd yn ei hanfod yn gyfraith rhyddid i symud a gedwir tan 31 Rhagfyr 2020, ac ni fyddai’n ofynnol iddynt reoleiddio eu statws tan 31 Rhagfyr 2020.

Mae’r Llyfrgell yn tynnu sylw at ddadansoddiad gan Colin Yeo, bargyfreithiwr a blogiwr mewnfudo, sy’n esbonio:

“In legal terms, although this is nowhere actually stated in the policy, it looks like the Immigration (European Economic Area) Regulations 2016 which currently implement EU free movement law in the UK will be incorporated into UK law and continue in place whether the UK leaves with a deal or not. Almost exactly the same rules governing the entry and residence of EU citizens will therefore apply on 1 November 2019 as on 31 October 2019, come what may.”

Caniatâd i Aros Dros Dro i Ddinasyddion Ewropeaidd

Roedd y cynllun ‘Caniatâd i Aros Dros Dro i Ddinasyddion Ewropeaidd’ (ELTS) yn bolisi a gyflwynwyd gan Lywodraeth Theresa May, ond cafodd ei ail-gyhoeddi o dan yr enw ‘Euro TLR’ gan Lywodraeth Johnson (â rhai newidiadau, a nodir yn yr erthygl hon).

Fe’i lluniwyd ar gyfer dinasyddion yr UE sy’n cyrraedd y DU rhwng 1 Tachwedd 2019 a 31 Rhagfyr 2020 os bydd y DU yn gadael heb gytundeb.

Mae’n statws gwirfoddol, sy’n caniatáu i bobl aros yn y DU am 36 mis fel pont i’r system fewnfudo newydd. Mae hyn yn golygu y byddai dal yn ofynnol i rywun â statws Euro TLR fodloni’r meini prawf o dan y system fewnfudo yn y dyfodol i aros yn y DU ar ôl i’r 36 mis ddod i ben.

Gwaith craffu gan y Cynulliad

Ym mis Mai 2019, cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Chyfreithloni Ychwanegol (EAAL) sesiwn dystiolaeth ar fewnfudo ar ôl Brexit. Cafodd dystiolaeth gan yr Athro Jonathan Portes, Madeleine Sumption o’r Arsyllfa Ymfudo ym Mhrifysgol Rhydychen (ac aelod o’r Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo), Victoria Winckler o Sefydliad Bevan, a Marley Morris o’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus.

Dros yr haf fe wnaeth y Pwyllgor alw am dystiolaeth a chynhaliodd drafodaeth ar-lein i gasglu barn ar gynigion y Papur Gwyn a’r EUSS, a bydd yn parhau â’i ymchwiliad yn nhymor yr hydref.

Mae Llywodraeth newydd y DU wedi ymrwymo i gyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer system fewnfudo newydd, a bydd yn rhaid iddi fod ar waith erbyn mis Ionawr 2021.

Yr her i Aelodau a phwyllgorau’r Cynulliad yw craffu ar fater sy’n symud yn gyflym ac sy’n effeithio’n uniongyrchol ar bobl sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru, ac sy’n cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus datganoledig, heb fod ag unrhyw bŵer uniongyrchol i’w newid.

* Mae hwn yn faes polisi sy’n symud yn gyflym, felly dylid trin yr wybodaeth hon yn gywir ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn.*


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: