Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymunedau

Pwy ddylai fod â’r hawl i bleidleisio?

A ddylai pobl a gafodd eu collfarnu o droseddau sy'n ddigon difrifol i warantu carchar golli eu hawl i bleidleisio? Neu a ydynt yn cadw eu hawliau dinasyddiaeth hyd yn oed pan maent yn cael eu carcharu? A yw'r gwaharddiad yn effeithio'n anghymesur ar rai grwpiau o bobl? Beth yw diben ac effaith gwahardd carcharorion rhag pleidleisio? Dyma rai o'r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei ymchwiliad diweddar yn archwilio a ddylid caniatáu i garcharorion bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol Cymru. Ymgymerodd y pwyllgor â'i waith yn dilyn gwahoddiad y Llywydd yng nghyd-destun ehangach diwygio etholiadol y Cynulliad. Datganolwyd y cyfrifoldeb dros etholiadau Cymru yn 2017, ac mae'r Cynulliad wrthi'n ystyried deddfwriaeth i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, ymhlith darpariaethau eraill.

Amcangyfrif o amser darllen: 7 Munud

20 September 2019

Darllenwch yr erthygl yma yn Gymraeg | View this post in Welsh

A ddylai pobl a gafodd eu collfarnu o droseddau sy’n ddigon difrifol i warantu carchar golli eu hawl i bleidleisio? Neu a ydynt yn cadw eu hawliau dinasyddiaeth hyd yn oed pan maent yn cael eu carcharu? A yw’r gwaharddiad yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau o bobl? Beth yw diben ac effaith gwahardd carcharorion rhag pleidleisio?

Dyma rai o’r materion a drafodwyd gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn ei ymchwiliad  diweddar yn archwilio a ddylid caniatáu i garcharorion bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad ac etholiadau llywodraeth leol Cymru.

Ymgymerodd y pwyllgor â’i waith yn dilyn gwahoddiad y Llywydd yng nghyd-destun ehangach diwygio etholiadol y Cynulliad. Datganolwyd y cyfrifoldeb dros etholiadau Cymru yn 2017, ac mae’r Cynulliad wrthi’n ystyried deddfwriaeth i ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, ymhlith darpariaethau eraill.

Beth yw’r sefyllfa bresennol a pham mae’n newid?

Yn y DU, mae’r rhan fwyaf o garcharorion sy’n bwrw dedfrydau o garchar wedi’u gwahardd rhag pleidleisio ym mhob etholiad. Mae’r darpariaethau presennol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, ond mae atal carcharorion rhag pleidleisio’n dyddio’n ôl i 1870 pan wrthodwyd hawliau dinasyddiaeth i droseddwyr (a elwir yn ‘farwolaeth ddinesig’).

Caniateir i garcharorion ar remand (naill ai heb eu collfarnu neu’n aros i gael eu dedfrydu) bleidleisio. Caniateir i bobl sy’n cael eu carcharu am fethu â thalu dirwyon, dirmyg llys, ac (ers 2018) y rhai ar drwydded dros dro neu dag electronig bleidleisio. Ond fel y canfu’r Pwyllgor, ychydig iawn o’r bobl hyn sy’n ymwybodol o’u hawliau ar hyn o bryd.

Ers 2005, canfuwyd dro ar ôl tro fod gwaharddiad y DU yn mynd yn groes i gyfraith hawliau dynol ryngwladol gan ei bod yn gymwys beth bynnag yw hyd y ddedfryd neu ddifrifoldeb y drosedd. Roedd Llys Hawliau Dynol Ewrop – nad yw’n gorff yr UE – o’r farn bod y gwaharddiad yn ddiwahân ac yn anghymesur.

Arweiniodd y dyfarniadau at ddadl wleidyddol ynghylch y materion cyfansoddiadol a gododd yn sgil dyfarniad o’r fath, gan gynnwys perthynas y DU â Llys Hawliau Dynol Ewrop, natur sofraniaeth seneddol, ac a ddylid diwygio Deddf Hawliau Dynol 1998.

