Cyhoeddiadau Newydd: Amseroedd aros ysbytai a Dangosyddion perfformiad iechyd

Cyhoeddwyd 26/09/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/05/2021   |   Amser darllen munudau

Wrth adrodd am amseroedd aros yn y GIG yng Nghymru, mae’r ffocws ar amser rhwng atgyfeirio a thriniaeth ar gyfer triniaeth ddewisiol (‘elective’) (wedi’i gynllunio). Mae’r briff hwn yn trafod rhai o’r cwestiynau cyffredin am y llwybr rhwng atgyfeirio a thriniaeth.

Cyhoeddiad Newydd: Amseroedd aros ysbytai (PDF, 740KB)

Mae briff arall - Dangosyddion perfformiad iechyd - yn rhoi canllaw cyflym ar y targedau a’r ffynonellau data cyfatebol ar gyfer prif ddangosyddion perfformio GIG Cymru. Mae’n cynnwys atgyfeirio at driniaeth, gwasanaethau diagnostig a therapi, amseroedd aros canser, amser sy’n cael ei dreulio mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ac amseroedd ymateb ambiwlans.

Cyhoeddiad Newydd: Dangosyddion perfformiad iechyd (PDF, 740KB)


Erthygl gan Philippa Watkins, Rebekah James a Holly Kings, Ymchwil y Senedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru