Dyfarniad y Goruchaf Lys ynghylch yr addoediad a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru

Cyhoeddwyd 25/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Ddoe, dyfarnodd y Goruchaf Lys fod penderfyniad Prif Weinidog y DU i gynghori Ei Mawrhydi y Frenhines i addoedi Senedd y DU am bum wythnos yn anghyfreithlon. Mae'r erthygl hon yn rhoi trosolwg o'r digwyddiadau cyn yr achos, ynghyd â phenderfyniad y Llys a'i oblygiadau i Gymru.

Y penderfyniad i addoedi

Ar 28 Awst, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU mewn llythyr at ASau y byddai'n addoedi (atal) y Senedd o ail wythnos mis Medi tan 14 Hydref.

Dywedodd Prif Weinidog y DU fod y sesiwn seneddol bresennol wedi para am dros 340 diwrnod, ac mai hon oedd yr ail sesiwn hiraf mewn bron i 400 mlynedd. Esboniodd y byddai addoedi'r Senedd yn ei alluogi i "gyflwyno agenda ddeddfwriaethol newydd a fyddai'n feiddgar ac uchelgeisiol wrth adnewyddu ein gwlad ar ôl Brexit".

Yn dilyn cais ffurfiol y Prif Weinidog i'w Mawrhydi y Frenhines, cafodd y Senedd ei haddoedi yn ystod oriau mân bore Mawrth 10 Medi.

Roedd y penderfyniad hwn yn ddadleuol gan ei fod yn lleihau faint o amser oedd gan y Senedd cyn dyddiad Brexit, sef 31 Hydref. Cafodd ei herio ar unwaith yn y llysoedd a chyrraedd y Goruchaf Lys ar 17-19 Medi.

Cyrraedd y Goruchaf Lys: yr apeliadau

Ystyriodd y Goruchaf Lys ddau ddyfarniad gwrthgyferbyniol o'r llysoedd is. Roedd yr achosion yn cael eu nabod yn ôl enw'r prif barti, sef 'achos Cherry' ac 'achos Miller (rhif 2)':

1. Cherry and others (Respondents) v Advocate General for Scotland (Appellant) (Scotland)

Dechreuodd yr achos hwn yn Llys Sesiwn yr Alban, dan arweiniad Joanna Cherry QC AS gyda chefnogaeth 75 o seneddwyr (gan gynnwys 13 o ASau Cymru) a'r Good Law Project. Yn wreiddiol, gwrthodwyd yr her gan y Llys ar 4 Medi ond cafodd ei wrthdroi yn unfrydol yn ddiweddarach gan Uchel Lys Cyfiawnder yr Alban. Dyfarnodd y Llys o blaid 'Cherry and others' ar y sail bod yr addoediad “yn anghyfreithlon gan mai ei bwrpas oedd rhwystro'r Senedd”. Apeliodd Llywodraeth y DU y penderfyniad hwn i'r Goruchaf Lys.

2. R (on the application of Miller) (Appellant) v The Prime Minister (Respondent)

Dechreuodd yr ail achos yn Uchel Lys Cymru a Lloegr ar 5 Medi. Fe’i dechreuwyd gan yr ymgyrchydd Gina Miller, ac ymunodd chwe chefnogwr â hi yn ddiweddarach, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban a 'r cyn Brif Weinidog Syr John Major. Gwrthododd y Llys yr her hon a dyfarnodd o blaid Llywodraeth y DU. Dyfarnodd y Llys fod y cwestiwn ynghylch addoedi yn un gwleidyddol (yn hytrach na mater cyfreithiol). Apeliodd 'Miller and others' y penderfyniad hwn i'r Goruchaf Lys.

Y prif ddadleuon

Y ddau brif fater i'r Goruchaf Lys eu hystyried oedd:

  • yn gyntaf, a oedd penderfyniad y Prif Weinidog i gynghori Ei Mawrhydi y Frenhines i addoedi'r Senedd yn fater y gallai'r Llys ddyfarnu yn ei gylch (h.y. a oedd modd ei gyfiawnhau yn y llysoedd), ac
  • yn ail, os oedd modd cyfiawnhau'r penderfyniad ac nad oedd yr apêl yn un academaidd, a oedd y cyngor hwnnw a roddwyd gan y Prif Weinidog yn gyfreithlon.

Dadleuodd Llywodraeth y DU nad oedd yn briodol i'r llysoedd ddyfarnu ar gyfreithlondeb addoedi. Dadleuwyd bod addoedi yn fater gwleidyddol a'i fod yn rhywbeth y gwaherddir y llysoedd rhag dyfarnu arno.

Fodd bynnag, dadleuodd yr Arglwydd Pannick QC, ar ran Gina Miller fod yr addoediad pum wythnos yn rhwystro'r Senedd rhag craffu ar waith Llywodraeth y DU ar adeg pan oedd yn hollbwysig y ceir gwaith craffu o'r fath. Roedd yn dadlau bod dymuniad y Prif Weinidog i atal y Senedd rhag craffu wedi dylanwadu ar hyd yr addoediad a bod hwn yn rheswm amhriodol dros addoedi'r Senedd. Pwysleisiodd yr Arglwydd Pannick QC, gan fod goruchafiaeth seneddol yn egwyddor o'n cyfraith, y dylid datgan bod penderfyniad y Prif Weinidog yn anghyfreithlon.