Yn 2017, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i roi’r hawl i garcharorion yn y DU i bleidleisio os ydynt ar drwydded dros dro neu dan gyrffyw lle maent yn cael eu cyfyngu i’r cartref (tag electronig). Effeithiodd y mesur ar oddeutu 100 o garcharorion, allan o gyfanswm o 83,000 o garcharorion yn y DU. Ardystiodd Pwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop, sy’n gyfrifol am oruchwylio’r ffordd y caiff dyfarniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop eu rhoi ar waith, gamau’r DU fel ymateb cymesur.

Ym mis Ebrill 2019 canfu Llys Hawliau Dynol Ewrop eto achos o dorri’r ConfensiwnRoedd hyn er gwaethaf diwygiadau Llywodraeth y DU gan eu bod yn ymwneud ag etholiadau cyn y newidiadau hynny. Felly mae’n aneglur o hyd a fydd sefyllfa bresennol y DU yn bodloni Llys Hawliau Dynol Ewrop yn yr hirdymor.

Sut y daeth y Pwyllgor i’w gasgliad?

Cafodd Pwyllgor y Cynulliad dystiolaeth gan academyddion, elusennau, cyrff etholiadol, Comisiynydd y Dioddefwyr, carcharorion, a chynhaliodd fforwm trafod ar-lein cyhoeddus.

Trafododd y Pwyllgor y dadleuon a ganlyn yn erbyn rhoi hawl i fwy o garcharorion bleidleisio:

  • Nid yw hawliau pleidleisio yn hawliau cyffredinol nac absoliwt: mae Llys Hawliau Dynol Ewrop wedi ei gwneud yn glir y gellir gwrthod pleidlais i rai grwpiau o bobl. Roedd rhai o’r ymatebwyr o’r farn bod y cyfyngiadau cyfredol yn y DU yn deg;
  • Nid yw’r cyhoedd yn cefnogi hawliau pleidleisio i garcharorion: canfu’r pôl mwyaf diweddar o ‘Gymru a Chanolbarth Lloegr’ fod 60 y cant o bobl yn erbyn carcharorion yn pleidleisio (er bod hyn yn ostyngiad o 73 y cant ddwy flynedd ynghynt);
  • Mae pleidleisio yn rhan o’r ‘contract cymdeithasol’: mae rhai o’r ymatebwyr, a Llywodraeth y DU, yn dadlau, os yw pobl yn torri’r contract cymdeithasol drwy gyflawni troseddau, na allant gymryd rhan mewn democratiaeth; ac
  • Mae’n annhebygol y bydd carcharorion yn achub ar y cyfle i bleidleisio: dywedodd carcharorion a staff carchardai wrth y Pwyllgor fod y nifer sy’n manteisio yn debygol o fod yn isel.

Trafodwyd y dadleuon a ganlyn dros ddarparu hawliau pleidleisio i fwy o garcharorion, neu’r holl garcharorion, gan y Pwyllgor:

  • Mae pleidleisio yn hawl nid yn fraint: dadleuodd rhai na ddylai carcharu ddileu’r hawl i bleidleisio yn awtomatig, a dylai’r rhagdybiaeth fod i gynifer o bobl â phosibl gael eu cynnwys mewn democratiaeth;
  • Mae carcharorion yn ddinasyddion o hyd: dadl o blaid mwy o hawl i garcharorion bleidleisio oedd bod cael gwared ar y bleidlais yn arwydd nad ydynt yn rhan o gymdeithas. Nododd carcharorion eu bod yn dal i dalu treth ar gynilion ac unrhyw enillion tra yn y carchar, a’u bod yn haeddu cynrychiolaeth o ganlyniad i hyn;
  • Barn y cyhoedd: fel y nodwyd uchod, nid yw barn y cyhoedd o blaid carcharorion yn pleidleisio, ond mae arwyddion bod hyn yn newid. Nododd dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn 2005 na ddylai atal carcharorion rhag pleidleisio fod yn seiliedig ar yr hyn a allai dramgwyddo barn y cyhoedd yn unig. Dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor fod deddfwriaeth weithiau’n dilyn barn y cyhoedd, ac ar adegau eraill mae barn y cyhoedd yn dilyn deddfwriaeth (fel, er enghraifft, y gwaharddiad ar ysmygu);
  • Mae pleidleisio yn helpu gydag ailsefydlu ac ailintegreiddio: er bod y dystiolaeth empeiraidd ar gyfer y theori hon yn gyfyngedig, mae’n un a ddyfynnwyd gan y Fonesig Hale (Llywydd y Goruchaf Lys bellach). Dywedodd fod yn rhaid i unrhyw gyfyngiad ar hawliau sylfaenol fod ar drywydd nod cyfreithlon, a chwestiynodd a oedd y gwaharddiad pleidleisio yn gosb ychwanegol neu a oes bwriad i annog ymdeimlad o gyfrifoldeb dinesig. Os mai’r olaf sy’n wir, gellid dadlau bod hyn yn fwy tebygol o gael ei gyflawni drwy gadw’r bleidlais, er mwyn annog ailintegreiddio i’r gymdeithas;
  • Mae carcharorion yn derbyn gwasanaethau cyhoeddus a dylent allu dwyn y rhai sy’n gwneud penderfyniadau i gyfrif: mae gan garcharorion ddiddordeb o hyd mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn uniongyrchol, a thrwy eu cysylltiadau y tu allan i’r carchar;
  • Cynsail rhyngwladol: Mae 21 o aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop yn caniatáu i bob carcharor bleidleisio heb unrhyw gyfyngiadau. Mae 18 o aelod-wladwriaethau (gan gynnwys y DU) yn caniatáu i rai carcharorion bleidleisio. Nid yw wyth aelod-wladwriaeth yn caniatáu i unrhyw garcharorion bleidleisio; ac
  • Mae’r gwaharddiad ar garcharorion yn pleidleisio yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau o bobl: canfu gwaith ymchwil Canolfan Llywodraethiant Cymru fod pobl o Gymru sydd o ardaloedd difreintiedig a chymunedau BME yn cael eu gorgynrychioli ym mhoblogaeth carchardai, ac felly maent yn fwy tebygol o gael eu hatal rhag pleidleisio. Dangosodd tystiolaeth atodol y Ganolfan fod y gyfradd carcharu 2.8 gwaith yn uwch ar gyfer pobl o’r pum ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru o’i gymharu â’r gyfradd a gofnodwyd ar gyfer y pum ardal leiaf difreintiedig. Er bod llai na thraean (28 y cant) o boblogaeth Cymru yn byw ym Mlaenau Gwent, Merthyr Tudful, Caerdydd, Rhondda Cynon Taf, a Chasnewydd, cofnododd bron i hanner (49 y cant) o’r holl garcharorion o Gymru ‘gyfeiriad cartref’ yn yr ardaloedd hyn.
Adroddiad y Pwyllgor / Gwasanaeth Ymchwil

Trafododd y Pwyllgor hefyd a ddylid cysylltu’r hawl i bleidleisio â hyd dedfryd, math o drosedd, dyddiad rhyddhau, neu a ddylid rhoi pŵer i farnwyr ddileu hawliau pleidleisio wrth ddedfrydu. Penderfynodd mai hyd dedfryd oedd y ffordd fwyaf priodol o bennu cymhwysedd.

Un o’r prif faterion ymarferol yw bod 37 y cant o garcharorion sydd â chyfeiriad yng Nghymru (1,740 o garcharorion) yn cael eu cadw mewn 104 o garchardai yn Lloegr. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid cofrestru carcharorion yn eu cyfeiriad cartref diweddaraf neu gyda datganiad o gysylltiad lleol i bennu eu cymhwysedd i bleidleisio yn etholiadau Cymru.

Beth oedd casgliad y Pwyllgor?