Y dyfarniad

O ran y mater cyntaf, dyfarnodd y Goruchaf Lys y gellir cyfiawnhau cyfreithlondeb cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines. Hynny yw, mae gan y Llysoedd awdurdodaeth i benderfynu ar fodolaeth a therfynau pŵer uchelfraint. Daeth y Llys i'r casgliad bod yr achos hwn yn ymwneud â therfynau'r pŵer i gynghori'r Frenhines i addoedi'r Senedd.

O ran ail fater, dyfarnodd y Llys fod y penderfyniad i gynghori'r Frenhines i addoedi'r Senedd yn anghyfreithlon gan ei fod yn “rhwystro neu atal y Senedd rhag gallu cyflawni ei swyddogaethau cyfansoddiadol heb gyfiawnhad rhesymol.”

Daeth Llywydd y Goruchaf Lys, yr Arglwyddes Hale, i’r casgliad bod effaith addoedi ar sylfeini ein democratiaeth yn “eithafol”, ac nad oedd “dim rheswm - heb sôn am reswm da” i addoedi'r Senedd am bum wythnos.

Ar ben hynny, dyfarnodd y Llys fod y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor (yr arweiniodd cyngor anghyfreithlon y Prif Weinidog ato) hefyd yn anghyfreithlon, yn ddi-rym a heb gael dim effaith, ac y dylid ei ddileu. Roedd pob un o’r 11 ustus yn unfrydol yn eu dyfarniad nad yw’r Senedd wedi cael ei haddoedi.

Y Goblygiadau i Gymru

Cafodd sylwadau Llywodraeth Cymru yn apêl Miller eu gwneud gan Gwnsler Cyffredinol Cymru. Yn y sylwadau hynny, dadleuodd Llywodraeth Cymru fod gweithredoedd Prif Weinidog y DU yn anghyfreithlon, gan ei fod, "yn ymwybodol ac yn bwrpasol", wedi mynd yn groes i egwyddor gyfansoddiadol Sofraniaeth Seneddol. O ran y canlyniadau penodol ac unigryw i Gymru, dywedwyd:

  • Bod gweithredoedd Prif Weinidog y DU yn rhwystro'r Cynulliad Cenedlaethol rhag gallu cynnal deialog â Senedd San Steffan ar adeg dyngedfennol;
  • Y byddai addoedi yn golygu y byddai Biliau Brexit mawr yn cwympo o ganlyniad i addoedi. Roedd y Biliau Brexit yn cynnwys pynciau fel pysgodfeydd, masnach ac amaethyddiaeth sydd o bwysigrwydd sylweddol i Gymru. Nid oedd y Cynulliad Cenedlaethol wedi deddfu yn y maes hwn, ac roedd wedi cydsynio i San Steffan ddeddfu arnynt gan ddeall y byddai Senedd San Steffan yn gwneud darpariaeth ddeddfwriaethol briodol ar y materion hyn mewn da bryd cyn ymadawiad y DU â'r UE;
  • Drwy addoedi, cafodd amser Senedd San Steffan a'r gweinyddiaethau datganoledig (gan gynnwys y Cynulliad) i graffu ei gwtogi'n sylweddol o ran gallu Gweinidogion i arfer pwerau eang i wneud is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Wrth ymateb i Gwestiwn Brys yn y Cyfarfod Llawn, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Cynulliad nad all “weld un ffordd ble mae Boris Johnson yn gallu aros yn ei swydd ar ôl beth mae'r llys wedi'i ddweud heddiw.”

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Ymatebodd Prif Weinidog y DU drwy ddweud y bydd yn parchu'r dyfarniad, er ei fod yn “anghytuno'n gryf” ag ef. Cadarnhaodd y bydd yn parhau i gynllunio ar gyfer Araith y Frenhines ac addawodd y byddai'n dal i sicrhau bod Brexit yn digwydd ar 31 Hydref. Yn flaenorol, roedd wedi dweud wrth y Llys, pe bai Llywodraeth y DU yn colli'r achos, ni fyddai am ailgynnull y Senedd cyn 14 Hydref - sef pryd yr oedd yr addoediad i fod i ddod i ben yn wreiddiol.

Fodd bynnag, awgrymodd yr Arglwydd Pannick QC i’r Goruchaf Lys y dylid ailgynnull Senedd y DU, ac mai mater i Lefarydd Tŷ’r Cyffredin a Llefarydd Tŷ’r Arglwyddi oedd penderfynu hynny.

Cytunodd y Goruchaf Lys gyda’r Arglwydd Pannick QC mai mater i Senedd y DU, a’r Llefarydd a’r Arglwydd Lefarydd yw penderfynu beth i’w wneud nesaf.

Cyhoeddodd y Llefarydd ddatganiad yn fuan wedyn yn croesawu'r dyfarniad a galwodd ar Dŷ'r Cyffredin i ailgynnull heddiw, ddydd Mercher 25 Medi.


Erthygl gan Sara Moran & Aled Evans, Cynulliad Cenedlaethol Cymru