Mae mwyafrif y Pwyllgor yn argymell y dylid caniatáu i garcharorion sydd â chyfeiriad cartref yng Nghymru ac sy’n bwrw dedfrydau llai na phedair blynedd bleidleisio yn etholiadau Cymru. Nid oedd Mark Isherwood AC ac Mohammad Asghar AC yn cytuno â’r argymhelliad hwn.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn nodi fel a ganlyn:

Rydym yn cydnabod y bydd rhai yn meddwl ein bod wedi mynd yn rhy bell, ac eraill nad yn teimlo ydym wedi mynd yn ddigon pell. Fodd bynnag, credwn fod hwn yn gyfaddawd a fydd yn helpu i ailintegreiddio a chynnwys carcharorion fel rhan o’n cymdeithas ehangach; bydd yn sicrhau y gellir cydymffurfio â dyfarniad ECtHR, yn ôl llythyren ac ysbryd y penderfyniad; ni fydd yn rhy gymhleth i’w weinyddu, a bydd yn cydnabod pryder y cyhoedd drwy beidio â chynnig yr hawl i bleidleisio i bob carcharor.

[..] Credwn fod [yr argymhelliad] yn taro’r cydbwysedd priodol drwy ymestyn yr etholfraint mewn ffordd sy’n eithrio’r rhai a ddedfrydwyd i garchar am y troseddau mwyaf difrifol. Mae hefyd yn cydnabod y polisi o ran dedfrydu yng Nghymru a Lloegr, sy’n ystyried dedfrydau o bedair blynedd neu ragor fel rhai “tymor hir”.

Cytunodd Llywodraeth Cymru â’r argymhelliad, ac ymrwymodd i gyflwyno deddfwriaeth cyn 2021 er mwyn caniatáu i garcharorion sy’n bwrw dedfrydau llai na phedair blynedd bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Mae Adran 12 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar hyn o bryd yn darparu bod unrhyw un sy’n gymwys i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad hefyd.

Ond nid yw’n eglur sut y bydd y argymhelliad y Pwyllgor yn cael ei gyflwyno ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

Mewn llythyr dilynol at y Pwyllgor, mae Llywodraeth Cymru yn dweud nad yw’n credu “y bydd yn bosibl datrys y materion hyn i gynnwys darpariaeth ym Mil Senedd ac Etholiadau (Cymru)” oherwydd “materion cyfreithiol a gweinyddol sylweddol”. Mae’n dweud y bydd Llywodraeth Cymru “yn mynd ar drywydd y cyfrwng deddfwriaethol priodol i gyflwyno darpariaeth cyn gynted â phosibl [er mwyn galluogi carcharorion a phobl ifanc o Gymru sydd yn y ddalfa sydd wedi cael dedfryd o garchar am lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol].

Beth yw’r sefyllfa yng ngweddill y DU?

Roedd pwyllgor cydraddoldeb Senedd yr Alban yn argymell y dylid codi’r gwaharddiad pleidleisio yn ei gyfanrwydd ar gyfer etholiadau’r Alban.

Ar ôl ymgynghoriad, cyhoeddodd y Llywodraeth Fil ym mis Mehefin 2019 a fyddai’n caniatáu i garcharorion sy’n bwrw dedfrydau llai na 12 mis bleidleisio, pe bai’n cael ei basio.

Cymerodd Llywodraeth yr Alban gamau adferol yn ddiweddar er mwyn caniatáu i garcharorion bleidleisio yn is-etholiad Shetland. Cymerwyd y camau cyn i’r Bil fynd drwy’r Senedd i gadw at ddyfarniadau Llys Hawliau Dynol Ewrop yn y byrdymor.

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynigion i ehangu’r etholfraint yn Lloegr a Gogledd Iwerddon (lle nad yw materion etholiad wedi’u datganoli) y tu hwnt i’r grwpiau o garcharorion sy’n gymwys i bleidleisio ar hyn o bryd.

Beth nawr?

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad ac argymhellion y Pwyllgor ddydd Mercher 25 Medi. Byddai angen cefnogaeth dwy ran o dair o Aelodau’r Cynulliad (‘uwch fwyafrif’) ar gyfer unrhyw newid i etholfraint y Cynulliad (ond nid i’r etholfraint ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yn unig).

Disgwylir Bil llywodraeth leol yn yr hydref, ac mae’r Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wrthi’n symud drwy’r Cynulliad. O ystyried natur ddadleuol y mater, bydd yn ddiddorol gweld sut y bydd diwygio o ran carcharorion yn pleidleisio mewn etholiadau lleol ac etholiad y Cynulliad yn datblygu.


Erthygl gan Hannah Johnson, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

%d bloggers like this: